Dw i wedi bod yn dysgu am sut mae cwmnïau amlwladol yn osgoi treth mewn gwledydd difreintiedig trwy ddefnydd o hafanau treth. Mae’r fideo yma yn werth 9-munud o’ch amser.
Mae’r manylion am bethau ariannol fel hyn gallu bod yn gymhleth ond mewn ffordd mae’n syml iawn. Tasai cwmnïau yn talu lefelau teg o dreth yn y gwledydd yma byddai mwy o siawns cael economïau gwell, gwasanaethau gwell a sefydlogrwydd gwleidyddol. Wrth gwrs byddai’r canlyniadau yn dibynnu hefyd ar fuddsoddiad call o’r refeniw ar ran y llywodraethau. Ond casglu treth yn y lle cyntaf yw’r her, sydd wir yn argyfyngus i filiynau o fywydau.
Hefyd mae ffilm ddogfen o’r enw The UK Gold ar yr un pwnc yn ogystal â sut mae Dinas Llundain yn cynnal hafanau treth. Er dyw’r teitl The UK Gold ddim yn arbennig o drawiadol, mae’r ffilm ei hun yn wych. Yn anffodus mae’r cyfle i’w wylio yn Chapter, Caerdydd wedi mynd ond dw i’n meddwl bod modd cael gafael arno fe ar DVD.