Tarian Cymru – rhai myfyrdodau ar y gwaith

Ynghlych Tarian Cymru

Mae grŵp ohonom yn rhedeg Tarian Cymru ers dros ddau fis bellach, ac mae dros 1400 o bobl wedi cyfrannu dros £74,000 tuag at offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae dal angen mawr am PPE. Ydych chi wedi cyfrannu arian eto?

Sefydlu

Mae rhedeg Tarian Cymru yn lawer o waith: codi arian, cyfathrebu a chyhoeddusrwydd, canfod/caffael/prynu/mewnforio offer,  ymgysylltu â gweithwyr, pacio, dosbarthu.

Mae’r holl fenter wedi bod yn brofiad arbennig. Mae’n un o’r profiadau gorau dw i erioed wedi cael a dweud y gwir.

Mae’n anhygoel i feddwl beth sy’n bosib pan mae grŵp o bobl yn dod at ei gilydd (o bell) i gyflawni rhywbeth penodol ar frys. Mae hyn yn wers i mi gofio.

Ac mae’n galonogol cael gweld sut gymaint o weithgaredd dros y nod, pa mor hael mae pobl wedi bod – trwy amser, arian, sgiliau, ac adnoddau. Mae’r rhestr o brosiectau cerddorol yn syfrdanol – i enwi un peth.

Bydd rhaid cofnodi’r cyfan rhywbryd. Yn y cyfamser dw i fel arfer yn rhoi nodiadau yma am brosiectau gwe…

Gwe

Mae’r wefan ar gyfer cyfrannwyr, cefnogwyr, yn ogystal â gweithwyr.

Oedd hi’n glir bod angen enw cofiadwy a chlir ac enw parth syml i’w adrodd ar y radio, teledu, ayyb. Doedd cyfeiriad y tudalen codi arian GoFundMe na’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ddim mor effeithiol o ran hyn.

Wedyn oedd eisiau creu gwefan ar frys eithriadol – o fewn munudau.

Dw i fel arfer yn rhedeg meddalwedd WordPress ar weinydd. Mae hyn yn arwain at greu thema, dewis ategion, ysgrifennu cod, cynnal a chadw… Ond oedd rhaid osgoi’r temptasiwn i wneud llawer o waith fel hyn, newid gosodiadau, a gwneud treaks fel hyn y tro hwn. Oedd gormod o dasgau Tarian Cymru i’w gwneud.

Felly mae’r cyfan yn rhedeg ar wordpress.com – dwy wefan, Cymraeg a Saesneg, sydd.

Mae swits iaith yn y dewislen ac o fewn rhai tudalennau ac eitemau blog (ysgrifennwyd â llaw). Mae’r rhyngwyneb Cymraeg yn manteisio ar yr holl waith cyfieithu mae pobl wedi gwneud dros y blynyddoedd.

Mae’n well cyflawni pethau fel hyn yn y ffordd fwyaf cyflym weithiau, ac aberthu ‘hyblygrwydd’/dewisiadau.

Yn olaf

Os ydych chi wedi darllen mor bell a hyn dylech chi ystyried gwneud her dros apêl Tarian Cymru.