Mae Gruff Rhys yn dweud:
[…] Yn ystod ymweliad ar Gaiman yn y ffilm dwi’n cyfeirio at y reddf ddynol/ddynesol/fynwesol (?) sy’n galluogi ieithoedd i barhau er gwaethaf gormes. Barn optimistaidd (fyrbwyll efallai) ydi hon yn amlwg – gan mai iaith atodol ydi’r Gymraeg bellach o fewn y gymuned leiafrifol wledig Gymreig ym Mhatagonia.
Beth sy’n arswydus ydi fod union yr un broses yn digwydd bellach yn ardaloedd gwledig Cymru fel y tanlinellwyd gan y cyfrifiad diweddar. Bod perygl – yn nghadernleoedd yr iaith, i’r Gymraeg ddatblygu mewn i iaith atodol – nad yw’n cael ei defnyddio heblaw i’w hymarfer yn achlysurol mewn cyd destun diwyllianol.
Y gwahaniaeth mawr yng Nghymru wrth gwrs ydi y dylsem fod yn deddfu, arianu a chynllunio i atal hyn rhag digwydd. Mae’r grym gennym bellach, ond efallai ddim y meddylfryd. Ond mae gennym y dewis – sy’n rywbeth sy’n anoddach i’w weithredu yn yr Ariannin. […]
Mae’r dyfyniad yn dod o gofnod hirach am ei ffilm Separado.