Ariannu torfol

Mae sôn am ariannu torfol yn yr awyr.

Wel, dw i wedi bod yn siarad am y peth gyda rhai o bobl Hacio’r Iaith.

Mae naw prosiect o leiaf wedi codi miliwn dolar.

O ran prosiectau mawr, fel y dwedais mae S4C a chwmnïau teledu gyda’r sylw i wneud prosiectau ariannu torfol llwyddiannus. Dyma’r mantais cyfryngau ‘prif-ffrwd’ yn Gymraeg – mae nifer cymharol dda o gwsmeriaid. Byddai angen casglu’r arian ar ran y cwmni cynhyrchu neu ar ochr masnachol S4C.

Ond dw i jyst eisiau gweld Enghraifft Lwyddiannus yn Gymraeg o unrhyw fath! Hyd yn oed £500. Dyma beth fydd yn gyffrous am ariannu torfol. Annibyniaeth go iawn. Arwahanrwydd!

Dw i wedi trio casglu ambell i enghraifft. Efallai dylen ni ychwanegu pethau fel Prifysgol Bangor i’r enghreifftiau?

Dw i ddim yn rhoi cymaint o ffocws ar y platfform. Er bod y dewisiad yn bwysig roedd Kickstarter Cymraeg yn bosib yn ôl yn 1926. Ewyllys, ymdrech a threfn yw’r elfennau mwyaf pwysig yn fy marn i.

Ces i siom wythnos diwethaf. O’n i’n meddwl am y stori Syr Wynff a Plwmsan a’r potensial i wneud ariannu torfol annibynnol er mwyn parhau gyda’r prosiect. Mae Iestyn Roberts wedi rhoi caniatad i mi ailadrodd ei ateb i fi trwy ebost:

Dani heb weithio allan y prisiau eto gennai ofn. Ti’n edrych ar wbath fel £3000 per munud am animation. (heb gyfri prisiau bob dim arall, set, modelu, gwaith goleuo, gwaith rendro, storyboards ayyb) – felly dani angen gweithio allan yn union be ydi hyd y sioe.

Eek! Oes model sydd yn gweithio yma? Dw i’n methu meddwl am un. Hyd yn oed os fydd 300 person i gyd yn cyfrannu £10 i ariannu lawrlwythiad mae dim ond tua un munud o stori!

Mae cyfres neu hyd yn oed ffilm yn bron amhosib heb addasiadau mewn ieithoedd eraill.

Felly dw i’n edrych at bethau symlach ar hyn o bryd. Pwer $1.

(Byddaf i’n disgwyl bandiau i fod o flaen y gad yma. Neu pobl fel Recordiau Lliwgar neu Recordiau I Ka Ching.)

Llun Prifysgol Bangor gan Dogfael (CC)