Bil ieithoedd swyddogol: o #westernfail i fethiannau go iawn

Cofia #westernfail ym mis Mai? Roedd yr erthygl barn yn cyfeirio at bil ieithoedd swyddogol. Roedd cwynion gan gannoedd o bobl – yn y ddwy iaith. Wel, digwyddodd y bleidlais yn y Cynulliad ddoe.

Cyhoeddodd BBC Wales News erthygl Saesneg amdano fe, Language bill puts Welsh and English on equal footing, sydd yn waeth na’r erthygl barn gan Martin Shipton yn y Western Mail. Er roedd ei erthygl ar y dudalen blaen, roedd Shipton yn mynegi barn am y Gymraeg – ‘na gyd. Ond mae BBC Wales News yn methu adrodd y gwirionedd, sef y ffaith roedd pryderon difrifol am degwch i’r Gymraeg ymhlith aelodau cynulliad o bob plaid ac ymgyrchwyr am y bil. Mae’r stori BBC yn edrych fel y datganiad i’r wasg Saesneg, puff piece, heb unrhyw dadansoddiad. Dyma pam mae’r erthygl BBC yn methiant ac yn waeth na #westernfail wythnos yma.

Daeth y cwynion #westernfail o du hwnt i siaradwyr Cymraeg – ond ddoe roedd methiant y gwelliannau yn mater i ddarllenwyr Cymraeg o’r BBC yn unig. Mae’r stori yn Golwg360 yn haeddu sylw hefyd wrth gwrs. (DIWEDDARIAD: Gyda llaw mae BBC bellach wedi ychwanegu ychydig bach i’r stori Saesneg am bryderon ymgyrchwyr.)

Mae dwy ochr i’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’. Ar y wyneb mae’n bwysicach i wneud pethau yn hytrach na siarad. Beth am flaenoriaethau ein cynrychiolwyr a methiant yr ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb go iawn? Mae’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’ ar yr ochr arall yn darparu ffordd effeithiol i asesu sefyllfa democratiaeth yng Nghymru. Faint o bobl sydd yn ymwybodol o’r bleidlais? Ydyn ni’n rhoi ffocws ar y ‘neud’ neu y ‘deud’? Efallai mae sensitifrwydd arbennig i eiriau yn ein cymeriad fel cenedl, dyma pam mae’r dyfyniad mor briodol. Roedd lot mwy o helynt am y ‘deud’ yn y Western Mail na’r methiannau go iawn ddoe. Dyna her i unrhyw un o blaid democratiaeth a thegwch yng Nghymru.