Cofia’r Samsung S5600? Ffôn Cymraeg cyntaf y byd (ac olaf, ar hyn o bryd), naeth cael ei lansio dwy Eisteddfod yn ôl.
Gwnes i ofyn Bwrdd yr Iaith am sefyllfa y cyfieithiad er mwyn copio rhai o’r termau i’n cyfieithiad Android. Orange sy’n biau’r cyfieithiad o’r system. Gwnaeth y Bwrdd ateb gyda dolenni handi i dermau.
Dw i eisiau meddwl bydd cyfieithiad Android yn cyfrannu at fersiynau newydd a phrosiectau eraill yn y dyfodol. Er doedd e ddim yn rhedeg Android bydd rhyw fath o ddilyniant o’r Samsung yn neis – ac yn y maes technoleg Cymraeg yn gyffredinol. Hoffwn i feddwl bod ni’n symud o nerth i nerth. Ac mae’r diffyg argaeledd stwff a fu yn atal arloesi.
Yn y cyd-destun hanes sa’ i’n gweld pwynt yr ymdrech Orange, mae’n lot o drafferth am dipyn bach o gyhoeddusrwydd ym mis Awst.