Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr

ogwr-aled-2-mawrth-2013

Mae gymaint o lefydd tu hwnt i’r A470! Ac mae’r bryniau o gwmpas y cymoedd Rhondda ac Ogwr yn hyfryd iawn yn yr haul, ymhlith y gorau ar ddaear Duw. Diolch i Glwb Mynydda Cymru am drefnu’r anturiaeth dydd Sadwrn.

Bydd rhaid i mi ail-ymweld. Oes unrhyw argymelliadau o lwybrau tra fy mod i’n aros am Fwrdd Twristiaeth y Cymoedd i ddychwelyd fy negeseuon (neu ddod i fodolaeth)?

Dyna ni, efallai rydyn ni wedi newid i’r fath o flog sydd yn rhannu data di-ri am amserau ymarfer corff. (Dad-danysgrifiwch nawr!) Wedi dweud hynny, dyw’r ddata ddim yn hollol dibynadwy. O’n i’n defnyddio ap symudol My Tracks fel arbrawf ac roedd GPS yn methu ambell waith am ryw reswm felly mae bylchau. Roedd cyfanswm go iawn y daith ychydig yn llai na 14 milltir. Y daith hiraf dw i wedi gwneud ers tro a dweud y gwir.

Fflachio / Hacio’r Iaith – beth ddysgais i

Dyma’r fideo o fy sesiwn Fflachio’r Iaith i’w wylio eto ac eto!

(Yn y fideo dw i’n sôn am rhedeg Android ar efelychydd Eclipse ar dy gyfrifiadur. Dylet ti chwarae gydag Eclipse oes os diddordeb gyda ti.)

Dyma beth ddysgais i:

  • Mae’n bwysig iawn i ailadrodd y Rheol Dau Droed, sef os wyt ti eisiau gadael unrhyw bryd dylet ti adael. O’n i’n gwybod oedd y pwnc yn niche felly gwnes i atgoffa pobol ar y dechrau.
  • Mae’n bosib gwneud sesiwn Hacio’r Iaith heb unrhyw baratoad. Ac mae lle i sesiynau ymarferol amlgyfrannog.  Baddiel and Skinner Unplanned yn hytrach na Christmas Lectures.
  • Mae’r fformat sgrin + cyflwynydd + cynulleidfa yn creu disgwyliadau i ryw raddau. Cawson ni lot o help a chyfranogiad ond efallai bydd e’n haws i greu awyrgylch neis gyda strwythur ‘agored’, e.e. cylch o seddau. Diolch i bawb am ddod a chyfrannu!
  • Dw i wedi bod yn rhan o Hacio’r Iaith ers y dechrau, tri cynhadledd a sesiynau mewn Chapter ayyb, dw i’n hapus i ddweud bod i erioed wedi darparu ’darlith traddodiadol’! Er bod darlith traddodiadol yn hollol iawn dw i’n gweithio mewn ffordd gwahanol.
  • Cyn i mi ddechrau tro nesaf dylwn i dreulio tri neu bedwar munud i baratoi’r stafell i annog cyfranogiad. Er enghraifft ambell waith mae’n well i fod yng nghanol y stafell gyda dwy sgrin – un mewn gliniadur ac un allanol i ddangos y sgrin i bobol gyferbyn.
  • Mae gyda phobol lot i’w gyfrannu, yn enwedig y pobol ‘technegol’. Ond ar hyn o bryd mae rhai ohonyn nhw yn eithaf distaw, efallai dydyn nhw ddim yn teimlo digon hyderus i fentro sesiwn? Neu ydyn nhw eisiau mwy o anogaeth i ffeindio pwnc diddorol? Ar y cyfan roedd y cynrychioliad o bobol yn eithaf da: dynion a benywod, pob oedran, pynciau a diddordebau gwahanol, ayyb. Tra bod Hacio’r Iaith yn ymestyn i bobol o bob arbenigaeth (ac yn croesawu tips am sut i fod yn gyfartal) mae angen cofio a chefnogi’r gîcs. Efallai bydd sesiynau niche iawn yn syniad.
  • Tra bod i’n siarad dw i’n symud fy mreichiau eithaf lot. Mae angen ail-asesu effeithiolrwydd y dull yma yn sicr.
  • O safbwynt symudol roedden ni’n methu rhedeg yr ap Helo Byd ar ffôn (yn hytrach na chyfrifiadur). Felly roedd y sesiwn yn fethiant! Paid ag ofni methiant.
  • Y term llinyn (yn y cyd-destun meddalwedd).
  • Mae dal galw am Android Cymraeg! Mae’r system yn enfawr ond dylai fe fod yn bosib gyda chyd-weithredu. Gwnaf i drio gosod system cyfieithu hawdd ar-lein (gydag XML, schemas ac ati yn y cefndir yn saff).
  • Mae galw am wybodaeth hygyrch am sgwennu cod – rhyw fath o gwrs byr am ddim ar-lein fel Codeacademy? Wrth gwrs dw i’n meddwl am rhywbeth yn Gymraeg gyda chynnwys brodorol. Mae’n bwysig, hyn yn oed, i fabwysiadu pethau yn Gymraeg er mwyn llifo trwy’r sgwrs a phobol Cymraeg a newid yr ‘agenda’.

Cymynrodd y Samsung S5600 Cymraeg

Cofia’r Samsung S5600? Ffôn Cymraeg cyntaf y byd (ac olaf, ar hyn o bryd), naeth cael ei lansio dwy Eisteddfod yn ôl.

Gwnes i ofyn Bwrdd yr Iaith am sefyllfa y cyfieithiad er mwyn copio rhai o’r termau i’n cyfieithiad Android. Orange sy’n biau’r cyfieithiad o’r system. Gwnaeth y Bwrdd ateb gyda dolenni handi i dermau.

Dw i eisiau meddwl bydd cyfieithiad Android yn cyfrannu at fersiynau newydd a phrosiectau eraill yn y dyfodol. Er doedd e ddim yn rhedeg Android bydd rhyw fath o ddilyniant o’r Samsung yn neis – ac yn y maes technoleg Cymraeg yn gyffredinol. Hoffwn i feddwl bod ni’n symud o nerth i nerth. Ac mae’r diffyg argaeledd stwff a fu yn atal arloesi.

Yn y cyd-destun hanes sa’ i’n gweld pwynt yr ymdrech Orange, mae’n lot o drafferth am dipyn bach o gyhoeddusrwydd ym mis Awst.

Dechrau cyfieithu Android

Dw i newydd dechrau cyfieithu Android i Gymraeg.

Mae’n gyfle i mi ddysgu sawl peth. O’n i’n cyfarwydd ar gyfieithu mewn PHP gyda gettext. Ond mae Android yn rhedeg fel cadarnwedd felly bydd e’n haws i redeg fersiynau dros dro mewn efelychydd ar fy nghyfrifiadur tra bod i’n cyfieithu, cyn i mi grynhoi’r cod, gwreiddio’r ffôn a fflachio’r ROM i’w brofi.

Un cwestiwn pwysig wnaeth codi ei hun oedd ‘ble ddylwn i ddechrau?’. Gwnes i benderfynu i gyfieithu yr ap lleia cyntaf. O’n i’n meddwl bod yr ap larwm/cloc sy’n rhan o Android yn fach felly dyma ble gwnes i ddechrau.

Dw i wedi defnyddio’r fam o eiriaduron, termau.org, sawl gwaith yn barod.

Bydd mwy ar y tudalen GitHub yma yn fuan.

Hacio’r Iaith 2011 – trwsio technoleg gyda’n gilydd

Yn ôl y dyfeisiwr ac awdur Americanaidd Danny Hillis, technoleg yw “popeth sy ddim yn gweithio eto”. Mae hyn yn fewnwelediad defnyddiol – roedd dyfeisiau fel y car, y teledu, y gadair a’r pâr o esgidiau yn newydd yn y gorffennol. Gwnaethon nhw lwyddo pan roedden nhw yn rhan o gefndir ein bywydau.

Ar draws y byd, mae pobol yn trwsio technoleg ar gyfer eu hanghenion. Oni bai ein bod yn darganfod ffyrdd o addasu technoleg i’n cynorthwyo ni, gall barhau i fod yn ddiffygiol. Mewn rhai achosion, gall hyd yn oed weithio yn ein herbyn.

Yn Nghymru, dw i’n credu gallwn ddylanwadu’r defydd technoleg ar gyfer amcanion adeiladol, ar gyfer creadigrwydd, ar gyfer busnes, ar gyfer addysg, ar gyfer democratiaeth a llawer o ddefnyddiau eraill. Dyw hyn ddim yn digwydd ar ei ben ei hun, dyw’r cyfleoedd yma ddim yn codi os rydyn ni’n gadael y gwaith i bobol eraill.

Dw i’n cyd-drefnydd o Hacio’r Iaith, cymuned o bobol sy’n brwdfrydedd am yr iaith Gymraeg a’i ddefnydd o fewn technoleg ac ar y we. Rydyn ni’n cynnwys cyfryngis, rhaglenwyr meddalwedd, pobol creadigol, academyddion, blogwyr, ymgyrchwyr, gwneuthurwyr polisi a dylunwyr.

Rydyn ni’n grwp amrywiol o bob oedran a chefndir. Dydyn ni ddim yn rhannu’r un safbwynt, personaliaeth neu bwyslais ond yn aml dw i’n ffeindio fy nghydweithwyr Hacio’r Iaith i fod yn arbrofol, chwareus, chwilfrydig, di-ofn – ac agored.

Rydyn ni’n dathlu’r nodweddion yma drwy fabwysiadu’r fformat BarCamp ar gyfer ein “anghynhadledd”. Rydyn ni’n trefnu’r anghynhadledd Hacio’r Iaith nesaf – bydd e’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth mis yma.

Bydd y gynhadledd yn wahanol i gynadleddau traddodiadol oherwydd y diffyg areithiau gan sêr drud. Mae’r rhaglen i gyd yn cael ei chreu a datblygu gan y bobol, casgliad unigryw o bobol mewn amser a gofod. Yn yr wythnosau sy’n arwain at y digwyddiad, mae pobol yn cael eu annog i gofrestru’u enwau, awgrymu sesiynau a mesur cefnogaeth. Mae hyn yn digwydd ar y we, ar ein wici. Ar fore’r digwyddiad, mae’r rhaglennu yn parhau ar siart gyda nodiadau gludiog.

Bydd trafodaethau, cyflwyniadau, areithiau a sesiynau ymarferol. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae pobol yn cynllunio trafodaeth am deledu amlblatfform, sesiwn ymarferol i ddatblygu rhyngwyneb Cymraeg i ffonau Android ac efallai trafodaeth am theatr a thechnoleg. Bydd sesiynau ychwanegol yn digymell ac yn cael ei cynllunio yn ystod coffi neu ginio.

Mae unrhyw sesiwn angen dau o bobol fel isafrif – mae sesiwn fach yn iawn os yw’n ddefnyddiol a diddorol i’r bobol sy’n dod. Maen nhw’n gallu penderfynu’r polisi ar gyfer rhannu, ond fel arfer mae mor agored â phosib, gydag enwau’n cael eu rhoi i bod dyfyniad. Mae’r wybodaeth a thrafodaethau’n cael eu dogfennu a’u rhannu drwy fideo, lluniau, cofnodion blog a nodiadau ar y wici.

Dechreuodd y fformat BarCamp yn y maes technoleg, ond does dim yn rhwystro pobl rhag cynnal; mathau eraill o BarCamp. O gwmpas y byd mae’r fformat wedi mynd o dechnoleg i addysg, meddygaeth, celfyddydau, gwleidyddiaeth a grwpiau ffydd hefyd. Fel arfer mae mynediad yn rhad neu am ddim.

Fel fformat, mae’n ddelfrydol os wyt ti eisiau cael criw o bobol amrywiol at ei gilydd heb unrhyw uchelgais i ddechrau “busnes cynadleddau”. Does neb yn berchen ar y digwyddiad – felly mewn ffordd, mae pawb yn perchen arno fe.

Dw i’n credu bod rhannu yn llawer mwy buddiol na gwybodaeth berchnogol. Edrycha at y we: mae gwybodaeth yn doreithiog. Dolenni, sgwrs agored, meddalwedd cod agored, trwyddedu agored fel Comins Creadigol, maen nhw i gyd yn tyfu. Bydd cwmnïau yn ennill trwy gymhwysiad ac enw da yn hytrach na thrwy ddulliau o gyfrinachedd masnachol.

Os rydyn ni’n gallu cymhwyso fe, bydd rhannu teclynnau a gwybodaeth yn newyddion da i’r Gymraeg fel iaith fechan – a strategaeth iachus am y dyfodol.

Mae Hacio’r Iaith yn digwydd ar 29ain o fis Ionawr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mynediad am ddim ond cofrestrwch gan arwyddo eich enw ar y wici. Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar ôl ar hyn o bryd.

Diolch: Rhys Wynne am help gyda’r cofnod hwn.

This blog post is about the Hacio’r Iaith unconference in Aberystwyth on Saturday. Click on Wales published an English language version of this post today.