Mae Vaughan Roderick yn gofyn am y ‘ffin ieithyddol yng Nghymru’r dyddiau hyn’.
Yng Nghymru mae bron pawb yn gwybod ’diolch’, ‘bore da’, ‘nos da’, ‘iechyd da’, ‘araf’ a ‘gwasanaethau’. Dyma sut mae unrhyw un yn dysgu iaith fel babi, yn yr awyrgylch ieithyddol, mae’n naturiol. Ac maen nhw wedi gadael ein categori statig ’di-Gymraeg’.
Mewn gwirionedd does na ddim grŵp ’di-Gymraeg’ yng Nghymru.
Maen nhw i gyd gallu bod yn [D] Cymraeg.
Ac mae lot o’r [D] Cymraeg eisiau clywed mwy o Gymraeg o’i chwmpas, nid llai.
Mae cyfleoedd i glywed Cymraeg yn brin iawn ac yn werthfawr iddyn nhw.
Yn fy mhrofiad i, yn y brifddinas, siaradwyr Cymraeg rhugl ydy’r pobol sydd yn atal ymdrechion i helpu’r ’di-Gymraeg’ i fod yn [D] Cymraeg. Gyda thipyn bach mwy o amynedd bydd mwy o [D] Cymraeg yn parhau ar yr antur ieithyddol. Dyw e ddim yn helpu o gwbl i feddwl bod nhw yn dod mewn rhyw fath o grŵp statig di-Gymraeg achos genedigaeth neu prinder o gyfleoedd.
Dyma enghraifft o fy mywyd. Dw i’n siarad 100% Cymraeg i un o fy ffrindiau. Mae fe’n ateb 50% Cymraeg a 50% Saesneg, sydd yn hollol iawn.
Amser Nadolig bydd e’n ateb 55% neu 60% Cymraeg dw i’n siwr.
Dylwn i wedi dweud bod i’n siarad 100% Cymraeg ond i’n cyfathrebu gyda thipyn o charades i helpu dealltwriaeth, à la Ifor ap Glyn yn y gyfres Popeth yn Gymraeg.
Cytuno yn llwyr, mae sawl ffrind da fi oedd yn gwbl di Gymraeg (er engrhaifft wedi symud o Loegr) ond wedi astudio Cymrag mewn ysgol nos.
Mae’r safon yn dda, ond mae’n nhw dweud fod cyfleuon i ymarfer tu allan i ddosbarth yn frin iawn.
Dwi’n awyddus i helpu, a mae blog newydd da ni, croeso i syniadau/cofnodion newydd.