Aran Jones yn dweud:
[…] a’r gwir ydi, wrth gwrs, mae’r Saesneg yn fam iaith i mi ac yn iaith dw i’n medru ei thrin yn gyflym ac yn gyfforddus.
Nid felly mae’r Gymraeg. Hi ydi iaith fy nghalon, ac iaith fy aelwyd; iaith fy nghariad tuag at fy mlant a’m gwraig; iaith newidiodd fy myd.
Ond nid yw hi o dan fy meistrolaeth, o bell ffwrdd – ac mae sgwennu heb reolaeth llwyr, yn ymwybodol y daw camgymeriadau, yn gweithio o fewn ffiniau cymaint yn fwy gyfyngedig na iaith gogoneddus […] yn teimlo fel gollwng ddeugain o flynyddoedd ac eistedd eto ar lawr y dosbarth heb syniad yn y byd sut byddai modd i mi fod o werth fy hun.
Dyna, wrth gwrs, yr her seicolegol mae unrhyw ddysgwr yn ei wynebu – colli hyder a gallu yr oedolyn er mwyn baglu ac is-raddio eu hunain mewn iaith arall – mae iaith mor ganolog i’n hunaniaeth a’n hunan-werth, mae mynd heb dy iaith rugl fel gorfod cau dy lygaid am ddiwrnod, neu glymu dy ddwylo tu ôl i dy gefn. […]
Mae lot i’w ystyried yma. Dw i wedi dweud o’r blaen pam dw i ddim yn hoff o’r term dysgwr ond dw i’n adnabod yr union deimladau a heriau yn yr hyn mae Aran yn eu dweud.
Mae’r cyfan yn werth eich sylw ar Trafodaeth, blog newydd sbon.