Oedran, gwefannau bro, a’r cyfryngau digidol

Mae hi’n galonogol cael gweld bod Golwg360 am ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro. Falch bod rhywun gyda’r galluoedd penodol wedi gweld yr angen yma – o’r diwedd!

Dyma gopi o fy sylw ar yr eitem ar Golwg360:

Mae hi’n hen bryd cryfhau darpariaeth o newyddion lleol ar y we. Da iawn.

Mae’n rhaid cwestiynu’r pwyslais ar ganfod ‘pobol ifanc’ i wneud y gwaith – yn hytrach na pobol brwdfrydig a phrofiadol o unrhyw oedran.

Heblaw am hynny mae’r fenter yn swnio’n addawol iawn.

Ar yr eitem am hyn ar Newyddion 9 neithiwr dwedodd Dylan Iorwerth bod llwyddiant y papurau bro gwreiddiol oherwydd ymdrechion pobl ifanc. Efallai bod hyn yn wir ond dydy hyn ddim yn rheswm i eithrio pobl hŷn y tro hwn, neu gynnig rheswm iddyn nhw anwybyddu’r datblygiad.

Mae hyn yn fy atgoffa o SAWL eitem ar y teledu a radio am sawl agwedd o’r cyfryngau digidol dros y blynyddoedd o wefannau i apiau i ddigwyddiadau am dechnoleg, “Ai rhywbeth i’r to ifanc ydy hyn?”, “Rhywbeth i bobl ifanc y mae hyn yn dydy […]” ayyb ayyb. O’r Post Cyntaf i Taro’r Post i Heno, oes ’na rhyw fath o friff sydd yn gorfodi cwestiynau o’r fath? Mae’n od.

Ta waeth mae’r pwyslais yma yn hollol ddiangen, yn ystrydebol, ac yn eithrio pobl sydd ddim yn hunan-ddiffinio fel ‘ifanc’ – ac sydd fel arall am gyfrannu i fentrau fel hyn.

O hyn ymlaen gawn ni bwysleisio’r cyfraniadau gwerthfawr mae pob demograffeg yn gallu gwneud?

2 Ateb i “Oedran, gwefannau bro, a’r cyfryngau digidol”

  1. Amen Carl!
    Mae angen lot o arbenigedd i ddatblygu rhwydwaith o wefannau, neu unrhyw brosiect digidol, yn llwyddiannus (fel gydag unrhyw brosiect, digidol neu beidio!). Heb os mae gan bobl ‘ifanc’ a ‘llai ifanc’ rol fan hyn.

Mae'r sylwadau wedi cau.