Mae Click on Wales newydd ail-gyhoeddi naw (9!) adolygiad llyfr ar yr un pryd gan gynnwys erthygl gan Daniel G. Williams, sef adolygiad o Bydoedd gan Ned Thomas. Fel crynodeb Saesneg o’r dyn a’i gwaith a meddwl mae’n wych.
Dw i wastad yn meddwl am Click on Wales a beth fyddwn i wneud gyda fe petasai rywun yn gofyn. Eithaf lot. Yn amlwg un o amcanion nhw yw dylanwad a thwf yn y busnes, y tanc meddwl. Gallen nhw wneud lot mwy i dyfu’r gymuned/cynulleidfa o gwmpas y blog.
Mae IWA ac Agenda yn wneud cyfraniad i Gymru ac efallai Click on Wales yw’r blog gorau, mwyaf cyson, am wleidyddiaeth a materion Cymreig ar hyn o bryd – er bod gyda nhw un gwendid.
Stori. Dw i wedi cyfrannu i’r blog. Nes i gynnig rhywbeth yn y ddwy iaith – ond doeddwn nhw ddim eisiau cyhoeddi’r fersiwn Cymraeg. Pam? Bydd unrhyw ddefnydd o Gymraeg yn agor y drysau i ormod o ddisgwyliadau. Well i ni ganolbwyntio ar Saesneg pur achos does dim digon o adnoddau gyda ni i “gyfieithu”, cyhoeddi erthyglau yn Gymraeg a chefnogi’r alw yna. Dyna oedd y polisi, yn llythrennol, pan nes i ofyn. Cofia, mae digon o le ar y we – nes i anfon yr erthygl dwywaith, erthygl am ddigwyddiad Cymraeg, a nes i dreulio amser i gywiro’r gramadeg gyda siaradwr iaith gyntaf. Dw i dim ond yn gofyn am erthygl Cymraeg nawr ac eto. (Dyma’r fersiwn Cymraeg – aeth e i’r we yn y pen draw, ar y blog yma.)
Yr unig beth fi angen dweud yw: dw i wedi bod yn meddwl mwy am y syniad o flog barnau yn Gymraeg, dyddiol. Dw i eisiau ei weld mwy nag erioed. Materion cyfoes, gwleidyddiaeth, amgylchedd, sefydliadau, arbenigwyr gwahanol. Fel arfer ar-lein dw i’n creu’r pethau dw i eisiau gweld (neu allanoli fy nymuniadau ar broject rhywun arall…!). Ond mae’r syniad yma yn wahanol, bydd rhaid i mi ofyn am dy help.
Dylai’r fanteision y syniad yma bod yn hollol amlwg. Llifo sgwrs trwy’r iaith Gymraeg a mwynhau’r buddion unigryw. “Language is the endlessly evolving basis for human creativity and identity” yn ôl Ned Thomas (yn ôl Daniel G. Williams).
Os oes gydag unrhyw un diddordeb dw i wedi paratoi cynllun drafft, cynllun “busnes” i ryw raddau. Dw i wedi clywed sôn am rhwydwaith hysbysebu gan Golwg360, bydda i’n fodlon mewnosod widget hysbysebu ond beth fydd y termau?
Gwych (a hanfodol!) bod adolygiad o lyfrau Cymraeg i’w cael yn Saesneg, ond wedi iddyn nhw wrthod cyhoeddi dy erthygl yn Gymraeg, sgwn i os ydynt yn gweld yr eironi wrth i Daniel G. Williams gloi ei adolygiad o Bydoedd gyda’r sylw:
The monolingual, Anglophone, form of multiculturalism informing much cultural debate in Britain today is rooted in the belief that the English language is the only legitimate bearer of all civic-democratic nationality, and that those lying beyond its generously catholic embrace are little better than atavistic racists.
(Mae’r ddolen at yr adolygiad ei hun wedi torri gyda llaw)