Dw i wedi bod yn datblygu cynhyrchiad newydd ym Mhrestatyn gyda National Theatre Wales gyda’r enw The Beach.
Dyw The Beach ddim yn arferol fel darn o theatr achos mae fe’n digwydd:
– ar y traeth
– heb llwyfan
– gyda actorion a gemau gyda’i gilydd
– gyda chwaraewyr nid “cynulleidfa”
– ti’n gallu newid y stori
– arlein
Arlein? Fel rhan o’r cynhyrchiad, ti’n gallu dilyn y cymeriadau ar Facebook: Charlie Prestatyn a TJ Salford.
Os oes gen ti gyfrif Facebook, dylet ti ychwanegu’r cymeriadau am fis Gorffennaf 2010! Ti’n gallu gadael sylwadau hefyd – mae’r proffiliau Facebook tu ôl y “llen” theatr. A wedyn ti’n gallu cwrdd â nhw ar y traeth am antur. Neu mwynha’r profiad arlein yn unig. (Gyda llaw, dw i ddim yn cyfrifol am eu sylwadau neu fideos. Maen nhw yn…)
Drama arlein yw celf. Mae fe’n faes eitha newydd – fideo, testun, llunia a rhyngweithio gyda phobol.
Mae theatr draddodiadol dal yn bodoli wrth gwrs. (Roedd y gitâr acwstig dal yn bodoli ar ôl y gitâr electrig.) Ond mae’n llawer o hwyl i chwarae gyda ffyrdd amgen i ddweud/creu stori.
The Beach arlein – Charlie a TJ (am ddim)
The Beach cigfyd – manylion (a thocynnau)
The above post is all about my work with The Beach theatre production for my Welsh-speaking friends/colleagues (and Google Translate aficionados). For more info check out my posts on the National Theatre Wales Community about online characters, game design or anything with the tag ntw05.
3 Ateb i “The Beach – gemau ar y traeth ym Mhrestatyn a ffuglen arlein”
Mae'r sylwadau wedi cau.