Oedran, gwefannau bro, a’r cyfryngau digidol

Mae hi’n galonogol cael gweld bod Golwg360 am ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro. Falch bod rhywun gyda’r galluoedd penodol wedi gweld yr angen yma – o’r diwedd!

Dyma gopi o fy sylw ar yr eitem ar Golwg360:

Mae hi’n hen bryd cryfhau darpariaeth o newyddion lleol ar y we. Da iawn.

Mae’n rhaid cwestiynu’r pwyslais ar ganfod ‘pobol ifanc’ i wneud y gwaith – yn hytrach na pobol brwdfrydig a phrofiadol o unrhyw oedran.

Heblaw am hynny mae’r fenter yn swnio’n addawol iawn.

Ar yr eitem am hyn ar Newyddion 9 neithiwr dwedodd Dylan Iorwerth bod llwyddiant y papurau bro gwreiddiol oherwydd ymdrechion pobl ifanc. Efallai bod hyn yn wir ond dydy hyn ddim yn rheswm i eithrio pobl hŷn y tro hwn, neu gynnig rheswm iddyn nhw anwybyddu’r datblygiad.

Mae hyn yn fy atgoffa o SAWL eitem ar y teledu a radio am sawl agwedd o’r cyfryngau digidol dros y blynyddoedd o wefannau i apiau i ddigwyddiadau am dechnoleg, “Ai rhywbeth i’r to ifanc ydy hyn?”, “Rhywbeth i bobl ifanc y mae hyn yn dydy […]” ayyb ayyb. O’r Post Cyntaf i Taro’r Post i Heno, oes ’na rhyw fath o friff sydd yn gorfodi cwestiynau o’r fath? Mae’n od.

Ta waeth mae’r pwyslais yma yn hollol ddiangen, yn ystrydebol, ac yn eithrio pobl sydd ddim yn hunan-ddiffinio fel ‘ifanc’ – ac sydd fel arall am gyfrannu i fentrau fel hyn.

O hyn ymlaen gawn ni bwysleisio’r cyfraniadau gwerthfawr mae pob demograffeg yn gallu gwneud?

Oedran a thechnoleg

Pam ydy pobol yn cyfeirio at oedran yn aml iawn yn y cyd-destun technoleg a chyfryngau digidol?

Enghreifftiau o ddatganiadau sy’n blino fi:

‘Bydd y wefan yma yn gweithio yn iawn efo pobol ifanc ond fydd hen bobol ddim yn iwso fo’.

‘Iawn os ti eisiau defnyddio YouTube ond bydd yr hen bobol yn ddisgwyl rhywbeth arall fel DVD.’

‘Dylen ni penodi Gwilym am y busnes blogio ’ma yn y cwmni achos mae fe’n ifanc.’

‘Mae diddordeb mawr gyda fi yn y pwnc ond does dim gobaith o ran y system ’ma. Achos dw i’n hen.’

Dw i wedi sylwi’r agweddau yma yn aml iawn gyda phobol Cymraeg.

Siwr, rydyn ni’n gweld straeon am ddefnydd o’r teclyn newyddaf yn y wasg tu allan i Gymraeg o ran y ‘silver surfers’. Oh wow, mae hen bobol yn defnyddio e-bost (tua 1997-2000), blogio (tua 2002-2006), Twitter (tua 2010-2011) achos maen nhw eisiau cyfathrebu fel pobol eraill! QUELLE SURPRISE! (Gweler y darn am oedran yn y llyfr Cognitive Surplus gan Clay Shirky neu cofnod Suw).

Dw i ddim wedi gwneud unrhyw ymchwil go iawn ond dw i wedi clywed enghreifftiau o’r brawddegau uchod, yn Gymraeg yn enwedig, eithaf lot yn diweddar. Y gwir yw:

  1. Mae pobol sydd ddim yn gyffyrddus/hyderus gyda thechnoleg gallu bod yn ifanc.
  2. Ac mae pobol sydd yn gyffyrddus/hyderus gyda thechnoleg gallu bod yn ‘hen’ (beth bynnag ydy ‘hen’).
  3. Bydd pobol o bob math yn defnyddio pethau defnyddiol a diddorol os fydd gyda nhw cyfleoedd go iawn.
  4. Os rydyn ni – a’r wasg – yn tybio bod unrhyw grŵp neu demograffig yn geidwadol neu rhy araf neu tu hwnt i obaith, bydd rhai ohonyn nhw yn mabwysiadu’r ystrydeb i ryw raddau.

Rydyn ni’n cyfeirio at manteision pobol dros 50 oed neu 60 oed, sef profiad, straeon, weithiau doethineb. Dylen ni. Ond pa mor aml ydyn ni’n clywed am ymdrechion i ddysgu gyda’n gilydd – fel pobol o bob math gyda’n gilydd?