Gadawodd Martin Luther King y byd hwn union 45 mlynedd yn ôl.
Heno dw i wedi cael cip arall ar y llyfr Martin Luther King gan T.J. Davies y cyhoeddiwyd yn 1969.
Mae darn sylweddol am y dull di-drais o brotestio. O’n i ddim o gwmpas yn ’69 ond mae’n debyg y darllenodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y geiriau hyn gyda diddordeb ar y pryd.
Does bron neb yn gallu cael gafael y llyfr yma. Mae prinder o gyfleoedd i’w ddarganfod. Does neb yn wneud arian neu dderbyn clod am y gwaith – does neb wedi gwneud yr ymdrech i’w rhyddhau eto gan gynnwys e-lyfr neu fersiwn digidol.
Mae’r llyfr bron yn anweledig! Dw i wedi gwneud pwyntiau tebyg o’r blaen, e.e. Afal Drwg Adda ond dw i’n dweud eto.
Os wyt ti eisiau darllen mwy o’r llyfr hwn gadewch sylw isod achos dw i’n gallu rhannu’r llyfr gyda chi os oes digon o alw. Dw i’n meddwl bod hynny yn hollol iawn heblaw os oes problem gydag unrhyw un.
Dyma lyfr yn Gymraeg sydd yn delio gyda phwnc sydd ddim yn Gymreig o reidrwydd. O ran llyfrau newydd fyddai llyfr o’i fath yn cael ei gomisiynu yn Gymraeg y dyddiau hyn? Hoffwn i weld ehangiad yn y math o bynciau sy’n cael triniaeth yn Gymraeg ym mhob cyfrwng o lyfrau i’r we i deledu, ydw i’n cynrychioli y rhan fwyaf o bobl? Mae nifer o lyfrau sydd yn eithriadol ond dw i ddim mor siwr os fyddai’r Cyngor Llyfrau, ’diwydiant’ llyfrau Cymraeg – a darllenwyr eraill – yn fodlon derbyn pethau o’i fath yn anffodus. Beth mae pobl yn meddwl?