Adendwm bach i ddilyn y cofnod wythnos diwetha am enwau Glynebwy/Glyn Ebwy, trwy ebost gan fy ffrind Barry (gyda’i chaniatâd):
Roedd e’n ddiddorol, ac hefyd yn ddoniol, i weld y boi ’na’n mynd yn grac dros sillafiad yr enw, oherwydd cyfieithiad o’r Saesneg yw “Glyn Ebwy”, nid enw gwreiddiol y dref.
Yn yr hen ddyddiau pan oedd pawb yn y dref yn siarad Cymraeg, eu henw i’r dref oedd Pen y Cae, nid Glyn Ebwy – ond cafodd yr enw ei ynganu fel “Ben Cē” yn y dafodiaith lleol.
Nid fi sy’n dweud hyn – mae’n dod o lyfr Mary Wiliam, “Blas ar iaith Blaenau’r Cymoedd”, wedi’i rhestru o dan “Ben-cē”.