YouTube – tagiau Cymraeg am ddim

Mae’r gwylio fideo arlein yn tyfu bob blwyddyn. Yn yr UDA y cyfartaledd yw 187 fideo bob mis yn ôl comScore. Beth yw’r ffigur yng Nghymru? Dw i ddim yn sicr ond dw i eisiau gwybod bod y cynnwys Cymraeg yn bodoli yna am siaradwyr, dysgwyr, plant sy’n chwilio.

Dw i wedi bod yn profi termau gwahanol ar YouTube chwilio: pynciau, enwau, termau cyffredinol.

Dyma siart o dermau a nifer o ganlyniadau heddiw.

term ar YouTube chwilio nifer o ganlyniadau
wyddoniaeth 1
“Gerallt Gymro” 4
bydysawd 7
Cynghanedd 9
gwyddoniaeth 12
“dafydd ap gwilym” 25
Tyddewi 25
Llanystumdwy 26
gwleidyddiaeth 33
chwaraeon 38
addysg 68
Casnewydd 71
barddoniaeth 79

Dw i’n eitha siomedig gyda’r niferoedd yma. Mae pob nifer yn bras yn ôl YouTube chwilio, e.e. “about 12 results”. Ond baswn i wedi disgwyl mwy dan categoriau fel “gwyddoniaeth” yn enwedig. Mewn gwirionedd o’n i’n methu ffeindio cynnwys Cymraeg dan rhai o’r chwiliadau, e.e. bydysawd: un canlyniad go iawn, mae’r llall yn Saesneg/amherthnasol.

Problemau yma?

  • Diffyg cynnwys Cymraeg weithiau – dyw’r cynnwys perthnasol ddim yn bodoli ar YouTube o gwbl. Er enghraifft o’n i’n methu ffeindio lot o fideos o gerddi llawn gan Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg, yr iaith gwreiddiol.
  • Tagiau / metadata annigonol – weithiau mae fideos yn bodoli, ond mae chwilio yn gallu defnyddio dim ond y metadata (teitl, disgrifiad, tagiau, efallai sylwadau) i’w ffeindio. Mae hwn yn wir am chwaraeon wrth gwrs. Diffyg defnydd y tag er bod fideos chwaraeon yn bodoli yna. O leiaf mae’n ddweud rhywbeth am defnydd tagiau a’r aelodau o YouTube – efallai y diffyg sefydliadau?

Peth yw, mae tagiau a metadata yn “gofod enw” fel enwau parth. Rwyt ti’n gallu perchen ar tua 20% o ganlyniadau “gwyddoniaeth” gyda dy fideo nesaf sy’n berthnasol i’r categori gwyddoniaeth. Tagiau am ddim. Dw i ddim yn sôn am chwilio yn unig chwaith achos mae YouTube yn defnyddio’r metadata am ei system awgrymiadau.

Meddyliau?

(Newyddion da: mae YouTube yn cynnig cyfrifon fideo am ddim. Dechreua cyfrif YouTube am ddim am dy hun, dy dosbarth, dy gwmni neu dy sefyliad. Efallai pryna camera Flip hefyd – rhad. Plis defnyddia’r tagiau. Maen nhw am ddim hefyd.)

Gweler hefyd: Newyddion da gan Rhodri ap Dyfrig ddoe gyda siart o’r fideos mwya llwyddianus ar fideobobdydd.