Newidodd Tŷ’r Cwmnïau rhai o’i gwasanaethau a phrisiau mis yma ar y 6ed. Dyma un o’r datganiadau:
Mae gan Dŷ’r Cwmnïau weledigaeth i fod yn gofrestrfa hollol electronig.
Fel cam ar y daith tuag at gyflawni’r weledigaeth hon, rydyn ni’n cyhoeddi heddiw ein bod ni’n disgwyl y bydd ein gwasanaethau ar gyfer cyflwyno ceisiadau corffori, ffurflenni blynyddol, cyfrifon a’r prif newidiadau i gwmnïau yn llwyr ddigidol (electronig) erbyn Mawrth 2013. Bydd hyn yn cwmpasu’r holl fathau safonol o gwmnïau, sef dros 98% o’r cwmnïau ar y gofrestr a 92% o’r holl drafodion yn ôl nifer. O ran y nifer fechan o fathau o gwmnïau a thrafodion sy’n weddill, byddwn ni’n parhau i ddatblygu gwasanaethau electronig ond yn cadw’r dewis ‘papur’ ar gyfer y rhain am y tro. Mae’r newid hwn yn amodol ar ymgynghoriad â’r budd-ddeiliaid, a chymeradwyaeth y Senedd i’r rheoliadau. Bydd dyddiad am y process ynghyngoriad yn cael ei gyhoeddi ar y tudalen hwn cyn gynted y bydd ar gael.
Mae trafodion digidol yn cynnig nifer o fanteision i’n cwsmeriaid – ffioedd is, hwylustod, canran uwch o geisiadau sy’n gywir y tro cyntaf (mae’r cyfraddau ail-wneud ar gyfer trafodion electronig yn llai nag un chweched o’r gyfradd ar gyfer trafodion papur), gwell diogelwch a llai o dwyll, sicrwydd y byddant yn cyrraedd a’r fantais o gael eu prosesu’n gynt. Bydd y gorchymyn i gyflwyno cyfrifon digidol yn agor y drws ar gyfer cynhyrchion newydd posibl a fydd yn helpu’r farchnad gwybodaeth am gwmnïau ac yn ei gwneud yn haws defnyddio data am gyfrifon at ddibenion dadansoddi, cymharu a meincnodi.
Swnio fel dyfodol cyffrous o ddatrysiadau technolegol. Ond maen nhw wedi gadael un “mantais” mas o’r datganiad – trafodion digidol yn Gymraeg.
Mae pobol sydd eisiau wneud pethau yn Gymraeg yn dod dan y categori “corfforiadau eraill”.
Ar hyn o bryd, er enghraifft, os ti eisiau dechrau cwmni Cyf gyda dogfennau yn Gymraeg, rhaid i ti wneud y gais ar papur – does dim dewis arall. Rydyn ni’n gallu sôn am bobol gyffredinnol yma, fel plymwyr, trydanwyr, gwarchodwyr plant, entrepreneuriaid lan i dy gaffi lleol newydd, cwmni teledu neu dylunyddion. Mae rhai o bobol yn y sector preifat eisiau wneud eu busnes yn Gymraeg.
Mwy:
Mae gwasanaethau digidol yn cynnig arbedion sylweddol o ran costau dros y fersiynau papur. Caiff yr arbedion hynny eu trosglwyddo’n llwyr i’n cwsmeriaid ar ffurf ffioedd is – mae’r ffioedd statudol ar gyfer ein gwasanaethau yn cael eu pennu ar sail adfer costau. O gymharu â thrafodion papur, mae ein cwsmeriaid yn arbed 25% wrth gorffori’n electronig a 50% wrth gyflwyno ffurflenni blynyddol yn electronig. Ar sail y patrymau ffeilio cyfredol, disgwylir y bydd y ffioedd is yn arbed dros £2 miliwn i’n cwsmeriaid.
O ran yr enghraifft o’n Cyf gyda dogfennau yn Gymraeg, bydd y gais yn costio £20.
Ond os ti eisiau dechrau Ltd yn Saesneg, mae gen ti ddewis o feddalwedd (£14), ar-lein (£18) neu bapur (£40).
Gweler Cofrestru cwmni neu PAC â dogfennau cyfansoddiadol yng Nghymraeg (sic?) a Thŷ’r Cwmnïau Cynllun Iaith Gymraeg o 2010.
- Pryd ydyn ni’n gallu disgwyl y ddarpariaeth lawn yn Gymraeg – ac yr un prisiau?
- Os mae gyda nhw targed o Fawrth 2012 am y defydd o ddarpariaethau yn Saesneg, pryd fydd yr un targed am Gymraeg?
DIWEDDARIAD: neges gan @companieshouse ar Twitter isod.
Ond beth mae hwn yn golygu? Mae’r dolen yn mynd i’r prif tudalen ar tyrcwmniau.gov.uk – eh?
This post is about Companies House and the total lack of Welsh provision in some of their online services.