Nodyn i bobl sy’n cyfieithu ategion a themâu WordPress

Helo Gyfieithydd WordPress

Pan o’n i yn Y Gyngres Geltaidd yn Kemper, Llydaw yr wythnos diwethaf ces i syniad ac o’n i am ofyn i chi os fydd e’n defnyddiol o gwbl.

O ran themau ac ategion WordPress mae’n bwysig sicrhau bod termau yn Gymraeg ar gael os maen nhw yn:

  1. ymddangos i’r ymwelydd i’r wefan
  2. ymddangos yn aml

Ond mae hefyd termau sydd ddim yn gymaint o flaenoriaeth i’r cyfieithydd (e.e. y rhai sydd ar y bwrdd gwaith sydd ond yn weladwy i’r gweinyddwr/awdur/golygydd/ayyb, neu negeseuon am wallau arbennig/niche), ac yn gallu aros yn Saesneg – o leiaf am y tro.

Felly beth am i mi greu rhyw fath o system i wahaniaethu rhwng y ddau? Hynny yw, byddai hi’n rhedeg trwy osodiad WordPress yn awtomatig er mwyn canfod termau ‘hanfodol’ mewn themâu ac ategion?

Mewn byd delfrydol byddai Popeth Yn Gymraeg wrth gwrs, ac mae hyn yn hanfodol mewn cyrff, sefydliadau, a chwmnïau. Dw i’n meddwl yn bennaf yma am gyfieithu gwirfoddol a blogiau Cymraeg annibynnol, ac mae sawl achos lle mae angen gweld y Gymraeg cyn gynted ag y bo modd.

Ar ei symlaf byddai hi’n cynhyrchu fersiwn o’r ffeil POT gyda’r termau hanfodol yn unig i’w roi ar GlotPress.

Yn y pen draw gallai fe fod yn nodwedd sydd ar gael mewn GlotPress.

Fyddech chi am ddefnyddio system o’r fath? Neu allbwn o’r system?

Diolch am bob ystyriaeth.

Mae WordPress yn iachach yn Gymraeg na llawer o ieithoedd eraill, diolch i gyfieithwyr a gwirfoddolwyr. Er enghraifft dim ond 48% o’r system craidd sydd ar gael yn Llydaweg ar hyn o bryd.

Profi’r ategyn Storify ar WordPress

Dw i’n profi’r ategyn Storify newydd ar gyfer WordPress.

http://storify.com/carlmorris/stori-prawf-gelynau-cyhoeddus

Dylai’r pwrpas Storify bod yn eithaf amlwg o’r enghraifft yma – casglu darnau o gynnwys o gwmpas y we i greu stori. Mae Al Jazeera a chwmniau newyddion wedi bod yn ei defnyddio yn ddiweddar i gyhoeddi ond hefyd i wahodd straeon o’r gymuned/cynulleidfa.

Mae ffeil POT i’w gyfieithu ond mae brawddegau gweinyddwr yn unig fel ‘Insert Story’, does dim byd gweledol i’r ymwelwyr. Mae rhan fwyaf o’r brawddegau system uchod yn dod o’r gwasanaeth.

Dw i ddim yn siŵr eto faint mae’r ategyn yn ychwanegu i’r profiad achos mae’n bosib mewnosod y stori hen yr ategyn.