Tafodieithoedd melys

fferins, loshins, losin, cacen, candis, cisys, da da, minciag, neisis, pethau da, swîts, taffins, trops

Dw i’n dychmygu’r symbolau yma fel melysion bach. Bwytwch y pethau bychain.

Mae’r map yma yn dod o lyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyo’r Tafodieithoedd gan Peter Wyn Thomas a Beth Thomas. Mae’r llyfr yn anodd ffeindio nawr yn anffodus.

Mae’n hollol bosib wneud map arlein o dafodieithoedd.

Mae ffordd bosib yw: defnyddia ffurflen cwestiynau, e.e. “pa air wyt ti’n defnyddio am (llun o llaeth)” ayyb, creua map.

Gallet ti gasglu blogiau a’u cyfesurynnau a chreu map awtomatig gyda phorthiannau RSS oni bai nad oes digon o flogiau yn bodoli ym mhob man.

Ond mae llawer o bethau ti’n gallu wneud gyda phorthiannau RSS blogiau Cymraeg…