Mae hi’n braf cael gweithio ar brosiect wici i glient sef Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Maen nhw fel mudiad am gydweithio ar gyfres o erthyglau amlgyfrwng am hanes yr ardal o drafnidiaeth i chwareli i ysgolion i gapeli ac eglwysi. Fe fydd canlyniadau ein gwaith ar wici Uwchgwyrfai i’w gweld cyn hir.
O safbwynt y datblygwr mae sawl opsiwn ar gyfer meddalwedd wici. MediaWiki yw’r un sy’n cael ei defnyddio mwyaf. Dyna sy’n rhedeg Wicipedia a sawl prosiect perthnasol arall. Dyma fy nghyfrif ar y Wicipedia Cymraeg. Gweler hefyd: fy nghwaith ar gyfrif Twitter @wicipedia.
Nid yw poblogrwydd MediaWiki fel y cyfryw yn digon o reswm i’w dewis. Mae’n ddarn o feddalwedd eithaf mawr ac mae lot fawr o opsiynau. Mae anfanteision eraill hefyd, yn dibynnol ar gyd-destun y prosiect. Ond mae hi’n wych ar gyfer rhywbeth amlgyfrwng ac mae’r rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg, diolch i gyfieithwyr gwirfoddol.
Yn 2009 roeddwn i am ddechrau gwefan wici o’r enw Hedyn er mwyn rhannu adnoddau ymhlith datblygwyr a chyhoeddwyr sydd am ddefnyddio’r Rhyngrwyd a’r we yn Gymraeg. Dokuwiki oedd fy newis ar y dechrau ond fe benderfynais newid i MediaWiki wedyn oherwydd y niferoedd o bobl a oedd yn brofiadol ar y system. Mae MediaWiki yn parhau hyd heddiw fel sail y wefan.
Nid yw’r cyfle i greu wici newydd sbon yn ymddangos yn aml. Mae angen eithaf tipyn o ymdrech, amser, a chriw o bobl cefnogol er mwyn cynnal wici llwyddiannus. Does dim llawer o enghreifftiau o lwyddiant ar wicis yn y Gymraeg, efallai oherwydd yr angen i recriwtio llawer o gyfranwyr brwd ac i fuddsoddi lot fawr o amser i greu rhywbeth o werth.