Yn ôl y sôn mae ymgyrchwyr yn Iran yn siomi gyda newidiadau i Google Reader (ac mae Techcrunch wedi cyhoeddi stori amdano fe). Mae gwasanaethau meddalwedd ar-lein yn bwysig iawn.
Gwasanaethau ar-lein yw’n amgylchedd cyfryngau nawr. Rydyn ni’n trafod Twitter, Facebook ac ati fel yr oedden ni’n trafod y teledu. Ac dylen ni meddwl am bobol fel Mark Zuckerberg, Jeff Bezos ac Apple fel y Rupert Murdochs o’r 21ain ganrif!
Ar draws y byd mae defnyddwyr wedi bod yn defnyddio’r tag #occupygooglereader. Dw i’n gwybod bod y tag yn doniol ond mae angen rhyw fath o ‘mudiad’ poblogaidd sydd yn bwysleisio’r we agored. Mae Google Reader jyst yn enghraifft o wers gyffredinol.
Mae gwahaniaeth rhwng Google Reader (pori’r we agored trwy RSS) a Google+ (seilo). O’n i’n ffan o Google Reader, dw i ddim yn licio’r newidiadau ond dw i ddim yn synnu. Mae’n cyffroes mewn ffordd pa mor clueless mae cwmnïau mawr fel Google gallu bod. Fydd gwendidau Google yn hwb i bobol i ddatblygu gwasanaethau eraill? Gobeithio, efallai maen nhw yn gallu cynnig gwasanaeth heb cloddio’n data. (Unrhyw awgrymiadau? Nôl i feddalwedd lleol?) Dw i ddim yn ystyried deiseb i Google fel yr ateb go iawn yn y tymor hir.
Mae lot o drafodaeth ynglŷn â thechnoleg mor arwynebol, gan gynnwys cyfryngau Cymraeg. Ac rydyn ni i gyd yn rhan o’r cyfryngau.
Mae lot o enghreifftiau.
Mae un enghraifft amlwg: trafod yr iPhone/iPad fel dyfais caledwedd a chyfraniad Jobs fel cyfres o ddyfeisiau – yn hytrach na pheryg yr App Store ac iTunes fel systemau.
Gweler achos Slideshare i ddarllen mwy am manteision y we agored a HTML5. Beth sy’n well i ni yng Nghymru gyda’n prinder o adnoddau: sgwennu unwaith, rhedeg unrhyw le? Neu sgwennu tro ar ôl tro ar gyfer iPhone, Android, Windows ac ati? Gobeithio fydd systemau a fformatau agored yn ennill yn y pen draw ond mae angen hyrwyddo manteision aps ar y we heddiw.
Mae enghraifft amlwg arall ar hyn o bryd. Pam ydyn ni’n crio am ddiffyg cefnogaeth i’r iaith Gymraeg gan Amazon?!?!!!? Mae cyfle i hyrwyddo dyfeisiau sy’n gweithio gyda fformatau agored fel ePub yn hytrach na Kindle, bricsen DRM sy’n rhan o ymgais monopoli Amazon!! Mae’r dyfais Sony yn darllen ePub, er enghraifft. O ran rhyddid mae’n well na Kindle ond beth sy’n mynd ar dy rhestr Nadolig yn mater i ti. Mae’n digon hawdd i ddechrau siop ePub, pobol. (Hefyd… dylai rhywun gwneud cytundeb i fewnforio dyfais Barnes & Noble sydd hefyd yn gweithio gydag ePub.)
Mae’r gair ysgrifenedig yn bwysig. Roedd y wasg Gutenberg yn hwb i’r Diwygiad.
Pa fath o Ddiwygiad fydd yn bosib gyda’n cyfryngau nawr?
Mae Amazon yn colli arian gyda phob dyfais Kindle Fire. Dylai’r ffaith hon dweud rhywbeth wrthym ni. Mae’r dyfais yn rhan o’r plan. Diwygiad Jeff Bezos fydd siopa am gynnyrch di-angen trwy’r dydd. Ac mae’n annoying i weld cyhoeddusrwydd Cymraeg am ddim yn Golwg360 achos maen nhw yn dylanwadol ac yn dilyn termau Amazon heb cwestiynu opsiynau eraill.
Mae’r marchnad e-lyfrau yn Gymraeg yn ifanc iawn ac mae LOT o bosibiliadau. (I’r bobol sy’n meddwl bod llwyddiant rheolaeth Amazon yn yr iaith Gymraeg yn anochel… Beth yw’r ddiod feddal fwyaf poblogaidd yn Yr Alban? Yn aml iawn nid Coca Cola, y cawr byd-eang, ond Irn Bru, y ffefryn lleol, sy’n dod i rhif un yn y siart gwerthiannau. Mae cyfle nawr i ffeindio ein Irn Bru, at ein dant ni.)
Pwynt arall. O ran termau dw i’n casau ‘Gwgl’, ‘Trydar’ ayyb fel enwau. Plis paid â defnyddio cyfieithiadau Cymraeg o enwau cwmniau Americanaidd fel Facebook, Twitter, Google ac Apple. Mae rhaid atgoffa ein hunan pwy sy’n rheoli dosbarthiad o’n hiaith. Rydyn ni’n gallu cyfieithu wici, blogio, ffrwd, y we ac yn blaen achos maen nhw yn agored i dy gwmni di, dy sefydliad di, dy grwp di neu ti fel unigolyn.