Mae dewis iaith bersonol i lawer o bethau mewn bywyd. Ers tro dw i wedi newid y rhan fwyaf o fy ngweithgareddau ar-lein i fod yn Gymraeg. Os oes dewis gyda fi dw i eisiau cymryd rhan yn y prosiect o adeiladu gwe Gymraeg. Taswn i’n creu unrhyw waith creadigol yn y dyfodol fel fideo, podlediad, erthygl neu beth bynnag byddwn i’n ystyried y Gymraeg yn gyntaf.
Mae rhesymau eraill hefyd: mae’r Gymraeg yn hwyl i mi ar ôl degawdau o Saesneg ac mae cyfle i ymarfer fy iaith ysgrifenedig. Mae rhesymau unigryw dros ddewis iaith gyda phob unigolyn.
Felly mae’r Gymraeg yn gyntaf i mi. Ond nid dyna’r safon dylwn i ddefnyddio i asesu pethau gan unrhyw berson eraill.
Mae’n glir i mi fod gwahaniaeth rhwng dewis iaith unrhyw unigolyn a beth sy’n digwydd yn y Gymraeg yn gyffredinol, y darlun mawr.
Mae sawl categori i’r egwyddor yma. Ces i syrpreis bach yn ddiweddar. Clywais i gân Saesneg gan fand o’n i’n ystyried fel un uniaith Gymraeg cyn hynny. Mae lle i ofyn pa mor gryf ydy’r Gymraeg yn y maes canu poblogaidd ond ar lefel cyffredinol, nid ar lefel unrhyw fand unigol.
Dyma’r egwyddor yn y gân (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd I Achub Yr Iaith gan Super Furry Animals.
Mae pobl Cymraeg yn canu yn Saesneg am lot o resymau. Ta waeth, mae lot ohonom ni yn gweithio yn y Saesneg. Os ydych chi’n pryderu am fandiau sy’n troi at y Saesneg efallai dylech chi helpu Eos i godi statws yr iaith i rywbeth sy’n werth mwy na hobi. Yn bendant mae darlledu caneuon Cymraeg ar y BBC yn werth mwy na £100,000. Rydym ni yn y sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn lleiafrifedig. Mae’r achos Eos yn ailadrodd beth sy’n digwydd mewn meysydd eraill.
Mae’r un peth yn wir am bobl sy’n dewis Saesneg ar Twitter. Peidiwch ‘gywiro’ unigolyn am ei defnydd o Saesneg ar Twitter. Dw i wedi gweld enghreifftiau (ac mae rhai yn cynnwys pobl sydd ddim yn hyderus gydag ysgrifennu yn Gymraeg). Yn hytrach, cadwch ar y pwnc ac atebwch bob trydariad yn Gymraeg. Os ydych chi eisiau gweld mwy o Gymraeg ar y we mae sawl peth rydych chi’n gallu gwneud fel unigolyn.
Dyw unigolion cyffredin ddim yn rhan o’r Mesur Iaith am resymau amlwg. Ond mae lle i gwyno i sefydliadau a chwmnïau am broblemau a statws yr iaith. Nhw sy’n dylanwadu ar bobl. Yn gyffredinol, peidiwch gael ffrae gydag unigolyn dros bethau fel hyn. Fel arfer mae rhesymau a darlun ehangach. Fel arfer mae angen cysylltu gyda sefydliad neu gwmni i ofyn neu ymgyrchu dros degwch i’r Gymraeg. Neu greuwch gwmni neu fenter neu brosiect.
Hefyd dyma’r problem gyda phryderon am ‘gywirdeb iaith’ yr unigolyn neu ‘burdeb iaith’ yr unigolyn. Mae unrhyw ffocws ar unigolyn yn gamgymeriad. Rwyt ti’n fwy tebygol o achosi diffyg hyder a thanseilio’ch bwriad gwreiddiol. Dylen ni pryderu am ‘ansawdd iaith’ y boblogaeth yn gyffredinol fel canlyniad o addysg ddiffygol a’r prinder o gyfleoedd i weld Cymraeg safonol. Ond nid cywiro unigolion sydd ddim wedi gofyn am eich help yw’r ffordd i wella’r sefyllfa. Eto, mae llawer o bethau rydych chi’n gallu gwneud i greu mwy o bethau Cymraeg i blant ac oedolion. Ac mae dyletswydd ar sefydliadau i fuddsoddi yn y Gymraeg.