Mapio Cymru ac enwau strydoedd OS Open Roads

Aberhonddu ar Mapio Cymru

Mae Ben Proctor fy nghyd-aelod o dîm Mapio Cymru wedi darganfod adnodd gwerthfawr i unrhyw un sy’n cyfrannu at OpenStreetMap sef enwau strydoedd yr Arolwg Ordnans. Mae e wedi blogio am hyn:

Un o brif amcanion prosiect Mapio Cymru yw cynyddu’r nifer o enwau yn Gymraeg a gedwir ar OpenStreetMap fel data agored, adnodd hollbwysig er mwyn cefnogi apiau a gwasanaethau mapio a fydd ar gael yn Gymraeg yn y dyfodol.

Y ‘bwlch’ mwyaf yn nata data enwau yn OpenStreetMap yng Nghymru yw’r enwau ffyrdd y dylid eu defnyddio yn Gymraeg.

[…]

Drwy ddadansoddi’r data sydd ar gael mewn cynnyrch OS Open Roads daeth Ben i’r casgliad ei fod fel set data yn ddigon da i’w ddefnyddio:

[…]

Ar ôl dadansoddi’r gwahaniaethau amrywiol hyn, rydym wedi dod i’r casgliad bod set ddata Open Roads yr Arolwg Ordnans yn ffynhonnell ddigon da ar gyfer golygu pellach gan unigolion brwd. Buasai golygydd sy’n weddol gyfarwydd ag enwau ffyrdd yn Gymraeg yn gallu canfod llawer o’r problemau uchod a’u cywiro.

[…]

Darllenwch fwy: Gwella enwau ffyrdd ar fapiau Cymraeg yng Nghymru

Map arbrofol newydd gan Mapio Cymru – gwella mapio Cymru trwy olygu enwau

Fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Mapio Cymru dw i wedi darparu gweinydd map arbrofol newydd.

Fel y prif fap mae’n dangos map gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Y gwahaniaeth yw bod e’n dangos symbol ar bwys bob enw lle i ddangos pa ffynhonell data a ddefnyddiwyd. Bydd hyn yn helpu unrhyw un sydd eisiau cyfrannu enwau llefydd yn Gymraeg – ac yna cyfranogi yn y prosiect a gwella mapio yn y Gymraeg.

Darllenwch fy eitem blog ar Mapio Cymru am ragor o fanylion.

Mapio a llywio digidol: pa mor bell o ‘bopeth yn Gymraeg’?

Fel datblygydd gwe llawrydd mae hi wastad yn ddifyr cael gweithio ar Mapio Cymru, a chyfle i gyfuno rhai o fy niddordebau: meddalwedd rydd, data agored, mapiau, a’r Gymraeg.

Mae’r prosiect wedi tyfu o’i fan cychwyn fel map arbrofol gydag enwau Cymraeg. Rydyn ni bellach yn helpu cwpl o sefydliadau i gynnig gwasanaethau mapio Cymraeg.

Trafnidiaeth Cymru yw un o’r sefydliadau.

Dyma Ben Proctor o’r prosiect yn ymhelaethu ar ein gwaith ymgynghorol i TrC.

Gofynnodd Trafnidiaeth Cymru inni wneud darn o waith ymchwil ar eu cyfer. Roeddent am wybod sut y gallent adeiladu apiau mapio ar-lein a oedd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Rydym wedi bod yn meddwl am y themau yma am sawl blwyddyn oherwydd ein bod yn cynnal map iaith Gymraeg o Gymru: openstreetmap.cymru. Fodd bynnag, buodd y prosiect hwn ar gyfer sefydliad sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn gyfle gwirioneddol i feddwl am oblygiadau’r materion yma. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer Trafnidiaeth Cymru sy’n llawn manylion ac sy’n canolbwyntio ar eu hamgylchiadau penodol.

Darllenwch y blogiad llawn gan Ben.