Braf iawn i weld Ein Caerdydd gan Rhys Wynne (ac efallai cyfranwyr eraill?).
Wrth gwrs mae lot o flogiau o Gaerdydd wedi bodoli am flynyddoedd (rhai ohonyn nhw ar Y Rhestr). Ond mae gwahaniaeth rhwng blog o Gaerdydd a blog lleol gyda ffocws ar Gaerdydd, yr ardal benodol, i bobol leol.
Mae pob blog yn dod o rywle. Ond gyda’r rhai sy’n delio gyda’r lleoliad fel y pwnc, ydyn ni’n gweld twf yn blogiau lleol o ardaloedd gwahanol o Gymru?
Mae Blog Dolgellau a BaeColwyn.com wedi bod yn tyfu yn ddiweddar hefyd.
Methu ffeindio blog lleol yn dy ardal o Gymru? Neu eisiau rhoi ffocws ar ardal penodol – dy bentref, dy maestref, dy stryd, dy ysgol. Does dim angen aros am gefnogaeth o unrhyw sefydliadau. Ti’n gallu dechrau heno. Darllena’r canllaw yma: sut i ddechrau blog lleol.
Gobeithio bydd pobol yn cyd-drefnu pethau gyda’r papurau bro hefyd.