Cwyn i’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig am enedigaeth a hunaniaeth genedlaethol

Dyma gopi o gwyn dw i wedi anfon ddydd Iau trwy’r ffurflen ar bbc.co.uk, ac dw i hefyd wedi nodi bod eisiau ymateb.

Parthed:

Cwyno ydw i am eiriad yr eitem uchod ar y sail bod hi’n:

  1. anghywir
  2. anghyfrifol.

Rydych chi’n defnyddio’r termau ‘foreign people’ a ‘foreign workers’ er mwyn cyfeirio at gategorïau o bobl. Mae hyn yn gategorïau mor eang ac amrywiol, ond nid oes ystyriaeth gywir o hunaniaeth personol neu hyd yn oed statws cenedligrwydd yn ôl yr awdurdodau.

Y gwir yw bod nifer sylweddol o bobl sydd yn ystyried eu hunain fel dinasyddion llawn o’r wlad, ac yn cael eu hystyried yn yr un modd gan yr awdurdodau, wedi eu geni tu allan i’r Deyrnas Gyfunol. Ni ddylid defnyddio’r termau felly.

Mae cyfrifoldeb ar y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig fel darlledwr dylanwadol i fod yn eithriadol o sensitif wrth geisio sôn am hil, mewnfudo, hunaniaeth, man geni, ac ati. Mae holl fframio golygyddol yr eitem yn broblemus ac o ran y ffeithiau yn groes i’ch Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant (yn enwedig tudalen 10).

Diolch am bob ystyriaeth

Carl Morris

DIWEDDARIAD 31/12/2019:

Dyma ymateb wrth y gorfforaeth sydd yn cadarnhau bod y cwyn wedi cyrraedd ond yn osgoi trafod y mater.

Annwyl Carl Morris

Diolch am gysylltu â ni gyda’ch cwyn.

Mae’n ddrwg gennym glywed eich bod yn anhapus gyda geiriad yr adroddiad dan sylw.

Hoffwn eich sicrhau ein bod wedi dod a’r mater at sylw’r tim golygyddol a’r uwch rheolwyr perthnasol.

Rydym hefyd wedi cynnwys crynodeb o’ch cwyn yn ein hadroddiadau mewnol am ymateb y gynulleidfa sydd ar gael i gynhyrchwyr rhaglenni a phenaethiaid y BBC. Yn wir, rydym bob amser yn falch o dderbyn adborth, boed yn dda neu ddrwg, gan ei fod yn ein cynorthwyo i werthuso ein gwasanaethau.

Diolch i chi eto am gysylltu gyda’ch sylwadau.

Yn gywir

Uned Gwynion y BBC

http://www.bbc.co.uk/complaints/handle-complaint/?lang=cy

DS: Mae’r neges hon yn cael ei hanfon o gyfrif e-bost nad yw’n cael ei fonitro. Ni allwch ateb i’r cyfeiriad hwn. Os bydd angen i chi gysylltu â ni os gwelwch yn dda gwnewch hynny drwy ein ffurflen gwynion gan ddyfynnu unrhyw gyfeirnod a ddarparwyd gennym ni.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh and in English.