語言就廣義而言,是一套共同採用的溝通符號、表達方式與處理規則。符號會以視覺、聲音或者觸覺方式來傳遞。嚴格來說,語言是指人類溝通所使用的語言-自然語言。一般人都必须通过学习才能获得语言能力。語言的目的是交流观念、意见、思想等。语言学就是從人類研究語言分類與規則而發展出來的。研究語言的專家被稱呼為語言學家。當人類發現了某些動物能夠以某種方式溝通,就誕生了動物語言的概念。到了電腦的誕生,人類需要給予電腦指令。這種「單向溝通」就成了電腦語言。
Pethau Bychain yn y Guardian
Dw i wedi sgwennu erthygl Pethau Bychain i’r blog Guardian Cardiff.
Mae’n digwydd fory!
The Beach – fy stori bywyd gan Charlie Prestatyn ar YouTube
Fideo neis gan Charlie Prestatyn ar gyfer ei fywyd. (Mae’n hollol bosib i greu fideo debyg dy hun neu fideo am rhywun enwog… Ti angen: papur, pen, camera fel Flip a syniad yn unig.)
Mae fe’n rhan o’r stori The Beach – mwy o wybodaeth am y gêm theatr (gyda National Theatre Wales).
Arlein dyn ni’n casglu casglu casglu – felly paid a bod yn unig
Thema fi ar hyn o bryd yw “casglu”.
Casglu’r pethau bychain.
Mae nwdls yn casglu fideos gyda fideobobdydd.
Dw i’n casglu defnyddwyr Cymraeg ar Twitter ar fy cofrestrau. (Tua 609 person heddiw.)
Dyn ni’n casglu gwefannau, blogiau a theclynnau ar Hedyn.
Dyn ni’n casglu pobol a dealltwriaeth gyda Hacio’r Iaith – arlein ac yn y cigfyd.
Ro’n i’n hoffi Blogiadur. Dyn ni’n gallu deall pam casglodd Aran Jones blogiau gwahanol yna. (Ond mae’r wefan angen diweddariad gyda blogiau newydd.) Darllena’r papur “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” gan Daniel Cunliffe – dw i’n methu ffendio’r dolen heddiw.
Dyn ni eisiau ffeindio pobol a gwefannau sy’n bodoli yn barod a’u thynnu nhw at ei gilydd i fod mwy agos. Paid a bod yn unigrwydd. Ymuna’r parti!
Cydgrynhoad yw gair da arall.
Dw i’n gofyn am wasanaeth newydd i gasglu canlyniadau Cymraeg ar Google gyda’u gilydd. Gweler post diwetha (wrth gwrs bu farw’r Wenhwyseg achos caeth siaradwyr eu gwasgaru).
Mae’r we Gymraeg yn rhy frith.
Pwy sy eisiau ymuno’r Gymdeithas Yn Erbyn Entropi?
Llun gan ario_
YCHWANEGOL: Mae Rhys Wynne wedi postio dolen “The Blogiadur – a community of Welsh-language bloggers” yn y sylwadau isod. Cyfrannodd Courtenay Honeycutt i’r papur hefyd.
Chwilio Google, sillafu ac awgrymiadau awtomatig yn y Gymraeg (cyfle?)
Siomedig eto!
Ro’n i eisiau darllen rhywbeth am Wenhwyseg.
Wnes i trio “gwenhwysig” (dim ond 3 canlyniad Google). Hmm…
Ar ôl ychydig o waith, wnes i ffeindio’r sillafiad cywir “gwenhwyseg” (775 canlyniad Google).
Y “Wenhwyseg” hefyd. (3240 canlyniad Google)
Mae awgrymiadau awtomatig yn ddefnyddiol iawn yn Saesneg. Ond os ti’n chwilio am “Estury English” (sic), mae fe’n gallu deall dy air a trwsio dy gamsillafiad.
Dw i ddim yn sôn am yr eiriau yma yn enwedig. Dw i’n trio dychmygu’r we gorau am y Gymraeg. Dyn ni ddim wedi cyrraedd eto.
Mae Cysill yn gallu trwsio’r camsillafiadau. Ond faint o bobol/plant/dysgwyr fasai’n defnyddio fe cyn chwilio?
Dyw Google ddim yn adnabod geiriau Cymraeg. Dyw e ddim yn deall camsillafiadau. Dyw e ddim yn deall treigladau. Dyma pham dw i’n siomedig achos dw i eisiau teclynnau gwell.
Felly mae gyda fi awgrymiad agored am broject nesaf i’r dynion a benywod Cysill (neu unrhyw un)!
Does dim peiriant chwilio sy’n “deall” Cymraeg ar gael. Felly dw i’n eisiau Google + Cysill (neu rhywbeth debyg). Dw i eisiau defnyddio cragen Cymraeg ar Google. Mae’n bosib gyda Google Search API.
Does dim ots gyda fi os mae Google yn cynnig rhyngwyneb Cymraeg. OK da iawn mae rhyngwynebau yn neis ond mae lot mwy yn bosib na rhyngwynebau .
Dychmyga’r cyfle: cynulleidfa mawr am hysbysebion ayyb. Efallai dyn ni’n siarad am y brif wefan Cymraeg.
(Gyda llaw, eisiau gwrando ar enghraifft o Wenhwyseg? 0 canlyniad YouTube o gwbl.)
Fideo Bob Dydd – 730 darn o cynnwys arlein Cymraeg o leiaf bob blwyddyn
Mae’n braf iawn i weld fideobobdydd.com (da iawn nwdls).
Mae’n enghraifft da o wefan WordPress wrth gwrs. Dyn ni’n gallu ychwanegu e i’r cofrestr WordPress.
Dw i’n meddwl llawer am y diffyg cynnwys arlein Cymraeg. Nawr mae fideobobdydd yn cyfrannu cofnod a thweet bob dydd. Dyna 365 cofnod a 365 tweet awtomatig o leiaf bob blwyddyn! Fideos ardderchog hefyd, dyma’r pwynt.
Mae’n tyfu’r rhwydwaith hefyd achos mae’n hybu fideos YouTube ar gael yn Gymraeg. Weithiau mae’n ddigon i gasglu cynnwys (a chynulleidfa/cymuned). Dolenni yw cynnwys hefyd. Mae’n annog crewyr fideos.
Dyn ni’n gallu annog hefyd gydag ein sylwadau.
(Ychwanegol am gynnwys arlein Cymraeg: dw i dal yn siomedig am Y Cofnod am yr un rhesymau.)
Pam dylai’r Cynulliad Cymru cyhoeddi’r Cofnod dwyieithog? Y cyd-destun technoleg
Mae Daniel Cunliffe yn cywir iawn i sôn am Google Translate, y cofnod Cynulliad Cymru a’r Adolygiad o Wasanaethau Dwyieithog.
Dw i wedi darllen yr adroddiad wreiddiol wythnos yma (ar gael yn Cymraeg a Saesneg. Mae ymatebion dda eraill yn bodoli ond dw i eisiau dilyn Daniel a siarad am technoleg yn enwedig. Mae gormod o bwyslais ar “technoleg dychmygus” yn yr adroddiad (heb diffiniad glir, gyda llaw) a stori BBC gyda Dafydd Elis-Thomas hefyd.
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad a chadeirydd y comisiwn, wedi dweud bod y panel wedi “ceisio barn mor eang â phosibl.”
“Un o brif amcanion y Trydydd Cynulliad yw sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yma yng Nghymru.
“Dyna pam ein bod yn falch o ddilyn argymhellion y panel, yn arbennig ei gynnig ynghylch sicrhau bod cofnodion o Drafodion y Cynulliad yn haws eu defnyddio, a hynny drwy ddefnyddio technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar.”
Yn cyffredinol, mae’n amhosib dweud beth fydd yn digwydd gyda dy ffynonellau data arlein (e.e. testun neu unrhyw cynnwys arall). Mae data yn mwy gwerthfawr pan mae pobol yn gallu ail-defnyddio fe – os maen nhw yn defnyddio data cyfanred efallai gyda ffynonellau eraill yn enwedig.
Dylet ti meddwl am:
- gwaith mySociety gyda teclynnau democratiaeth
- stwnsho data fel #uksnow
- Google Translate (mae e’n defnyddio cyrff o destunau dwyieithog)
- teclynnau gweledol fel mapiau, graffiau (enghraifft), Wordle
- data.gov a data.gov.uk
- unrhyw ailgymysgiad, ail-defnydd gan rhywun arall
- unrhyw chwiliad yn y dyfodol gan rhywun arall
Wyt ti erioed wedi postio unrhyw beth arlein a wedyn welaist ti rywbeth hollol newydd yn digwydd gyda fe? Mae’n digwydd trwy’r amser.
Felly mae technoleg a dychymyg yn well gyda dychymyg pobol eraill – newyddiadurwyr, ymchwilwyr, pobol, cwmnïau ayyb mewn ffyrdd diddorol iddyn nhw. Rhowch data da arlein, gwelwch beth fydd yn digwydd.
Paid rhoi ffocws ar “technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar” heb manylion penodol achos mae’n bron diystyr. Mae’n well i rhoi’r data llawn arlein gyda fformatau agored cyntaf (e.e. XML). Dyna beth dyn ni’n gwybod yn barod. Mae pobol yn gallu adeiladu teclynnau eu hun.
Dyn ni wedi colli’r gwerth llawn os dyn ni’n stopio’r cyfieithiad Cymraeg. Mae gwerth yn bodoli nawr, wythnos nesaf ac yn y dyfodol.
Paid anghofio: iaith yw technoleg.
YCHWANEGOL 1: Dw i wedi postio sylw ar cofnod Guto Dafydd am yr un pwnc hefyd.
YCHWANEGOL 2: Mae Syniadau yn sôn am y problem chwilio (Google ayyb).
Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog)
Sgwennais i “adroddiad” am y digwyddiad Hacio’r Iaith Bach gyda syniadau, cofrestr o bynciau wnaethon ni trafod a dolenni i’r fideos hefyd.
Tafodieithoedd melys
Dw i’n dychmygu’r symbolau yma fel melysion bach. Bwytwch y pethau bychain.
Mae’r map yma yn dod o lyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyo’r Tafodieithoedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Mae’r llyfr yn anodd ffeindio nawr yn anffodus.
Mae’n hollol bosib wneud map arlein o dafodieithoedd.
Mae ffordd bosib yw: defnyddia ffurflen cwestiynau, e.e. “pa air wyt ti’n defnyddio am (llun o llaeth)” ayyb, creua map.
Gallet ti gasglu blogiau a’u cyfesurynnau a chreu map awtomatig gyda phorthiannau RSS oni bai nad oes digon o flogiau yn bodoli ym mhob man.
Ond mae llawer o bethau ti’n gallu wneud gyda phorthiannau RSS blogiau Cymraeg…
Blogiau lleol am Cardiff, Cymru
Mae tair enghraifft o wefannau am newyddion lleol yn y brifddinas yn dechrau.
- Bydd y blog The Guardian gan ‘beatblogger’ lleol yn dechrau cyn hir. Roedd Guardian yn esbonio’r meddyliau a staff tu ôl y fenter. Twitter: GdnCardiff
- Mae yourCardiff newydd wedi cael eu lansiad gan Media Wales. Mae 16 person gwahanol yn cyfrannu ond mae un person yn unig yn gweithio fel gweithiwr i Media Wales. Mae’r cyfranwyr eraill yn sgwennu i ddweud straeon, hybu digwyddiadau a rhannu profiadau. Twitter: yourcardiff
- Capture Cardiff yw rhywbeth hollol annibynnol o gwmniau cyfryngau traddodiadol. Mae llawer o bobol yn cyfrannu. Twitter: capturecardiff
Mae enghreifftiau eraill yn bodoli yn barod siŵr o fod. Ond ro’n i eisiau sôn am Capture Cardiff. Mae’r wefan yn dangos sut ti’n gallu dechrau blog lleol ar dy ben dy hun. Gyda chyfeillion.
Mae yourCardiff a Capture Cardiff yn defnyddio WordPress – meddalwedd rydd ac am ddim. Prynodd rhywun yr enw parth capturecardiff.com ar y diwedd mis Ionawr a dechreuodd yn syth.
Pobol Caerdydd, ydyn ni eisiau rhywbeth fel hwn yn Gymraeg? Neu… rhywbeth gwahanol? Ble mae’r ‘cymuned Cymraeg yng Nghaerdydd’ yn bodoli? Wyt ti’n gallu siarad am y ‘gymuned Cymraeg’ yng Nghaerdydd? Mae’r papur bro’r Dinesydd gyda ni bob mis wrth gwrs. Ond mae llawer mwy o bethau eraill yn digwydd!
Dyn ni’n gallu darllen The Guardian. Bydd e’n dda, dw i’n siŵr. (Bydd e’n edrych fel y blog Leeds.) Ond ble mae’r lleisiau Cymraeg am newyddion ym mhrifddinas Cymru? (Newidiais i’r teitl i ddweud Cardiff wrth ddechrau trafodaeth.)
Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae llawer o gyfleoedd i gael lleisiau sy wedi bod yn anweledig. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.
Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? Dyn ni’n casglu enghraifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.
Mae sgwrs newyddion lleol yn digwydd ar y wefan Hacio’r Iaith hefyd.
Gyda llaw, mae Caerdydd yn rhy fawr i ddefnyddio’r gair hyperlocal am yr enghraifftiau yma. Mae golygiad y gair yn benodol iawn. Basai hyperlocal yw rhywbeth yn ardal yn unig, neu weithiau stryd yn unig. (‘Splottify’ unrhyw un?).
Llun gan iwouldstay
Ti’n gallu newid dy ardal pan ti’n tynnu pobol at ei gilydd. Mae rhywun arall yn gallu trafod ieithoedd eraill yng Nghaerdydd.
Beth am y fro Gymraeg a phapurau bro yn y cyd-destun hwn? (Machynlleth?) Dyn ni’n casglu enghreifftiau eraill ledled Cymru ar y dudalen Hedyn.