O’n i’n gobeithio am ’chydig mwy yn yr adroddiad S4C am ar-lein a’r we.
Un prif her, yn fy marn i, yw’r trawsnewidiad i fodolaeth cyffyrddus ar y we.
Dyma beth mae Huw Jones, cadeirydd S4C, wedi colli mas o’r adroddiad blynyddol newydd yn ei chyflwyniad:
Roedd 2010 yn flwyddyn gythryblus yn hanes S4C, gan greu penawdau papur newydd na fyddai neb wedi eu dymuno.
Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu.
Plîs gawn ni cyfeiriad i gynnwys ar-lein, yn enwedig y we, yn yr amcanion a’r cyfansoddiad? (Dw i’n aelod o’r Fforwm Cyfryngau Newydd, sy’n ymgynghori i’r Awdurdod S4C. Dw i’n rhannu fy meddyliau i unrhyw sydd gyda diddordeb.)
Roedd safon darlledu S4C yn dda yn 2010 a’r hanner cyntaf 2011. Fy uchafbwyntiau:
Ar Lafar, 100Lle, Pen Talar, Cofio, Pethe. Dw i’n hoffi darlledu, yr amserlen, S4C Clic. Ond mae her arall. Dw i ddim yn cytuno gyda Dafydd El, burn the boats! ac arnofio yn ofod digidol.
Weithiau dw i’n meddwl bod rhai o bobol yn y diwydiant teledu yn meddwl am ar-lein fel dau peth yn unig.
- dim ond cyhoeddusrwydd (e.e. postio i Facebook/Twitter ‘gwylia Ar Lafar 9PM lle mae Ifor ap Glyn yn mynd i…’ ayyb)
- dim ond ail-brandio’r wefan sy’n bodoli eisioes (e.e. newid yr enw parth)
Iawn. Ond dw i’n ddim yn gofyn am y dau peth yma. Mae cyhoeddusrwydd y sianel yn iawn. Ac rydyn ni angen lot lot mwy nag ail-brandio.
Dw i ddim yn siarad am ddosbarthu rhaglennu llawn (e.e. Clic, yr ap iPhone) hyd yn oed. Wrth gwrs mae gwaith hefyd i’w wneud yna o ran mynediad i hen rhaglennu.
Am beth ydw i – a gobeithio pobol eraill sy’n pryderi am fywyd iachus i’r iaith Gymraeg ar y we – yn gofyn, felly? Dw i’n siarad am gynnwys ar y we fyd-eang. Fideo. Testun. Podlediadau. Gemau. ‘Profiadau’. Mapiau. Barddoniaeth. Straeon. Awdio. Trafodaeth. Sylwadau. UGC. Pethau creadigol. Barnau. Pethau cŵl. Pethau peniog. Cerddoriaeth. Blogiau. Trafod chwaraeon. Stwff o’r archif, ___, ___., ___… ac ati ac ati.
Rydyn ni’n trio tyfu gwe Gymraeg, dyma’r breuddwyd. Mae lot o dalent yn Gymru. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr (tu fas i Golwg360, stwff BBC yn Gymraeg, yr Amgueddfa, Cynulliad a Llywodraeth, efallai un neu dau arall). Mae’n anhygoel!
Felly dyma beth mae S4C Newydd yn golygu i fi yn y cyd-destun ar-lein. Model bosib yw uber-wefan fel bbc.co.uk, ond dw i’n hoff iawn o fodel gwe-eang.
Dylai fe bod yn rhan o’r broses comisiynu – o’r dechrau. Cywira fi os fi’n hollol rong – dw i’n dod o safbwynt y we yn hytrach na theledu.
Mae’r is-wefannau Cyw a Stwnsh yn wych (a’r ap Cyw). Mae’r darpariaeth i bobol ifanc iawn yn dda. (Eithriadau: gemau a chynnwys Ddoe am Ddeg, blog Ar Lafar…)
Yn gyffredinol, yng Nghymru, rydyn ni’n dda iawn gyda babanod. Efallai dw i wedi sylwi oherwydd ces i ddim plentyndod Cymraeg. (Llun gan Berberich dan CC.)
Ni’n rhoi ein blant yn gyntaf fel blaenoriaeth.
Babi yw’r brenin yn y byd Cymraeg.
Dw i’n meddwl am Cyw fel ‘ysgol feithrin’. O ran S4C a’r we, maen nhw yn cynnal ysgol feithrin hyfryd. Nawr beth am bethau i bawb arall? Ble mae’r ‘pybs’, ble mae’r ‘gigs’, ble mae’r ‘bingo’ – fel petai?