Dw i newydd ffeindio darn o hen aur – araith o fis Mai, 2001 am wyddonwyr o Gymru:
Dechreuaf gyda datganiad a all beri syndod: mae gwyddoniaeth yn faes o weithgaredd dynol y mae Cymru wedi rhagori ynddo a hynny’n gwbl anghymesur â’i maint.
Yr wyf wrthi’n gweithio ar restr o 200 o wyddonwyr o’r radd flaenaf o Gymru ar gyfer gwyddoniadur arfaethedig Cymru. Fodd bynnag, heddiw, nid enwaf ond ychydig.
Dyfeisiodd Robert Recorde o Ddinbych-y-Pysgod yr arwydd hafal.
Creodd Richard Price o Langeinor y tablau actiwari cyntaf a chyhoeddodd theorem Bayes sydd yn sail i ystadegaeth fodern.
William Miller o Lanymddyfri oedd sylfaenydd crisialeg, a’r dyn cyntaf i gysylltu siâp crisialau â’r strwythur atomig gwaelodol.
Alfred Russel Wallace o Frynbuga oedd y cyntaf i gynnig dethol naturiol fel dull o esblygu.
Dyfeisiodd William Grove o Abertawe y gell danwydd ac ef oedd y cyntaf i gyhoeddi cyfraith gwarchod ynni mewn cyfnodolyn gwyddonol.
Dyfeisiodd David Hughes o Gorwen y meicroffon, y telegraffydd a’r magnetomedr anwytho ac ef oedd y cyntaf i brofi bodolaeth tonnau radio electromagnetig.
Syr Robert Jones o’r Rhyl oedd sylfaenydd llawdriniaeth orthopedig fodern.
Arloesodd Humphrey Owen Jones o Lynebwy ym maes stereogemeg.
Isaac Roberts o Ddinbych oedd sylfaenydd astroffotometreg ac ef a dynnodd y ffotograff cyntaf o wrthrych o tu allan i’r alaeth’sef Andromeda Nebula.
Cyfrifodd Dai Brunt o Lanidloes, a gydnabyddir yn gyffredinol fel arloeswr meteoroleg modern, amledd osgiliadau’r atmosffêr, a elwir hyd heddiw yn amledd Brunt.
Darganfu Evan Williams o Landysul, y gwyddonydd mwyaf yn eu plith efallai, y meson ac ef oedd y cyntaf i brofi dirywiad meson – dirywiad gronyn hanfodol.
Darganfu Don Hey o Abertawe radicalau rhydd. Heddiw mae ei waith yn hollbwysig mewn ystod o bynciau o betro-gemegion i feddyginiaeth.
Datblygodd Lewis Boddington o Frithdir ger Bargoed, y bwrdd hedfan onglog sydd wedi gwneud y cludydd awyrennau modern yn bosibl.
Datblygodd Eddie Brown o Abertawe y radar yn yr awyr ac ef a wnaeth fwy nag unrhyw Gymro arall i ennill yr Ail Ryfel Byd. Nodaf ei fod hefyd yn aelod o Blaid Cymru.
Yn olaf, Brian Josephson o Gaerdydd, yr oeddwn yn ei adnabod pan oeddem yn fechgyn ysgol ac yn fyfyrwyr gyda’n gilydd, a enillodd yr unig wobr Nobel a gafodd Gymru ar gyfer Cysylltle Josephson, sef y swîts electronig cyflymaf erioed.
Gallwn siarad am oriau, ond dim ond ychydig funudau sydd gennyf. Yn hytrach gofynnaf ddau gwestiwn.
Pam bod Cymru wedi esgor ar gymaint o wyddonwyr o’r radd flaenaf? Nid oes gennyf amser ond i roi ateb chwe gair i’r cwestiwn cyntaf hwnnw’sef ymneilltuaeth gynnar, chwyldro diwydiannol, Arglwydd Aberdâr.
Yr ail gwestiwn yw’ pam na sylweddolwn fod Cymru wedi esgor ar gymaint o wyddonwyr o’r radd flaenaf? Mae’n rhannol oherwydd yr ymadawodd pob gwyddonydd ar fy rhestr â Chymru er mwyn gwneud eu hymchwil orau, a chymerir yn ganiataol, bron yn ddieithriad, mai Saeson oeddent. Mae gennyf restr o ddyfyniadau lle y cyfeiriwyd at Miller, Wallace, Roberts a Brunt yn benodol fel Saeson. Dywed fy ffrindiau wrthyf, dan chwerthin, y cyfeiriwyd at y gwyddonydd o Loegr, Phil Williams, mewn cynhadledd ar wyddoniaeth radio yn ddiweddar. Yr ydym yn gweithio y tu allan i Gymru, a chymerir yn ganiataol nad oedd llawer o’r bobl hyn yn Gymry.
Y rheswm dros hynny yw bod angen labordai â chyfarpar da ar wyddonwyr er mwyn gwneud gwaith o’r radd flaenaf, ac anghyffredin yw labordai o’r fath yng Nghymru.
Digwyddodd yr araith yn y Cynulliad wrth gwrs, roedd Phil Williams yn siarad. Mae fe’n datblygu pwynt dilys am wasanaethau gwyddoniaeth yng Nghymru hwyrach yn yr araith.
Diolch Click on Wales am y dolen.