Cadwch y pwyll mewn pwyllgor (ymgynghoriad Cynulliad)

Nos Lun nes i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r Cynulliad ynglŷn â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Beth oedd yn nodedig oedd y defnydd o’r we i gynnal sgwrs fyw.

Chwarae teg i’r Cynulliad am drio trafodaeth o ryw fath ar y we. Ond yn anffodus o’n i ddim yn meddwl bod y sgwrs nos Lun yn llwyddiant o gwbl.

Nai disgrifio’r holl broses yn fy achos i. Gwnes i dderbyn gwybodaeth fel e-bost – oddi wrth ffrind sydd yn gweithio i’r Cynulliad. Wedyn nes i sylwi tipyn bach o gyhoeddusrwydd am ‘sgwrs fyw ar y we’. O’n i’n chwilfrydig: dyma cyfle i ddylanwadu’r dyfodol y cyfryngau mewn ffordd ac yn sgil hynny gweld beth yn union mae Cynulliad yn brofi yn y maes digidol. Yn y pen draw roedd sgwrs testun ar system Cover It Live sydd yn debyg iawn i unrhyw system negeseua sydyn (IM) er roedd rheoli rhwng teipio ac arddangos i sicrhau sylwadau addas (a chyfieithu unffordd, mwy isod).

Dylai’r problemau sylfaenol bod yn eithaf amlwg erbyn hyn. Os wyt ti’n gallu teipio yn gyflym ac yn dda gyda soundbites, mae dy sylwadau di yn cael eu ystyried fel tystiolaeth. Ces i neges e-bost heddiw sy’n gadarnhau’r ffaith – bydd y sylwadau wir yn cael eu ystyried fel tystiolaeth go iawn. Wyt ti erioed wedi trio cael trafodaeth dwys ar Twitter, er enghraifft? Mae’n anodd iawn ac mae’r gwendid yn gyffredinol i unrhyw beth ar-lein sydd yn cynnwys negeseuon byrion sydd yn digwydd yn amser real, gan gynnwys y sgwrs fyw nos Lun.

Yn diweddar, er bod senedd.tv yn bodoli ac yn dda, es i i’r Bae i weld sesiynau Ian Hargreaves, Euryn Ogwen ac eraill. O’n i jyst eisiau’r profiad. Mae’r trafodaethau yna yn amser real ond maen nhw yn siarad un ar y tro.

Yn y sgwrs fyw ar-lein roedd un awr yn unig i siarad am y cyfryngau i gyd – newyddiaduriaeth, hysbysebion, busnes, print, teledu, radio, y we, platfformau o bob math, lleol ac ati. Roedd lot o gwestiynau gan yr aelodau o’r pwyllgor Ken Skates, Bethan Jenkins a Janet Finch-Saunders. Dychmyga, mae popeth yn digwydd yn amser real gyda amldasgio o sgyrsiau hollol gwahanol ar yr un tro. Darllena fy nhrawsgrifiad, doedd y sgwrs ddim yn cynaliadwy o gwbl. Roedd 1 neu 2 munud i feddwl am ateb synhwyrol cyn i’r sgwrs symud ymlaen.

Roedd problemau eraill. Ble oedd y pobol o’r gogledd neu hyd yn oed unrhyw un tu gorllewin i Gastell Nedd? O’n i’n nabod y rhan fwyaf o’r pobol yn bersonol, o ran y rhai o’n i ddim yn nabod yn bersonol o’n i’n cyfarwydd iawn gyda’u enwau. Dw i’n gwybod bod Cymru yn fach ond ddim mor fach a hynny. Mae rhaid codi cwestiynau am unrhyw ymgynghoriad gyda gwahoddiadau. Efallai roedd gwahoddiadau y tro cyntaf i brofi’r system – gobeithio. Beth bynnag, achos y system a phroses tasen nhw wedi gwahodd mwy o bobol basai’r sgwrs wedi bod yn waeth.

Dw i’n meddwl bod cyfleoedd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gwell trwy defnydd da o ar-lein, teclynnau da ac ymarferion da.

Ond cyn i ni ystyried y cyfleoedd ar-lein rydyn ni’n gallu gofyn ‘beth sy’n bod gyda’r proses traddodiadol fel y mae?’. Mae’r broses fel y mae yn eithaf da, canlyniad o flynyddoedd o gamgymeriadau a datblygu siŵr o fod. Mae wythnosau fel arfer i feddwl, i sgwennu adborth i’r ymgynghoriad ac i’w anfon trwy bost neu e-bost.

Un o’r heriau sy’n wynebu’r proses traddodiadol: pa mor agored ydy e? Mae’n agored i bawb mewn theori. Ond bydd mwy o dystiolaeth yn dda tu fas i’r usual suspects, dw i’n derbyn hynny. Dw i’n meddwl bod e’n werth trio trafodaeth anghydamserol ar we sy’n agored, e.e. system trafodaeth ar agor am fis neu dau ar wici neu hyd yn oed blog o ryw fath. Bydd pynciau gwahanol ar wahan, dolenni i bethau cysylltiedig o gwmpas y we a digon o amser i feddwl. Does dim rhaid i drafodaeth bod yn gyflym fel y sgwrs fyw – heblaw rhywbeth anffurfiol i gyflwyno ymgynghoriad ar y dechrau efallai.

Dylai fe fod yn bosib i redeg ymgynghoriad yn y dwy iaith hefyd. Yn anffodus doedd y Cynulliad ddim yn cymryd bob cyfle i bostio pethau yn Gymraeg. Dyma enghraifft o sylw uniaith gan y Cynulliad. Yn ystod y sgwrs o’n i’n postio sylwadau yn Gymraeg ac roedd rhywun yn eu cyfieithu unffordd o Gymraeg i Saesneg. Ond doedd e ddim yn bosib i ddarllen pob sylw yn Gymraeg. Mae’n cyfrannu at y shifft ieithyddol. Os rydyn ni eisiau cael democratiaeth go iawn mae rhaid cynnig yr un cyfleoedd yn y dwy iaith. (Er enghraifft dw i’n cwrdd â lot o bobol sy’n hollol galluog sydd ddim yn hyderus yn Saesneg. ‘Beth yw ’darlledu’ yn Saesneg?’ oedd cwestiwn dilys go iawn yn ystod fy ngwaith yn ddiweddar.)

Maen nhw newydd gofyn trwy neges ebost am fy meddyliau am y broses. Ti’n gallu gweld copi o’r ebost yma. Gwnes i dderbyn fersiwn uniaith Saesneg, dw i ddim yn siwr os oes fersiwn Cymraeg ar gael.

(Mae rhaid dweud yma bod i wedi gweithio gyda’r Cynulliad ar ddigwyddiad a strategaeth cyfryngau digidol ar gyfer etholiadau 2011.)

Fy ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf

Dw i’n bwriadu cyfranogi yn ymgynghoriad cyhoeddus. Dw i erioed wedi gwneud unrhyw beth debyg fel unigolyn neu gwmni. Mae’r pwnc yn eang iawn (cyfryngau o bob math) ac mae ’da fi lot fawr o bethau i’w ddweud.

Cwestiynau: oes pwynt os dw i’n dweud yn union yr un peth a phobol a chwmniau/sefydliadau eraill? Ydy e’n cyfrif fel rhyw fath o ‘bleidlais’ os mae lot o bobol yn dweud yr un peth? Neu ydy’r dystiolaeth yn ‘ansoddol’ a fydd e’n well i fi trio rhoi pwyslais ar bethau unigryw yn fy nogfen?

Hwyl fawr i’r Cofnod llawn o’r Cynulliad

Cofio hwn: Cam yn ôl i’r iaith (Newyddion BBC, mis Mai 2010)?

Yn anffodus mae’r Cynulliad Cymru yn cyhoeddi’r fformat newydd o’r Cofnod nawr, mae’n dechrau heddiw. Dylai fe bod yn amlwg pam mae’r penderfyniad yn lleihau’r statws yr iaith Gymraeg.

Sgwennodd Syniadau mwy amdano fe ym mis Mai a Rhodri ap Dyfrig mewn sylw ar Datblogu.

Hefyd dw i wedi bod yn casglu rhesymau technolegol pam mae fe’n syniad drwg.