Bil ieithoedd swyddogol: o #westernfail i fethiannau go iawn

Cofia #westernfail ym mis Mai? Roedd yr erthygl barn yn cyfeirio at bil ieithoedd swyddogol. Roedd cwynion gan gannoedd o bobl – yn y ddwy iaith. Wel, digwyddodd y bleidlais yn y Cynulliad ddoe.

Cyhoeddodd BBC Wales News erthygl Saesneg amdano fe, Language bill puts Welsh and English on equal footing, sydd yn waeth na’r erthygl barn gan Martin Shipton yn y Western Mail. Er roedd ei erthygl ar y dudalen blaen, roedd Shipton yn mynegi barn am y Gymraeg – ‘na gyd. Ond mae BBC Wales News yn methu adrodd y gwirionedd, sef y ffaith roedd pryderon difrifol am degwch i’r Gymraeg ymhlith aelodau cynulliad o bob plaid ac ymgyrchwyr am y bil. Mae’r stori BBC yn edrych fel y datganiad i’r wasg Saesneg, puff piece, heb unrhyw dadansoddiad. Dyma pam mae’r erthygl BBC yn methiant ac yn waeth na #westernfail wythnos yma.

Daeth y cwynion #westernfail o du hwnt i siaradwyr Cymraeg – ond ddoe roedd methiant y gwelliannau yn mater i ddarllenwyr Cymraeg o’r BBC yn unig. Mae’r stori yn Golwg360 yn haeddu sylw hefyd wrth gwrs. (DIWEDDARIAD: Gyda llaw mae BBC bellach wedi ychwanegu ychydig bach i’r stori Saesneg am bryderon ymgyrchwyr.)

Mae dwy ochr i’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’. Ar y wyneb mae’n bwysicach i wneud pethau yn hytrach na siarad. Beth am flaenoriaethau ein cynrychiolwyr a methiant yr ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb go iawn? Mae’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’ ar yr ochr arall yn darparu ffordd effeithiol i asesu sefyllfa democratiaeth yng Nghymru. Faint o bobl sydd yn ymwybodol o’r bleidlais? Ydyn ni’n rhoi ffocws ar y ‘neud’ neu y ‘deud’? Efallai mae sensitifrwydd arbennig i eiriau yn ein cymeriad fel cenedl, dyma pam mae’r dyfyniad mor briodol. Roedd lot mwy o helynt am y ‘deud’ yn y Western Mail na’r methiannau go iawn ddoe. Dyna her i unrhyw un o blaid democratiaeth a thegwch yng Nghymru.

Cadwch y pwyll mewn pwyllgor (ymgynghoriad Cynulliad)

Nos Lun nes i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r Cynulliad ynglŷn â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Beth oedd yn nodedig oedd y defnydd o’r we i gynnal sgwrs fyw.

Chwarae teg i’r Cynulliad am drio trafodaeth o ryw fath ar y we. Ond yn anffodus o’n i ddim yn meddwl bod y sgwrs nos Lun yn llwyddiant o gwbl.

Nai disgrifio’r holl broses yn fy achos i. Gwnes i dderbyn gwybodaeth fel e-bost – oddi wrth ffrind sydd yn gweithio i’r Cynulliad. Wedyn nes i sylwi tipyn bach o gyhoeddusrwydd am ‘sgwrs fyw ar y we’. O’n i’n chwilfrydig: dyma cyfle i ddylanwadu’r dyfodol y cyfryngau mewn ffordd ac yn sgil hynny gweld beth yn union mae Cynulliad yn brofi yn y maes digidol. Yn y pen draw roedd sgwrs testun ar system Cover It Live sydd yn debyg iawn i unrhyw system negeseua sydyn (IM) er roedd rheoli rhwng teipio ac arddangos i sicrhau sylwadau addas (a chyfieithu unffordd, mwy isod).

Dylai’r problemau sylfaenol bod yn eithaf amlwg erbyn hyn. Os wyt ti’n gallu teipio yn gyflym ac yn dda gyda soundbites, mae dy sylwadau di yn cael eu ystyried fel tystiolaeth. Ces i neges e-bost heddiw sy’n gadarnhau’r ffaith – bydd y sylwadau wir yn cael eu ystyried fel tystiolaeth go iawn. Wyt ti erioed wedi trio cael trafodaeth dwys ar Twitter, er enghraifft? Mae’n anodd iawn ac mae’r gwendid yn gyffredinol i unrhyw beth ar-lein sydd yn cynnwys negeseuon byrion sydd yn digwydd yn amser real, gan gynnwys y sgwrs fyw nos Lun.

Yn diweddar, er bod senedd.tv yn bodoli ac yn dda, es i i’r Bae i weld sesiynau Ian Hargreaves, Euryn Ogwen ac eraill. O’n i jyst eisiau’r profiad. Mae’r trafodaethau yna yn amser real ond maen nhw yn siarad un ar y tro.

Yn y sgwrs fyw ar-lein roedd un awr yn unig i siarad am y cyfryngau i gyd – newyddiaduriaeth, hysbysebion, busnes, print, teledu, radio, y we, platfformau o bob math, lleol ac ati. Roedd lot o gwestiynau gan yr aelodau o’r pwyllgor Ken Skates, Bethan Jenkins a Janet Finch-Saunders. Dychmyga, mae popeth yn digwydd yn amser real gyda amldasgio o sgyrsiau hollol gwahanol ar yr un tro. Darllena fy nhrawsgrifiad, doedd y sgwrs ddim yn cynaliadwy o gwbl. Roedd 1 neu 2 munud i feddwl am ateb synhwyrol cyn i’r sgwrs symud ymlaen.

Roedd problemau eraill. Ble oedd y pobol o’r gogledd neu hyd yn oed unrhyw un tu gorllewin i Gastell Nedd? O’n i’n nabod y rhan fwyaf o’r pobol yn bersonol, o ran y rhai o’n i ddim yn nabod yn bersonol o’n i’n cyfarwydd iawn gyda’u enwau. Dw i’n gwybod bod Cymru yn fach ond ddim mor fach a hynny. Mae rhaid codi cwestiynau am unrhyw ymgynghoriad gyda gwahoddiadau. Efallai roedd gwahoddiadau y tro cyntaf i brofi’r system – gobeithio. Beth bynnag, achos y system a phroses tasen nhw wedi gwahodd mwy o bobol basai’r sgwrs wedi bod yn waeth.

Dw i’n meddwl bod cyfleoedd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gwell trwy defnydd da o ar-lein, teclynnau da ac ymarferion da.

Ond cyn i ni ystyried y cyfleoedd ar-lein rydyn ni’n gallu gofyn ‘beth sy’n bod gyda’r proses traddodiadol fel y mae?’. Mae’r broses fel y mae yn eithaf da, canlyniad o flynyddoedd o gamgymeriadau a datblygu siŵr o fod. Mae wythnosau fel arfer i feddwl, i sgwennu adborth i’r ymgynghoriad ac i’w anfon trwy bost neu e-bost.

Un o’r heriau sy’n wynebu’r proses traddodiadol: pa mor agored ydy e? Mae’n agored i bawb mewn theori. Ond bydd mwy o dystiolaeth yn dda tu fas i’r usual suspects, dw i’n derbyn hynny. Dw i’n meddwl bod e’n werth trio trafodaeth anghydamserol ar we sy’n agored, e.e. system trafodaeth ar agor am fis neu dau ar wici neu hyd yn oed blog o ryw fath. Bydd pynciau gwahanol ar wahan, dolenni i bethau cysylltiedig o gwmpas y we a digon o amser i feddwl. Does dim rhaid i drafodaeth bod yn gyflym fel y sgwrs fyw – heblaw rhywbeth anffurfiol i gyflwyno ymgynghoriad ar y dechrau efallai.

Dylai fe fod yn bosib i redeg ymgynghoriad yn y dwy iaith hefyd. Yn anffodus doedd y Cynulliad ddim yn cymryd bob cyfle i bostio pethau yn Gymraeg. Dyma enghraifft o sylw uniaith gan y Cynulliad. Yn ystod y sgwrs o’n i’n postio sylwadau yn Gymraeg ac roedd rhywun yn eu cyfieithu unffordd o Gymraeg i Saesneg. Ond doedd e ddim yn bosib i ddarllen pob sylw yn Gymraeg. Mae’n cyfrannu at y shifft ieithyddol. Os rydyn ni eisiau cael democratiaeth go iawn mae rhaid cynnig yr un cyfleoedd yn y dwy iaith. (Er enghraifft dw i’n cwrdd â lot o bobol sy’n hollol galluog sydd ddim yn hyderus yn Saesneg. ‘Beth yw ‘darlledu’ yn Saesneg?’ oedd cwestiwn dilys go iawn yn ystod fy ngwaith yn ddiweddar.)

Maen nhw newydd gofyn trwy neges ebost am fy meddyliau am y broses. Ti’n gallu gweld copi o’r ebost yma. Gwnes i dderbyn fersiwn uniaith Saesneg, dw i ddim yn siwr os oes fersiwn Cymraeg ar gael.

(Mae rhaid dweud yma bod i wedi gweithio gyda’r Cynulliad ar ddigwyddiad a strategaeth cyfryngau digidol ar gyfer etholiadau 2011.)

Fy ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf

Dw i’n bwriadu cyfranogi yn ymgynghoriad cyhoeddus. Dw i erioed wedi gwneud unrhyw beth debyg fel unigolyn neu gwmni. Mae’r pwnc yn eang iawn (cyfryngau o bob math) ac mae ‘da fi lot fawr o bethau i’w ddweud.

Cwestiynau: oes pwynt os dw i’n dweud yn union yr un peth a phobol a chwmniau/sefydliadau eraill? Ydy e’n cyfrif fel rhyw fath o ‘bleidlais’ os mae lot o bobol yn dweud yr un peth? Neu ydy’r dystiolaeth yn ‘ansoddol’ a fydd e’n well i fi trio rhoi pwyslais ar bethau unigryw yn fy nogfen?

Cynulliad Cymru yn rhyddhau lluniau dan Creative Commons

llun gan Cynulliad Cymru

Llun gan Cynulliad Cymru

Siaradais i gyda phobol yn y Cynulliad a Tom heddiw.

Maen nhw newydd newid y trwyddedau eu lluniau ar Flickr i Creative Commons prynhawn yma.

Cer i’r cyfrif Cynulliad Cymru ar Flickr am y gweddill.

Penderfyniad da a llongyfarchiadau iddyn nhw am fuddsoddiad da yn ein hetifeddiaeth ddeallusol yng Nghymru! Dyma lun o 2009, o fand o’r blaen Canolfan y Mileniwm – i ddathlu.

Yn gyffredinol, rydyn ni’n trafod defnydd da o dechnoleg am ddarpariaethau’r Cynulliad a democratiaeth well. Mwy yn fuan.

Hoffwn i annog mwy o ddefnydd Creative Commons yng Nghymru, o ran sefydliadau cyhoeddus yn enwedig, os mae’n briodol a phosib.

(Beth yw Creative Commons? Mae’r termau ac amodau wedi newid o “cedwir pob hawl” i “cedwir rhai o’r hawliau”. Nawr does dim rhaid i ti ofyn am ganiatad os ti eisiau ail-ddefnyddio unrhyw lun ar dy flog neu yn gylchgrawn ayyb, arlein neu all-lein, unrhyw iaith, yn gynnwys defnydd masnachol yn ôl y trwydded tro yma. Rwyt ti angen credit gyda’r llun, yn ôl y trwydded eto. Cer i’r wefan Creative Commons am mwy o wybodaeth.)

DIWEDDARIAD 17/02/2011: Mae’r termau wedi newid i rywbeth gwell (athreuliad yn unig).

DIWEDDARIAD 23/02/2011: Mae Rhys Wynne wedi sylwi defnydd ar Wicipedia Cymraeg. Newydd gweld lluniau gan y Cynulliad ar y tudalennau Leanne Wood, Edwina Hart, Peter Black ac eraill. Da iawn!

Gwyddonwyr o Gymru – rhai o’r uchafbwyntiau

Dw i newydd ffeindio darn o hen aur – araith o fis Mai, 2001 am wyddonwyr o Gymru:

Dechreuaf gyda datganiad a all beri syndod: mae gwyddoniaeth yn faes o weithgaredd dynol y mae Cymru wedi rhagori ynddo a hynny’n gwbl anghymesur â’i maint.

Yr wyf wrthi’n gweithio ar restr o 200 o wyddonwyr o’r radd flaenaf o Gymru ar gyfer gwyddoniadur arfaethedig Cymru. Fodd bynnag, heddiw, nid enwaf ond ychydig.

Dyfeisiodd Robert Recorde o Ddinbych-y-Pysgod yr arwydd hafal.

Creodd Richard Price o Langeinor y tablau actiwari cyntaf a chyhoeddodd theorem Bayes sydd yn sail i ystadegaeth fodern.

William Miller o Lanymddyfri oedd sylfaenydd crisialeg, a’r dyn cyntaf i gysylltu siâp crisialau â’r strwythur atomig gwaelodol.

Alfred Russel Wallace o Frynbuga oedd y cyntaf i gynnig dethol naturiol fel dull o esblygu.

Dyfeisiodd William Grove o Abertawe y gell danwydd ac ef oedd y cyntaf i gyhoeddi cyfraith gwarchod ynni mewn cyfnodolyn gwyddonol.

Dyfeisiodd David Hughes o Gorwen y meicroffon, y telegraffydd a’r magnetomedr anwytho ac ef oedd y cyntaf i brofi bodolaeth tonnau radio electromagnetig.

Syr Robert Jones o’r Rhyl oedd sylfaenydd llawdriniaeth orthopedig fodern.

Arloesodd Humphrey Owen Jones o Lynebwy ym maes stereogemeg.

Isaac Roberts o Ddinbych oedd sylfaenydd astroffotometreg ac ef a dynnodd y ffotograff cyntaf o wrthrych o tu allan i’r alaeth’sef Andromeda Nebula.

Cyfrifodd Dai Brunt o Lanidloes, a gydnabyddir yn gyffredinol fel arloeswr meteoroleg modern, amledd osgiliadau’r atmosffêr, a elwir hyd heddiw yn amledd Brunt.

Darganfu Evan Williams o Landysul, y gwyddonydd mwyaf yn eu plith efallai, y meson ac ef oedd y cyntaf i brofi dirywiad meson – dirywiad gronyn hanfodol.

Darganfu Don Hey o Abertawe radicalau rhydd. Heddiw mae ei waith yn hollbwysig mewn ystod o bynciau o betro-gemegion i feddyginiaeth.

Datblygodd Lewis Boddington o Frithdir ger Bargoed, y bwrdd hedfan onglog sydd wedi gwneud y cludydd awyrennau modern yn bosibl.

Datblygodd Eddie Brown o Abertawe y radar yn yr awyr ac ef a wnaeth fwy nag unrhyw Gymro arall i ennill yr Ail Ryfel Byd. Nodaf ei fod hefyd yn aelod o Blaid Cymru.

Yn olaf, Brian Josephson o Gaerdydd, yr oeddwn yn ei adnabod pan oeddem yn fechgyn ysgol ac yn fyfyrwyr gyda’n gilydd, a enillodd yr unig wobr Nobel a gafodd Gymru ar gyfer Cysylltle Josephson, sef y swîts electronig cyflymaf erioed.

Gallwn siarad am oriau, ond dim ond ychydig funudau sydd gennyf. Yn hytrach gofynnaf ddau gwestiwn.

Pam bod Cymru wedi esgor ar gymaint o wyddonwyr o’r radd flaenaf? Nid oes gennyf amser ond i roi ateb chwe gair i’r cwestiwn cyntaf hwnnw’sef ymneilltuaeth gynnar, chwyldro diwydiannol, Arglwydd Aberdâr.

Yr ail gwestiwn yw’ pam na sylweddolwn fod Cymru wedi esgor ar gymaint o wyddonwyr o’r radd flaenaf? Mae’n rhannol oherwydd yr ymadawodd pob gwyddonydd ar fy rhestr â Chymru er mwyn gwneud eu hymchwil orau, a chymerir yn ganiataol, bron yn ddieithriad, mai Saeson oeddent. Mae gennyf restr o ddyfyniadau lle y cyfeiriwyd at Miller, Wallace, Roberts a Brunt yn benodol fel Saeson. Dywed fy ffrindiau wrthyf, dan chwerthin, y cyfeiriwyd at y gwyddonydd o Loegr, Phil Williams, mewn cynhadledd ar wyddoniaeth radio yn ddiweddar. Yr ydym yn gweithio y tu allan i Gymru, a chymerir yn ganiataol nad oedd llawer o’r bobl hyn yn Gymry.

Y rheswm dros hynny yw bod angen labordai â chyfarpar da ar wyddonwyr er mwyn gwneud gwaith o’r radd flaenaf, ac anghyffredin yw labordai o’r fath yng Nghymru.

Digwyddodd yr araith yn y Cynulliad wrth gwrs, roedd Phil Williams yn siarad. Mae fe’n datblygu pwynt dilys am wasanaethau gwyddoniaeth yng Nghymru hwyrach yn yr araith.

Diolch Click on Wales am y dolen.