Gwefan wici o adnoddau ar gyfer tyfu’r we agored Gymraeg yw Hedyn.
hedyn.net yw’i gyfeiriad.
Dw i newydd ddiweddaru’r feddalwedd tu ôl iddi hi (Debian a MediaWiki). Gadewch wybod os ydych chi’n gweld unrhyw broblemau pls!
Mae modd i chi, unrhyw un, gael cyfrif a chyfrannu adnoddau at Hedyn. Roedd rhaid diffodd y ffurflen creu cyfrif yn anffodus, oherwydd sbam.
Mae nifer o bethau wedi newid ers sefydlu’r wici yn 2009, e.e.
- fe oedd twf mewn podlediadau (ydy hynny wedi arafu bellach?)
- twf platfformau ‘meicroflogio’ neu beth bynnag rydych chi eisiau eu galw nhw (Twitter yn gyntaf, nawr mae llu ohonyn nhw)
- twf mewn defnydd o WordPress gan gyrff ac eraill
- lleihad blogio ‘traddodiadol’ Cymraeg
- a thwf gerddi muriog (fel Instagram, TikTok ayyb)
- cyflwyniad a thwf technolegau newydd
- llawer mwy o bethau yng Nghymru ac o gwmpas y byd…
A dweud y gwir mae eisiau meddwl am ddefnydd Hedyn yn 2024 a thu hwnt. Pa rôl sydd i dechnolegau agored a meddalwedd rydd i ffyniant y Gymraeg? Beth sydd eisiau er mwyn cynnal sffêr gyhoeddus a democratiaeth iachus yng Nghymru a thu hwnt? Pa wersi ydyn ni’n gallu dysgu o hanes Twitter? Ydy’r delfryd o we agored Gymraeg yn freuddwyd gwrach? Beth am yr holl sgwrs am ymgacheiddio Tech Mawr? Mae digon yma i mi gnoi cil drosto.
Yn y cyfamser diolch i holl gyfranwyr Hedyn dros y blynyddoedd ac i Rhys Wynne yn benodol am ei holl help, cefnogaeth, a syniadau.