Bu farw Eileen Beasley bore dydd Sul.
Mae’r teulu Beasley wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar Gymru ers eu gweithred lwyddiannus i sicrhau biliau treth yn Gymraeg. Roedd yr arddangosfa ar faes yr Eisteddfod wythnos diwethaf yn bwerus iawn.
Ac mae’r stori heddiw yn haeddu sylw yn y cyfryngau. Ar hyn o bryd, yr unig beth newydd ar wefan BBC yw’r stori yn Gymraeg. Gawn ni weld os fydd erthygl Saesneg dydd Llun. Dw i’n credu bod y stori yn berthnasol i bawb yng Nghymru ac i lawer o bobl tu hwnt i Gymru.
DIWEDDARIAD: Mae erthygl Saesneg ar BBC News Wales.
Mae rhywun wedi ychwanegu mwy o wybodaeth i’r erthygl Wicipedia Cymraeg amdani hi gan gynnwys dolenni i’r erthyglau cynhwysfawr ar Golwg360. Mae erthygl newydd sbon, Eileen Beasley, wrthi’n dechrau ar Wikipedia Saesneg ar hyn o bryd.