Meddwl am dermau Cymraeg am ethnigrwydd, hil, ac ati

Mae termau am ethnigrwydd, hil, ac ati, yn bwysig.

Mae’n iawn bod pobl yn ystyried sut yn union i gyfleu grwpiau neu gategorïau o pobl a’i profiadau a sefyllfaoedd, a pharchu pobl.

Wrth gwrs mae hiliaeth mewn sawl ffurf yn brofiad dyddiol i lawer o bobl o hyd.

Yn y Saesneg mae termau fel ‘people of colour’ wedi eu defnyddio ers blynyddoedd (ers o leiaf 1796, ac roedd MLK wedi defnyddio rhywbeth tebyg) ac wedi cael llawer mwy o ddefnydd yn ddiweddar.

Gofynnais i ffrind os oes term cymharol yn y Gymraeg. Dyma sut mae fy ffrind, arbenigwr ar termau a chyfieithu, wedi ymateb mewn neges WhatsApp (copiwyd yma gyda’i ganiatâd):

Ie mae hwn yn un anodd iawn iawn! Dw i wedi bod yn pendroni uwch ei ben ers blynyddoedd a dweud y gwir! Mewn gwirionedd dyw “pobl o liw” ddim wir yn gweithio’n ramadegol yn fy marn i, mae’n awgrymu ‘people from colour’. Mewn gwirionedd does dim ishe’r ‘o’ yna, ‘pobl liw’ ddyle fe fod (cf. people of Wales = pobl Cymru?). Ond i fi dyw ‘pobl liw’ ddim wir yn gweithio, mae jyst yn swnio’n rhy rhyfedd. Eironig ond dw i’n credu mai dyna’r term ddefnyddiodd Meic Stevens yn ddiweddar!

Felly ie, es i am ‘pobl groenliw’ ar ôl meddwl yn hir amdano fe. Dw i heb ymgynghori arno fe gyda llawer o bobl groenliw heblaw [dileuwyd enw person]. Ond dilyn dau derm sy’n cael eu defnyddio’n barod o’n i, sef pobl groenddu a phobl groendywyll. A phobl groenwyn! Yn fy mhrofiad i, does dim byd negyddol yn y termau yma yn Gymraeg. Ac mae jyst yn creu ansoddair mae modd ei ddefnyddio yn eitha hawdd ac sy’n llifo yn fy marn i achos bod e’n dilyn patrwm y lleill.

Beth mae pobl eraill yn meddwl am y termau ‘pobl groenliw’, ‘person croenliw’, ‘menyw groenliw’, ayyb? Dw i eisiau clywed yn enwedig wrth bobl sydd yn y categorïau fel petai, a phobl sydd yn arbenigo mewn termau. Fel person sydd yn y categori ‘person croenliw’ does dim gwrthwynebiad gyda fi.