Atgoffodd sylw ar Golwg360 fi o’r strwythur cyfeiriadau gwe ar wefannau yng Nghymru.
Gweler y gwahaniaeth rhwng yr enghreifftiau isod:
- http://www.assemblywales.org/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm
- http://www.assemblywales.org/cy/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm
Maen nhw dau yn mynd i fersiynau gwahanol o’r un dudalen. Yn fy marn i, mae’r datblygwyr wedi dewis yr opsiwn diog ar gyfer y system yma. Dw i wedi rhoi ffocws ar wefan y Cynulliad ond mae sawl enghraifft arall wrth gwrs.
Felly dyma rywbeth bach ond pwysig heddiw. Mae’n rhan o fy ngalwedigaeth i ddadansoddi pethau fel hyn!
Mae’r strwythur cyfeiriadau gwe (URLs) yn elfen bwysig o ryngwyneb y gwefan. Mae defnyddwyr yn darllen cyfeiriadau gwe. Maen nhw yn rhoi nhw mewn e-byst, cofnodion blog a sylwadau. Maen nhw yn golygu cyfeiriadau gwe yn aml er mwyn ffeindio stwff yn ôl ymchwil.
Mae’r system uchod yn tanseilio beth sydd yn unigryw am y dudalen Cymraeg. Dw i’n eithaf siŵr bydd y drefn yn cael effaith gwael ar chwilio trwy Google a pheiriannau chwilio eraill achos mae’r cyfeiriad i’r dudalen Saesneg yn edrych bron yn union fel yr un Gymraeg.
Hefyd mae cyfle coll i bwysleisio dwyieithrwydd y sefydliad. Ond mae hynny yn bwnc hollol wahanol… 🙁