Lubuntu – system gweithredu fwyaf cyflym?

Dw i wedi gosod Lubuntu ar fy ngliniadur newydd ac mae popeth yn GYFLYM.

Beth yw Lubuntu? Lubuntu ydy system gweithredu, fersiwn amgen o Linux/Ubuntu gyda’r amgylchedd bwrdd gwaith LXDE yn hytrach na GNOME neu Unity.

Yr egwyddor tu ôl LXDM fel amgylchedd bwrdd gwaith ydy system syml heb y nonsens arferol. Does ’na ddim animeiddio neu graffigau ffansi. Beth sydd yn anhygoel ydy’r rwtsh sydd yn dod gyda systemau gweithredu cyfoes dyddiau yma. Ac un bonws arall yw’r bywyd batri. Fel arfer mae 60% mwy o fywyd ar Lubuntu na Windows hyd yn oed os ydw i’n defnyddio’r diwifr ayyb. Taswn i’n rhedeg hen gyfrifiadur neu helpu aelod teulu gyda’i gyfrifiadur baswn i’n gosod Lubuntu arno fe yn bendant.

Ond dw i ddim wedi dweud hwyl fawr wrth Windows 7 ar fy mheiriant i. Mae nodwedd cychwyn ddeuol gyda fi – dw i’n gallu dewis naill ai Lubuntu neu Microsoft Windows 7 tra bod y system yn dechrau. Dw i’n gallu cael mynediad i’r ffeiliau ar Windows hefyd – cerddoriaeth, dogfennau ayyb. Dw i ddim yn erbyn Windows 7 ond dw i’n hoff iawn o egwyddorion meddalwedd rydd. A hefyd o’n i eisiau rhedeg meddalwedd fel Apache, MySQL, git yn eu cartref naturiol.

Wedi dweud hynny roedd fy ffrind, sydd ddim yn arbennig o dechnegol, yn defnyddio’r porwr we Chromium ar fy ngliniadur neithiwr (sydd yn debyg iawn i Google Chrome). Wnaeth e ddim sylwi’r system wahanol. Dw i’n rhedeg Chromium tra bod i’n teipio’r cofnod blog yma fel mae’n digwydd. Mae’r cwmni tu ôl Ubuntu wedi mabwysiadu Lubuntu fel prosiect swyddogol ac mae meddalwedd arferol fel Firefox, LibreOffice, Audacity i gyd ar gael wrth gwrs. O’r rhestr yna maen nhw i gyd ar gael yn Gymraeg hefyd. Dw i’n ymwybodol o’r prosiectau Ubuntu Cymraeg a GNOME Cymraeg. Ond dw i’n methu ffeindio LXDE Cymraeg felly mae’n debyg does neb wedi dechrau prosiect cyfieithu LXDE Cymraeg (ar hyn o bryd…).

 

Meddalwedd rydd, WordPress 3.0, projectau cyffrous

Beth yw’r cyswllt?

  • Y band Datblygu
  • cylchgrawn Tu Chwith
  • Capel Y Ffynnon Bangor
  • Hacio’r Iaith
  • Metastwnsh
  • Y Twll…

Wnawn ni ychwanegu mwy o enghreifftiau i’r oriel WordPress yn fuan gobeithio. Dyna’r ateb. Heblaw Datblygu, dechreuodd dyluniadau yma yn 2009 neu 2010. Mae’r chwildro yn dechrau gyda WordPress, meddalwedd rydd a phobol sy’n bywiog!

Dw i wedi cael lot o hwyl gyda WordPress. Dw i dal ddim yn hyderus iawn gyda cyfieithadau llawn o feddalwedd yn anffodus. Dyma pam dw i’n gofyn am help gyda cy.wordpress.org yma. Diolch.

Ond dw i’n hyderus bod meddalwedd rydd yw dewisiad ardderchog am lot o rhesymau.

Dw i wedi sgwennu am papur newydd arlein yn yr Alban yn barod.

Ddylai’r llywodraeth rhannu eu côd? Efallai. Dylen nhw edrych at meddalwedd rydd am projectau? Yn bendant. (Os mae’r byddin Ffrengig yn deall manteision meddalwedd rydd, rydyn ni’n gallu.)

Gyda llaw, dw i newydd wedi ychwanegu cofnod am BBC Vocab hefyd. Côd ar gael i bawb. (Ond dan “trwydded BBC” yn lle rhywbeth arferol am rhyw rheswm?) Dw i wedi sgwennu digon nawr, siwr o fod ti’n gallu creu rhywbeth da. Pob bendith.

Paid prynu iPad – os oes unrhyw ddiddordeb gyda ti yn yr iaith

Os oes unrhyw ddiddordeb gyda ti yn yr iaith Gymraeg, paid prynu iPad. Paid meddwl bydd digon o feddalwedd Cymraeg ar gael yn y dyfodol yr “app store”. Rydyn ni’n gallu dweud yr un peth am yr iPhone hefyd.

Dw i’n sôn am feddalwedd rydd a meddalwedd berchnogol.

Meddalwedd rydd yn cynnwys rhyddid ieithyddol.

Mae cyfrifiaduron tabledi dal yn ddiddorol i mi wrth gwrs. Dw i ddim yn poeni am unrhyw beth “da” neu “awesome” ar unrhyw iPad. Os dwyt ti ddim yn gallu rhedeg meddalwedd yn dy iaith di neu greu cyfieithiadau, mae’r uned wedi torri.

Fydda i ddim yn cwyno i Apple chwaith. Bydda i’n gweithio ar gyfieithiadau meddalwedd yn lle. Wnaf i blogio enghreifftiau da mis yma, fel OpenOffice Cymraeg a Firefox.

Mae rhyddid ieithyddol yw darn pwysig o ddyfodol yr iaith. Paid talu am bethau wedi torri sy’n erbyn dy ryddid ieithyddol di felly.

Mae Dave Winer yn awgrymu Asus yn lle iPad am lawer o resymau yn cynnwys meddalwedd rydd, y rheswm pwysicach. Mae meddalwedd rydd yw’r un peth a chôd agored. Ond mae meddalwedd rydd yw term well tro yma.

Yn gyffredinol, pan mae Dave Winer, Richard Stallman, Cory Doctorow neu unrhyw un arall yn siarad am “meddalwedd rydd”, ti’n gallu dweud “rhyddid ieithyddol” yn lle.

Dw i newydd wedi creu tudalen ar Hedyn am feddalwedd symudol a thabledi. Mae’r dudalen yn gwag ar hyn o bryd ond mae llawer o feddalwedd ar y ffordd. Rydyn ni’n gallu adeiladu’r dyfodol o feddalwedd yn Gymraeg gyda’n gilydd.