Gwerthuso prosiect Y Bydysawd a sylwadau agored

Dyma nodyn bach sydyn i ddatgan bod fy mhrosiect Y Bydysawd wedi dod i ben. Dw i heb wneud unrhyw beth arno fe ers sbel a dweud y gwir. Ond mae eisiau gwerthuso’r peth.

Beth oedd gwefan Y Bydysawd? Ymdrech i sbarduno a chynnal trafodaeth am faterion cyhoeddus, gwleidyddiaeth, chwaraeon, a phob math o bwnc – ar y we agored drwy gyfrwng y Gymraeg oedd hi.

Yn anffodus dw i ddim gyda’r adnoddau i gynnal yr hen wefan fel archif fy hun ond mae cipddarlun yma, diolch i archive.org. (Dyw’r sylwadau ddim yna ond gofynnwch i mi os ydych chi eisiau copi o’r data.)

y-bydysawd-llunDrwy’r dydd, drwy’r wythnos, roedd y wefan yn tynnu crynodebau o erthyglau newydd yn Gymraeg o ffynhonellau yn awtomatig (yn bennaf drwy RSS) fel Newyddion BBC Cymru yn yr oes cyn Cymru Fyw, Golwg360, ambell i beth arbennig (drwy Delicious), rhaglennu S4C Clic, ac ati.

Wedyn roedd pobl yn gadael sylwadau (drwy Disqus) a chynnal trafodaethau am yr eitemau. Bob tro roedd angen clicio’r eitem i weld yr erthygl/cynnwys/rhaglen ar y wefan wreiddiol.

Roedd Y Bydysawd yn gyfrifol am roi rhagor o draffig i wefannau Cymraeg ac mae eisiau meddwl sut rydyn ni’n gwneud hynny yn well heddiw.

Cyfeiriad neu efallai teyrnged i fenter newyddion aflwyddiannus Y Byd oedd yr enw!

Fel is-brawf o dan yr enw Skdadl lanlwythais i’r destun o erthygl barn i gylchgrawn Golwg gan Angharad Mair, roedd hynny yn hwyl ac yn weddol ddiddorol fel sgwrs.

Dyma holl brofion a gwersi y prosiect ar fy mlog.

Ar un adeg roedd Y Bydysawd yn cynnig sylwadau fel nodwedd i lenwi’r gwagle pan doedd dim modd gwneud hynny ar wefannau eraill megis Newyddion BBC Cymru a Golwg360.

Ces i e-bost cwrtais maes o law wrth olygydd Golwg360 (Owain Schiavone) i ofyn i mi dynnu’r ffrwd i’w wefan. O’n i’n hapus i wneud hynny ac o’n i’n hapusach pan wnaethon nhw ychwanegu sylwadau ac wedyn Disqus i’w wefan – iei! Dw i’n meddwl bod y sylwadau ar Golwg360 wedi gwella ers ychwanegu Disqus – oherwydd y proffilau a ‘pherchnogaeth’ dros sylwadau. Cyn hynny roedd modd gadael sylwadau wrth ‘yrru heibio’. Dw i ddim yn honni fy mod i wedi cael unrhyw effaith ar strategaeth Golwg360 – ond dyna oedd yr hanes.

Does dim modd gadael sylwadau ar eitemau BBC Cymru Fyw o hyd.

Ond i fod yn deg, er bod cynnig sylwadau yn Gymraeg ar y we agored yn digon hawdd mae llwyddo i gynnal unrhyw drafodaeth yn dipyn o gelfyddyd ddyrys. Does bron neb o’r cyhoeddwyr, sefydliadol neu wirfoddol, wedi llwyddo i gynnal trafodaethau da er bod rhai wedi ceisio. Meddwl ydw i am Fideo Wyth, blogwyr Hacio’r Iaith, blogwyr gwleidyddol yn Gymraeg, ac ati.

Dyma ffactorau posibl:

  • Diffyg cyrraeddiad yr erthyglau gwreiddiol, diffyg pobl, diffyg amser – bydd y nifer o bobl sy’n gadael sylwadau wastad yn is na’r nifer o ddarllenwyr/wylwyr. Mae hynny yn wir am bethau Saesneg ond mae’r niferoedd yna.
  • Diffyg hyder wrth ysgrifennu’n Gymraeg – o bosib?
  • Pryder am fynegi barn yn gyhoeddus neu wrthdaro buddiannau
  • Pryder am sarhad ar y sgwrs gan bobl eraill – o bosib?
  • Efallai dydy pobl ddim am ddysgu systemau newydd achos maen nhw yn licio Facebook, Instagram, Twitter, ac ati, ac yn hoffi postio eu barnau ar eu proffilau eu hunain
  • Gyda llaw dw i hefyd yn methu meddwl am unrhyw wefan yn Gymraeg sy’n defnyddio system sylwadau Facebook ac mae prinder sy’n defnyddio Disqus. Felly efallai bod cyfrifoldeb ar gyhoeddwyr am beidio mentro neu arloesi yn y maes yma.

Mae cwestiwn i’w ofyn o ran faint o gyhoeddusrwydd i’r Bydysawd y gwnes i. Roedd fy ffrindiau yn gwybod am Y Bydysawd, dim ond ychydig dwsinau o bobl wrth edrych yn ôl. Roedd hi’n fenter arbrofol un person gyda chyfyngiad ar adnoddau i wneud gwaith marchnata. Dysgais i lawer o bethau yn sicr, ar yr ochr dechnegol yn bennaf.

Beth am adael sylw yn sydyn ar un o’ch hoff wefannau neu flogiau? Ystyriwch adael sylw o dan yr eitem ei hun yn hytrach nag ymateb drwy Twitter/Facebook. Byddai’r blogiau a sefydlwyd yn 2016 neu 2015 yn le da i ddechrau!

Skdadl, arbrawf sylwadau arlein

Sut ydyn ni’n gallu dylunio systemau arlein am drafodaeth dda yn yr iaith Gymraeg? Dw i wedi bod yn brofi’r Bydysawd, dw i’n eitha hapus gyda fe. Dw i ddim wedi gorffen gyda fe ond wythnos diwethaf o’n i eisiau trio rhywbeth gwahanol.

Gwnes i lanlwytho erthygl o gylchgrawn Golwg, Galw am drydar Cymraeg pwrpasol gan Angharad Mair, i’r we gydag ychydig o help gan sganiwr, meddalwedd OCR, WordPress ac ategyn o’r enw Commentariat. Roedd y system yn eitha gwahanol i’r system Y Bydysawd felly defnyddiais i enw gwahanol, Skdadl.

Mae’r erthygl wedi cael 29 sylw hyd yn hyn, yn gynnwys dau sylw gennyf i ac un gan Angharad Mair ei hun. Tro yma roedd y sylwadau o ansawdd hefyd. Croeso i ti gadael sylw os ti eisiau trio fe.

Pwrpas gwreiddiol Commentariat oedd dogfennau ymgynghori cyhoeddus. Ond fel WordPress ei hun, mae’r ategyn wedi cael ei rhyddhau dan GPL felly o’n i’n rhydd i fwynhau rhyddid sero. Dw i ddim yn awgrymu y triniaeth Twitter am bob cofnod ond efallai bydda i ailadrodd y peth gydag erthygl arall. Y syniad oedd arbrawf, esgus i drio Commentariat ac i newid yr erthygl Angharad Mair am defnydd Twitter i “tweets” – wel, paragraffau ar wahan. Yn hytrach na chynnyrch go iawn. (Ateb i gwestiwn Dafydd, “ydi e ar gyfer pobl thic sydd ddim yn gallu ystyried a thrafod erthygl yn ei gyfanrwydd (fel sydd angen gwneud?)”.)

Dw i’n meddwl bod 29 sylw deallus yn llwyddiant bach yn yr iaith Gymraeg achos mae rhan fwyaf o erthyglau neu gofnodion arlein yn disgwyl dim ond ychydig o sylwadau neu dim byd. Faint fasen ni wedi disgwyl gyda sylwadau ar y gwaelod, y ffordd draddodiadol? Mae’n anodd dweud.

Heblaw y system sylwadau anarferol, beth oedd y ffactoriau pwysig?

  • barn profoclyd (yn hytrach na straeon newyddion “niwtral”, y rhan fwyaf ar Y Bydysawd ar hyn o bryd)
  • cyfeiriaidau i bethau cyfoes fel Yr Aifft, Twitter, Umap, Hacio’r Iaith ac S4C yn yr un erthygl
  • mae nifer da o bobol yn nabod yr awdur trwy teledu, ymgyrchu ayyb. Efallai dylai hi blogio.
  • erthygl am Twitter, gwnes i hyrwyddo fe ar Twitter i bobol yn fy rhwydwaith ac ebost i 10 person yn unig (ateb bosib i rhai o’r broblemau o diffyg sylwadau). Mae Skdadl ar gau i Google ar hyn o bryd. Dw i’n postio’r dolen ar Facebook heno. Gyda llaw, dw i ddim yn poeni am drafodaethau “meta”. Yn amlwg roedd pobol yn siarad am y ffôn ar y ffônau cyntaf a wedyn ehangu i bynciau eraill, does dim ots.
  • o’n i’n gwybod bod yr erthygl yn brofoclyd cyn i mi brynu Golwg (ar ôl clywed amdano fe a darllen sgwrs o flaen llaw ar… Twitter). Dw i’n prynu Golwg pan dw i eisiau darllen rhywbeth penodol. Skdadl yw’r unig lle i ddarllen yr erthygl arlein. Does neb wedi cwyno am fy defnydd answyddogol.

Meddyliau am Golwg360 newydd: sylwadau, dolenni

Meddwl am Golwg360 newydd. Fydd hwn ddim yn bost cyflawn o gwbl.

Mae sylwadau yn eitha llwyddiannus, e.e.
http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/6778-beirniadu-cau-safle-chwaraeon-cymraeg-y-bbc

Gobeithio byddan nhw yn llenwi’r bylchau yn drafodaeth gyhoeddus yn Gymraeg ar y we agored. Heriau yma:

  • Tyfu tu hwnt i’r usual suspects – pobol a phynciau
  • Does dim system hunaniaeth neu proffilau yn bodoli – dim cyfle i adeiladu enw parhaol fel sylwebydd (neu llysenw, does dim ots). Felly efallai bydd problemau yn bosib gyda phobol sy’n gadael sylw random a rhedeg i ffwrdd, trolls ayyb.
  • Does dim lot o “wobrau” am sylw. Weithiau mae pobol angen rhywbeth yn ôl e.e. enw da/drwg, dolen i blog neu dolen i broffil ar y wefan Golwg360. Yr unig wobr yw’r cyfle i ddweud dy ddweud. Mae’r diffyg sylwadau Cymraeg o gwmpas y we yn broblem, mae Cymry angen mwy yn ôl.
  • O’n i’n meddwl am sylwadau ar bob, bob stori, os mae’n priodol. Sa’ i’n siwr eto.

Mae rhai o’r bethau yma yn anarferol am wefan newyddion yn Saesneg. Ond rydyn ni angen mwy o arbrofion gyda sylwadau gan pobol fel Golwg360 a gwefannau Cymraeg yn cyffredinnol. Mae’r “we Gymraeg” gallu bod yn wahanol. Er enghraifft, efallai fydd trolls ddim yn broblem. (Efallai rydyn ni’n croesawi trolls!) Gawn ni weld.

Dolenni. Dw i ddim yn hoffi’r ffaith bod hen ddolenni i gyd yn mynd i’r prif dudalen yn hytrach na’r straeon gwahanol. e.e. sylw gyda dolen ddwfn i stori penodol ar y blog yma.

Cafodd New York Times problem debyg unwaith. Hynny yw, mae dolenni yn rhan o’r rhyngwyneb. Maen nhw yn hen ond os ti’n chwilio am rhywbeth neu dw i’n dilyn dolen ar Wicipedia neu unrhyw blog neu dy ffefrynnau, maen nhw yn dolenni cyfoes, dylen nhw gweithio yn iawn. Atebodd @al3d fy nghwestiwn (diolch): “Bydd hen dolenni’n gweithio eto cyn hir, ac yn ailgyfeirio’n gywir.”

Dolenni allanol. Maen nhw wedi copio’r steil BBC Newyddion – gyda dolenni allanol ar wahan (dan y teitl “Cysylltiadau Rhyngrwyd” ar hyn o bryd, yr un teitl a BBC Newyddion). Cwestiwn yw, pam?! Dw i wedi clywed y dadlau safonol yn barod (cadw ymwelwyr am yr hysbysebion, osgoi confusion, “amhleidioldeb”). Dylen nhw ddefnyddio dolenni fel pobol normal – yn y testun. O leiaf does dim gwadiad arnyn nhw (“Dyw’r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol”).

Cer i unrhyw stori Saesneg ar BBC News, maen nhw newydd dechrau sgwennu dolenni normal yn y testun, yn y cyd-destun, e.e. State multiculturalism has failed, says David Cameron, gyda dolen yn syth i ddatganiad ar Number10.gov.uk (lot gwell ond hwyr iawn BBC).

Mae’r dyluniad gweledol Golwg360 yn iawn yn fy marn i, mae’n OK. Mae rhywun arall yn gallu dadansoddi’r dyluniad gweledol.

Paid ag anghofio’r profiad defnyddwyr.