Dylai pob academydd dechrau gwefan (fel BOBI JONES)

BOBI JONES gan DogfaelArchwilio gwefan newydd R.M.JONES A.K.A. BOBI JONES ar hyn o bryd.

Dw i wedi bod yn meddwl yn diweddar, ‘dylai pob academydd dechrau gwefan’. Dw i’n methu meddwl am lot o academyddion Cymraeg gyda gwefannau. Wyt TI’n gallu?

Ambell waith dw i’n meddwl, hmm bydd e’n neis i ddarllen meddyliau ar blog gan Dr ____ neu Yr Athro ___.

Blog yw’r math o wefan hawsaf i’w diweddaru.

Felly o’n i’n meddwl bod y we wedi gwella gyda’i phresenoldeb cyn i mi weld y cynnwys.

Dw i ddim mor gyfarwydd ar ei waith ond dw i newydd lawrlwytho chwech (6) llyfr llawn felly does dim esgus nawr.

CHWECH LLYFR GAN R.M JONES A.K.A. BOBI JONES! Newyddion enfawr yn fy nhŷ i! Digon am dudalen Hedyn newydd! Adennill yr Iaith unrhyw un? Canu Gwirebol a dy foi Wittgenstein falle?

llun: Dogfael (CC)

Blog barnau dyddiol, yr angen

Mae Click on Wales newydd ail-gyhoeddi naw (9!) adolygiad llyfr ar yr un pryd gan gynnwys erthygl gan Daniel G. Williams, sef adolygiad o Bydoedd gan Ned Thomas. Fel crynodeb Saesneg o’r dyn a’i gwaith a meddwl mae’n wych.

Dw i wastad yn meddwl am Click on Wales a beth fyddwn i wneud gyda fe petasai rywun yn gofyn. Eithaf lot. Yn amlwg un o amcanion nhw yw dylanwad a thwf yn y busnes, y tanc meddwl. Gallen nhw wneud lot mwy i dyfu’r gymuned/cynulleidfa o gwmpas y blog.

Mae IWA ac Agenda yn wneud cyfraniad i Gymru ac efallai Click on Wales yw’r blog gorau, mwyaf cyson, am wleidyddiaeth a materion Cymreig ar hyn o bryd – er bod gyda nhw un gwendid.

Stori. Dw i wedi cyfrannu i’r blog. Nes i gynnig rhywbeth yn y ddwy iaith – ond doeddwn nhw ddim eisiau cyhoeddi’r fersiwn Cymraeg. Pam? Bydd unrhyw ddefnydd o Gymraeg yn agor y drysau i ormod o ddisgwyliadau. Well i ni ganolbwyntio ar Saesneg pur achos does dim digon o adnoddau gyda ni i “gyfieithu”, cyhoeddi erthyglau yn Gymraeg a chefnogi’r alw yna. Dyna oedd y polisi, yn llythrennol, pan nes i ofyn. Cofia, mae digon o le ar y we – nes i anfon yr erthygl dwywaith, erthygl am ddigwyddiad Cymraeg, a nes i dreulio amser i gywiro’r gramadeg gyda siaradwr iaith gyntaf. Dw i dim ond yn gofyn am erthygl Cymraeg nawr ac eto. (Dyma’r fersiwn Cymraeg – aeth e i’r we yn y pen draw, ar y blog yma.)

Yr unig beth fi angen dweud yw: dw i wedi bod yn meddwl mwy am y syniad o flog barnau yn Gymraeg, dyddiol. Dw i eisiau ei weld mwy nag erioed. Materion cyfoes, gwleidyddiaeth, amgylchedd, sefydliadau, arbenigwyr gwahanol. Fel arfer ar-lein dw i’n creu’r pethau dw i eisiau gweld (neu allanoli fy nymuniadau ar broject rhywun arall…!). Ond mae’r syniad yma yn wahanol, bydd rhaid i mi ofyn am dy help.

Dylai’r fanteision y syniad yma bod yn hollol amlwg. Llifo sgwrs trwy’r iaith Gymraeg a mwynhau’r buddion unigryw. “Language is the endlessly evolving basis for human creativity and identity” yn ôl Ned Thomas (yn ôl Daniel G. Williams).

Os oes gydag unrhyw un diddordeb dw i wedi paratoi cynllun drafft, cynllun “busnes” i ryw raddau. Dw i wedi clywed sôn am rhwydwaith hysbysebu gan Golwg360, bydda i’n fodlon mewnosod widget hysbysebu ond beth fydd y termau?