Pam ydy pobol yn cyfeirio at oedran yn aml iawn yn y cyd-destun technoleg a chyfryngau digidol?
Enghreifftiau o ddatganiadau sy’n blino fi:
‘Bydd y wefan yma yn gweithio yn iawn efo pobol ifanc ond fydd hen bobol ddim yn iwso fo’.
‘Iawn os ti eisiau defnyddio YouTube ond bydd yr hen bobol yn ddisgwyl rhywbeth arall fel DVD.’
‘Dylen ni penodi Gwilym am y busnes blogio ’ma yn y cwmni achos mae fe’n ifanc.’
‘Mae diddordeb mawr gyda fi yn y pwnc ond does dim gobaith o ran y system ’ma. Achos dw i’n hen.’
Dw i wedi sylwi’r agweddau yma yn aml iawn gyda phobol Cymraeg.
Siwr, rydyn ni’n gweld straeon am ddefnydd o’r teclyn newyddaf yn y wasg tu allan i Gymraeg o ran y ‘silver surfers’. Oh wow, mae hen bobol yn defnyddio e-bost (tua 1997-2000), blogio (tua 2002-2006), Twitter (tua 2010-2011) achos maen nhw eisiau cyfathrebu fel pobol eraill! QUELLE SURPRISE! (Gweler y darn am oedran yn y llyfr Cognitive Surplus gan Clay Shirky neu cofnod Suw).
Dw i ddim wedi gwneud unrhyw ymchwil go iawn ond dw i wedi clywed enghreifftiau o’r brawddegau uchod, yn Gymraeg yn enwedig, eithaf lot yn diweddar. Y gwir yw:
- Mae pobol sydd ddim yn gyffyrddus/hyderus gyda thechnoleg gallu bod yn ifanc.
- Ac mae pobol sydd yn gyffyrddus/hyderus gyda thechnoleg gallu bod yn ‘hen’ (beth bynnag ydy ‘hen’).
- Bydd pobol o bob math yn defnyddio pethau defnyddiol a diddorol os fydd gyda nhw cyfleoedd go iawn.
- Os rydyn ni – a’r wasg – yn tybio bod unrhyw grŵp neu demograffig yn geidwadol neu rhy araf neu tu hwnt i obaith, bydd rhai ohonyn nhw yn mabwysiadu’r ystrydeb i ryw raddau.
Rydyn ni’n cyfeirio at manteision pobol dros 50 oed neu 60 oed, sef profiad, straeon, weithiau doethineb. Dylen ni. Ond pa mor aml ydyn ni’n clywed am ymdrechion i ddysgu gyda’n gilydd – fel pobol o bob math gyda’n gilydd?
Un Ateb i “Oedran a thechnoleg”
Mae'r sylwadau wedi cau.