Map prototeip o lofnodion Deiseb Heddwch Menywod Cymru (Hacathon Hanes 2025)

Gwych iawn oedd cael cymryd rhan yn y digwyddiad Hacathon Hanes 2025 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar 12 Chwefror eleni.

Roedd llu o setiau data ac adnoddau ar gael i’w hacio ac addasu ac yna creu prosiectau. Fe benderfynais cyfuno rhai o fy niddordebau mewn prosiect un-diwrnod – hanes ymgyrchu, heddwch, data, a mapio.

Yn y flwyddyn 1923 yn sgil erchyllderau’r Rhyfel Fawr roedd ymdrech fawr i drefnu deiseb heddwch. Yn y pen draw fe gasglwyd 390,296 o lofnodion gan fenywod yng Nghymru, oddeutu un trydydd o holl fenywod a merched Cymru ar y pryd. Chwarae teg iddynt! Aeth y ddeiseb ar dipyn o daith wedyn. Darllenwch yr hanes.

Dyma brototeip (cynnar iawn iawn) o fap cyfredol sy’n dangos llofnodion deiseb gan fenywod yn ardal Grangetown, Caerdydd.

Mae’r map yn ymdrech i:

  • ddangos yr ymgyrch mewn ffordd weledol amgen,
  • cyflwyno’r menywod a lofnododd y ddeiseb yn eu holl amrywiaeth,
  • talu teyrnged iddynt,
  • gweld ein strydoedd mewn ffordd arall,
  • a sbarduno’r meddwl.

Mae’r data lleoliad a delweddau yn dod o brosiect digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru gan y llyfrgell ei hun a’i chriw o wirfoddolwyr.

Dyma enghraifft o lofnod. Yn yr achos yma mae’r trefnydd lleol wedi ysgrifennu’r enw Margaret Jones, 23 Paget Street, ac yn hytrach na llofnodi mae hi wedi rhoi X – o bosib oherwydd salwch, cyflwr, neu anllythrennedd?

Dw i eisoes yn gweld fy strydoedd lleol yma mewn ffordd wahanol.

Y prif heriau technegol i mi oedd cysoni a thacluso’r data, a chanfod lleoliadau’r map. O ran y data roedd pob cyfeiriad mewn maes unigol ac roedd ychydig o anghysondeb (a oedd yn adlewyrchu’r amrywiaeth yn y dogfennau gwreiddiol i fod yn deg). Roedd angen i mi wneud bach o gysoni gyda sgript a bach â llaw. Defnyddiais y set data agored OS Open Names i gael cyfesurynnau am ganol bob stryd (yn hytrach na rhywbeth fel API Google Maps sydd â chyfyngiadau). Mae’r set data OS yn cynnig lleoliad canol y stryd a ‘bocs’ o amgylch y stryd.

Wrth gwrs mae angen llawer iawn mwy o lofnodion ar fy map. Bydd hi’n dda cael ymestyn i’r holl ddinas a’r holl wlad wedyn. Nid oes mynediad gyda fi at y data gwreiddiol rhagor.

Mae eisiau i mi ffeindio ffordd well o ddangos clwstwr o lofnodion sydd wedi dod o’r un stryd hefyd, o bosibl drwy ddefnyddio’r bocs o amgylch bob stryd. Ar hyn o bryd mae ychydig o amrywiaeth randym yn y lleoliadau – datrysiad cyflym dros dro oedd hyn!

Gobeithio bod modd diweddaru’r prosiect yn y dyfodol agos. Hoffwn i rannu’r cod tu ôl iddo hefyd.

Diolch i’r Llyfrgell am y croeso. Dyma erthygl gan Jason Evans sy’n cynnwys sôn am rai o’r prosiectau eraill.