Cyfeiriadau gwe yn Gymraeg a rhyngwynebau dwyieithog

Atgoffodd sylw ar Golwg360 fi o’r strwythur cyfeiriadau gwe ar wefannau yng Nghymru.

Gweler y gwahaniaeth rhwng yr enghreifftiau isod:

  1. http://www.assemblywales.org/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm
  2. http://www.assemblywales.org/cy/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm

Maen nhw dau yn mynd i fersiynau gwahanol o’r un dudalen. Yn fy marn i, mae’r datblygwyr wedi dewis yr opsiwn diog ar gyfer y system yma. Dw i wedi rhoi ffocws ar wefan y Cynulliad ond mae sawl enghraifft arall wrth gwrs.

Felly dyma rywbeth bach ond pwysig heddiw. Mae’n rhan o fy ngalwedigaeth i ddadansoddi pethau fel hyn!

Mae’r strwythur cyfeiriadau gwe (URLs) yn elfen bwysig o ryngwyneb y gwefan. Mae defnyddwyr yn darllen cyfeiriadau gwe. Maen nhw yn rhoi nhw mewn e-byst, cofnodion blog a sylwadau. Maen nhw yn golygu cyfeiriadau gwe yn aml er mwyn ffeindio stwff yn ôl ymchwil.

Mae’r system uchod yn tanseilio beth sydd yn unigryw am y dudalen Cymraeg. Dw i’n eithaf siŵr bydd y drefn yn cael effaith gwael ar chwilio trwy Google a pheiriannau chwilio eraill achos mae’r cyfeiriad i’r dudalen Saesneg yn edrych bron yn union fel yr un Gymraeg.

Hefyd mae cyfle coll i bwysleisio dwyieithrwydd y sefydliad. Ond mae hynny yn bwnc hollol wahanol… 🙁

3 Ateb i "Cyfeiriadau gwe yn Gymraeg a rhyngwynebau dwyieithog"

  1. Hmm, mae gwefan y Cynulliad wedi newid i gyd ers i mi ei weld ddiwethaf a mae’n dipyn o smonach. Cymysgedd o .htm/.aspx a dim arlliw o ddolenni parhaol. Dyw’r parth ddim yn newid o GymraegSaesneg chwaith.

    Mae hynny yn reit ddigalon os nad yn sgandal i feddwl fod canllawiau penodol wedi eu datblygu gan Fwrdd yr Iaith. Mae rheiny yn adlewyrchu ‘safon diwydiant’ ac arbenigedd wedi eu ddatblygu ers degawd.

    Mae llawer o gyrff cyhoeddus lle mae’r gwefannau yn cael eu datblygu yn allanol yn dilyn y canllawiau yma. Wedyn mae’r Cynulliad (a Cyngor Caerdydd ymysg eraill) yn prynu systemau rheolau cynnwys drudfawr sydd ddim yn gallu gwneud y pethau syml hyn. Anobeithiol.

  2. dwi’n sicr fod yna reswm llawer symlach ynglyn a diffyg gwefannau cymraeg – y codwyr sydd yn datblygu a gweinyddu’r systemau – a gan amlaf drwy gyfrwng y Saesneg maent yn gweithio. Angen prynu raspberry PI i bob plentyn yng nghymru ac efallai welen ni wahaniaeth!

  3. Dwi ddim yn meddwl fod hynny i wneud dim a’r peth. Os yw cwmni yn dilyn canllawiau y diwydiant (a synnwyr cyffredin) sdim ots pwy sy’n codio. Dwi wedi gweithio gyda pobl uniaith saesneg sy wedi datblygu gwefannau amlieithog (5 iaith) i’r safonau cywir yn ddi-drafferth, gan gynnwys ieithoedd anoddach fel Arabeg.

    Dyw e ddim byd newydd chwaith.. roedd e’n cael ei wneud yn y 90au (ddim i’r un safonau a heddiw).

Mae'r sylwadau wedi cau.