Dw i’n siarad gydag arbenigwyr ar hyn o bryd am drwyddedau Creative Commons a chyfieithiadau Cymraeg.
Dyn ni angen trwyddedau Cymraeg i roi’r neges ‘swyddogol’ i’r byd Cymraeg creadigol am ddiwylliant rhydd a Creative Commons.
Wrth gwrs maen nhw yn bodoli yn ieithoedd gwahanol. Ond dylen nhw lifo trwy Gymraeg.
Creawdwyr! Mae gen ti ddewis!
Dyma’r trwydded dw i’n defnyddio gyda Quixotic Quisling.
Ti’n gallu darllen y fersiwn hir a chyfreithiol hefyd – enghraifft o’r gwaith dyn ni angen gwneud.
Mae lot o gynnwys yn Gymraeg yn bodoli dan drwyddedau Creative Commons. Dw i ddim wedi cyfrif faint.
Mae gyda fi mwy o gofnodion am hawlfraint a chynnwys – ar y ffordd.
YCHWANEGOL 29/09/2010: Dw i wedi ebostio cofrestr arall am Creative Commons.
YCHWANEGOL 29/09/2010: Dw i wedi derbyn ateb preifat gan rywun o Creative Commons yn Llundain. Mae’r drafft o fersiwn 3.0 bron yn barod. Wedyn dyn ni’n gallu cyfieithu e.
Llun gan benbore (enghraifft o rywbeth gwych dan drwydded Creative Commons!)