Dylai pob academydd dechrau gwefan (fel BOBI JONES)

BOBI JONES gan DogfaelArchwilio gwefan newydd R.M.JONES A.K.A. BOBI JONES ar hyn o bryd.

Dw i wedi bod yn meddwl yn diweddar, ‘dylai pob academydd dechrau gwefan’. Dw i’n methu meddwl am lot o academyddion Cymraeg gyda gwefannau. Wyt TI’n gallu?

Ambell waith dw i’n meddwl, hmm bydd e’n neis i ddarllen meddyliau ar blog gan Dr ____ neu Yr Athro ___.

Blog yw’r math o wefan hawsaf i’w diweddaru.

Felly o’n i’n meddwl bod y we wedi gwella gyda’i phresenoldeb cyn i mi weld y cynnwys.

Dw i ddim mor gyfarwydd ar ei waith ond dw i newydd lawrlwytho chwech (6) llyfr llawn felly does dim esgus nawr.

CHWECH LLYFR GAN R.M JONES A.K.A. BOBI JONES! Newyddion enfawr yn fy nhŷ i! Digon am dudalen Hedyn newydd! Adennill yr Iaith unrhyw un? Canu Gwirebol a dy foi Wittgenstein falle?

llun: Dogfael (CC)

2 Ateb i “Dylai pob academydd dechrau gwefan (fel BOBI JONES)”

  1. Falch iawn gweld gwefan Bobi Jones, ond do’n i ddim wedi sylweddoli taw’r testun llawn o’i lyfrau sydd yna i’w lawrlwytho. Newyddion da iawn. Ddim yn siwr os dw i’n barod am Bobi vs. Wittgenstein, ond mae ei feddyliau ar ieithyddiaeth cymdeithasol wastad yn werth eu darllen.

Mae'r sylwadau wedi cau.