Rhwydwaith hysbysebion Cymraeg

Wythnos a hanner yn ôl gwnes i awgrymu system o addewidion i asesu’r galw am DVDs cyfresi Cymraeg.

Pam dydyn nhw (S4C neu’r cwmnïau cynhyrchu) casglu addewidion/pledges i asesu’r alw?

e.e. mae angen targed o 600 person i ryddhau Gwaith/Cartref ar DVD. Dwedwch ‘addwch yma os dych chi eisiau DVD o Gwaith/Cartref’ gyda chyfanswmfa/totalizer. Neu beth bynnag, dw i ddim yn sicr am y ffigyrau. Yn delfrydol bydd y wasanaeth yn casglu’r arian ac yn cadw’r arian yn saff.

Os fydd ddim digon o bobol i gyrraedd y targed mae pawb yn derbyn eu arian yn ôl – ar ôl mis neu dau neu dyddiad penodol.

Os rydyn ni’n bwrw’r targed, mae gyda ni rhyddhad DVD! DVDs yw’r enghraifft gorau ond mae’r syniad yn gweithio gyda llyfrau papur hefyd.[…]

O ran marchnadoedd gwahanol o bob math mae’r broblem ‘iâr a’r wy’ yn un cyffredin yn Gymraeg ac efallai ym mhob iaith leiafrifol. Mae cwmnïau yn poeni am brinder o gwsmeriaid neu ddiffyg dosbarthiad effeithiol. Oes pwynt bwrw ymlaen gydag unrhyw fenter? Yn aml iawn mae’r syniad yn mynd i’r silff lle mae syniadau Cymraeg eraill yn mynd i gysgu. Faint o fentrau sydd ddim wedi dechrau achos diffyg hyder/ymchwil yn hytrach na diffyg cwsmeriaid?

Mae’r farchnad DVDs o gyfresi S4C yn enghraifft. Mae Ifan Morgan Jones yn blogio am enghraifft arall, sef y marchnad hysbysebion ar-lein. Sut allai Golwg360 gwella eu helw o hysbysebion? Mae fe’n awgrymu rhwydwaith ar draws gwefannau Cymraeg:

Felly sut mae datrys y broblem yma yn y presennol? Wel, un ateb posib fyddai sefydlu ryw fath o system lle mae sawl gwefan Cymraeg yn rhannu’r un hysbysebion. Byddai unigolyn yn cael ei dalu i gasglu hysbysebion gan gwmnïau Cymraeg, ac fe fyddai’r hysbysebion yna yn ymddangos ar sawl un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, e.e. Golwg 360, Maes-e, Lleol.net, Blogmenai, ayyb. Byddai’r gwefannau yna wedyn yn cael canran o’r arian hysbysebu yn dibynnu ar faint o bobol sy’n eu gweld neu’n clicio ar yr hysbyseb.

Mae’r syniad yma yn atyniadol iawn. Dw i wedi gweld sawl llwyddiant o rwydweithiau hysbysebion mewn ieithoedd eraill.

Byddwn i’n ystyried hysbysebion uniaith Gymraeg ar rhai o fy ngwefannau i fel Y Twll. Ar hyn o bryd dw i’n rheoli Blogiadur a Maes E ac yn gyd-sefydlwr Hacio’r Iaith felly mae sawl cyfle i drafod y posibilrwydd gyda fy nghyd-aelodau/blogwyr. Dw i’n colli arian ar wefannau Cymraeg ar hyn o bryd! Pe taswn i’n gallu codi arian i dalu’r costau baswn i eisiau treulio mwy o amser arnyn nhw i’w ddatblygu. Dw i wir eisiau diweddaru Blogiadur a Maes E yn enwedig. Mae’r breuddwyd o ‘dolen adborth positif’ yn gyffrous – hynny yw, rydyn ni eisiau bod yn y sefyllfa lle mae mwy o bostio ar y we yn tyfu’r farchnad ac ecosystem o wefannau Cymraeg.

Y broblem yw, er bod i wedi clywed y syniad penodol yma o’r blaen dw i erioed wedi derbyn neges benodol i ofyn am y posibilrwydd! Does dim niwed os wyt ti’n gofyn. Rydyn ni wedi dod yn ôl i’r addewidion/pledges eto. Beth am ddechrau rhywbeth ar PledgeBank (ar gael yn Gymraeg i raddau)?

Yn sgil addewidion fel datganiadau o ddiddordeb bydd y data isod yn werthfawr:

  • os oes diddordeb yn hysbysebion gyda gwefannau (bydd rhai yn gwrthod ymddangos hysbysebion, sydd yn hollol iawn)
  • ffigyrau ymwelwyr
  • mewnwelediadau eraill i ‘gymunedau’/cynulleidfaoedd y gwefannau
  • unrhyw awgrymiadau, e.e. mathau o hysbysebion mae gwefannau yn fodlon ymddangos – lluniau, testun (fel Google AdWords mae testun yn haws i’w gyfansoddi ac yn haws i’w werthu), ayyb

Mae’r cysyniad o rwydwaith yn swnio fel rhywbeth mawr. Ond mae pob rhwydwaith yn dechrau gydag un cysylltiad. Byddwn i’n dechrau gyda thri neu bedwar gwefan fel prawf. Fydd ddim angen datblygu unrhyw feddalwedd, jyst gwnaf y peth fel system ddynol trwy ebost i weld os oes potensial.

Mae Ifan yn esbonio’r broblem ‘iâr a’r wy’:

Anfantais system o’r fath ydi mai prin iawn ydi’r gwefannau Cymraeg y tu hwnt i Golwg 360 sy’n denu digon o ddefnyddwyr i ennill unrhyw arian mawr drwy hysbysebu. Efallai y byddai angen i ryw 50 o flogiau gymryd rhan er mwyn sicrhau bod y fenter yn denu digon o hysbysebwyr er mwyn gallu cyflogi rhywun i’w casglu yn y lle cyntaf.

Wel mae rhestr o gannoedd o flogiau Cymraeg yma. Beth am y gwefannau sydd ddim yn bodoli fel mentrau eto achos maen nhw yn aros am ffynhonnell fach o arian er mwyn ddechrau? Yn fy marn i mae Golwg360 yn bodoli mewn lle unigryw i archwilio’r cyfle yma i’r we Gymraeg ac i’u busnes nhw.