Dw i’n gweithio gyda WWF Cymru ar Awr Ddaear 2013 sy’n digwydd nos Sadwrn.
Dyma fideos o gerddi ardderchog gan Iwan Rhys a Llŷr Gwyn Lewis. Joiwch.
DIWEDDARIAD: Osian Rhys Jones wedi sgwennu englyn.
Dw i’n gweithio gyda WWF Cymru ar Awr Ddaear 2013 sy’n digwydd nos Sadwrn.
Dyma fideos o gerddi ardderchog gan Iwan Rhys a Llŷr Gwyn Lewis. Joiwch.
DIWEDDARIAD: Osian Rhys Jones wedi sgwennu englyn.
Dw i bach yn obsesed gyda barddoniaeth sain gan Bob Cobbing ac eraill ar ôl i mi ddarllen erthygl mewn rhifyn diweddaraf ar bapur o’r cylchgrawn Wire. Bob tro dw i’n ystyried prynu’r cylchgrawn dw i’n ymwybodol o’r moethusrwydd – pam ydw i’n prynu cyfryngau? Mae gymaint o erthyglau ar y we eisoes! Ond fyddwn i byth wedi dod ar draws rhai o’r pethau diwylliannol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fi heblaw am y cylchgrawn. Mae’r weithred prynu cylchgrawn yn fy ngorfodi i ddarllen bron pob erthygl, cyfweliad ac adolygiad. Wrth gwrs mae brand dibynadwy ar y we yn wneud rhywbeth tebyg i ryw raddau ond mae’r prynu yn annog lot lot mwy o serendipity ar fy rhan i.