Wicipedia a’r “manteision diglossia”

Mae Rhodri yn cyflwyno syniad diddorol iawn:

O bosib, gellid tynnu o hyn bod rhyw fantais yn dod i’r amlwg i ieithoedd sydd â diglossia gyda Saesneg yn achos Wikipedia. Am eu bod yn rhannu iaith gyda’r iaith fwyaf ar Wikipedia yn gyffredinol (a’r iaith weinyddol ar lefel uchaf Wikipedia), mae ychydig o’r bywiogrwydd hynny yn tollti drosodd i’r ieithoedd hynny. Bosib bod y gymuned Wikipedia ym Mhrydain, Iwerddon a’r UDA yn gryfach o ganlyniad i’r ffaith bod y Saesneg dal yn dominyddu’r wefan. Wn i ddim os yw hyn yn cyfri fel effaith bositif i diglossia gyda Saesneg am unwaith! Mae’n dibynnu os taw ‘gwerth’ neu ‘nifer’ yw eich meini prawf chi wrth gwrs. O bosib bod mwy o angen (efallai oherwydd diffyg adnoddau eraill) am nifer mwy o erthyglau mewn un iaith na’r llall hefyd.

Efallai hefyd bod y tebygolrwydd o gael erthygl gyfatebol, well a mwy trwyadl, yn Saesneg yn golygu bod llai o gynhyrchu erthgylau stwbyn, a rhoi mwy o gig ar erthyglau. Mi allai wrth gwrs, fod o ganlyniad i dîm golygyddol mwy bywiog hefyd (mae Wikipedia Cymraeg yn ail o ran niferoedd Admins, i’r Gatalaneg), ond mae’r enghraifft Wyddelig yn awgrymu nad yw hyn yn wir.

Dyna rai sylwadau sydyn, off the cuff. Faswn i’n hapus i glywed unrhyw sylwadau pellach, yn arbennig o ran y math o lefel cyfranogiad mae rhywun am ei gael mewn gwahanol ieithoedd neu sefyllfaoedd diglossaidd.

O ran y “manteision diglossia” mae Cymraeg wedi elwa i ryw raddau trwy gryfder y project Wikipedia yn Saesneg. Rydyn ni’n gallu ailgylchu’r erthyglau fel y mae Rhodri yn dweud uchod. Hefyd mae gyda Wicipedia Cymraeg mwy o bresenoldeb trwy Wikipedia Saesneg. Ydy’r twf y fersiwn Cymraeg yn dilyn y fersiwn Saesneg (dw i ddim wedi astudio’r data yn fanwl iawn)?

Rydyn ni wastad eisiau fersiwn Cymraeg bach o rywbeth sy’n llwyddiannus yn Saesneg. Rydyn angen idiom fel “keeping up with the Joneses” gyda chyfenw gwahanol.

Paid ag anghofio’r meddalwedd chwaith, roedd e ar gael am Hedyn a phrojectau eraill. (Heblaw PenTalarPedia dw i’n methu meddwl am fwy o wicis Cymraeg cyhoeddus ac agored i bawb, tu fas o brojectau Wikimedia – unrhyw un?)

Wrth gwrs, yn gyffredinol rydyn ni’n gallu darllen yr ymchwil newyddaf yn Saesneg ac hefyd mynd i gynadleddau rhyngwladol, gan gynnwys  cynadleddau o bobol sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol eraill, i ddefnyddio’r lingua franca, Saesneg.

Hmm, ond bydd e’n neis i weld mwy o brojectau ar-lein a chynnwys sy’n unigryw i’n iaith.

Mae llawer o ddadansoddiadau eraill yn bosib gyda sgriptio a chrafu data. (Mae Rhys Wynne wedi bod yn casglu ystadegau Wikipedia.)

Hoffwn i weld canlyniadau o ymchwil dwfn ar Wicipedia Cymraeg.

Mae rhai o’r erthyglau ar Wicipedia Cymraeg yn bodoli yna yn unig – maen nhw yn unigryw i Wicipedia Cymraeg fel, er enghraifft, Llandeilo Abercywyn, Geraint Jarman, Angharad ferch Owain. Mae rhai o erthyglau yn well ar Wicipedia Cymraeg hefyd, e.e. Recordiau Sain.