Mae Christine James yn Archdderwydd. Llongyfarchiadau iddi hi. Mae dolen i’r stori BBC ar y dudalen flaen yr holl adran Saesneg, stori top ar BBC Newyddion ac yn brif stori Golwg360 ar hyn o bryd.
Ond dyw’r term ‘dysgwraig’ yma ddim yn briodol. Mae hi’n ddarlithydd yn y Gymraeg! Ar gyfer unrhyw un arall sydd yn rhugl mae’r term yn rong. Ydy Bobi Jones yn dysgwr? Nac ydy. Does neb sydd yn cyhoeddi papurau fel Canu Gwirebol a Wittgenstein ar ei wefan yn haeddu’r term dysgwr. Beth am Heather Jones? Neu Gwynfor Evans? Neu Ffred Ffransis? Neu Jerry Hunter? Mae rhywbeth fel ‘person sydd wedi dysgu’, ‘person ail iaith’ neu ‘person trydedd iaith’ yn well efallai. Neu ’mabwysiadwr’.
Sut mae grwpiau ieithyddol eraill yn delio gyda phobl fabwysiedig? Sa’ i’n meddwl bod ieithoedd eraill yn ystyried ‘dysgwr’ fel categori arbennig, yn enwedig pobl rhugl. Fel arfer does dim angen gwobr dysgwr iaith y flwyddyn chwaith achos mae atyniadau fel y mae yn ddigon.
Gyda llaw, ar y teledu dw i erioed wedi gweld enghraifft gredadwy o gymeriad sydd wedi mabwysiadu Cymraeg fel ail iaith. Ond dw i wedi gweld sawl caricature fel yr Americanwr comig ar Pobol Y Cwm, yr ysgrifenyddes dwp ar Gwaith Cartref ayyb.