Arian! Kickstarter Cymraeg yn 1926

Sut oedd pobol Cymraeg yn cyllido prosiectau cyfryngau fel cyhoeddant lyfrau yn y gorffennol heb grantiau neu arian cyhoeddus?

Degawdau cyn bodolaeth a help Cyngor Llyfrau Cymru dyma un opsiwn, sydd yn debyg i Kickstarter sef cyfraniadau bychain gan nifer o bobol.

Dyddiau yma dw i ddim yn siwr am dermau fel ‘crowd funding’ – mae unigolion yn y torf.

Dw i’n hoff iawn o’r term ‘cyfraniadau’r cyfeillion’. Dw i’n gallu dychmygu’r Hen Gyfaill o Ffestiniog (isod) sydd wedi addo 2 swllt 6 ceiniog i sicrhau’r llyfr a’i chopi yn y bost.

Neu Mr Morgan Owen (uchod) sydd wedi addo swm enfawr o 2 punt 2 swllt, efallai diolch i’w gyrfa llwyddiannus yn Llundain. (Beth oedd y mantais am fwy o arian heblaw enw ar brig y rhestr? Mwy o gopiau? Dim ond teimladau da?)

‘Sneb yn Ne Cymru! Ac mae pob un yn ddyn. Roedd lot ohonyn nhw yn byw tu fas i Gymru sydd yn ddiddorol. Oedd gyda phobol yng Nghymru mynediad i’r cerddi rhywsut arall, trwy gylchgronau tybed? (Roedd y cwmni cyhoeddi, Y Brython / Hugh Evans a’i Feibion, yn Lerpwl.)

Oedd mwy o arian mewn poced cyfartaledd yn y trefi a dinasoedd Lloegr? Siwr o fod. Oedd mwy o ddiddordeb hefyd? Beth am gysylltiadau personol gyda’r awdur?

Mae dim ond 50 enw yma. Yn ôl fy symiau, y cyfanswm mawr yw £24 6s 6c sydd ddim yn golygu lot fawr mewn termau arian 1926 – digon i ddileu’r peryg ac i wneud yr argraff gyntaf ar y wasg? (DIWEDDARIAD: newydd ail-ddarllen y rhagair ac mae Isaac Davies yn siarad am ddau categori: pobol sydd wedi addo a’r 50 yma sydd wedi rhoi arian o flaen llaw i ‘ddwyn traul yr argraffu’.)

Beth am yr opsiynau dyddiau yma o ran cyllideb?

Mae mwy o gwmniau cyhoeddi gydag arian ac mae mwy o arian cyhoeddus (ychydig mwy!).

Ond oes beryg colli’r opsiwn o gyfraniadau’r cyfeillion heddiw achos mae pobol yn cymryd cynyrchiadau diwylliannol yn ganiataol? e.e. ‘pam wyt ti’n gofyn am arian? Os wyt ti wedi sgwennu llyfr o ansawdd fydd grantiau ar gael neu fydd cwmni yn fodlon dy gyllido…’

Mae un opsiwn newydd sydd yn wych dyddiau yma: argraffu ar alw fel Lulu.

Beth am y gwagle yn y we? Fydd e’n bosib cyllido blog neu cyfieithiadau o feddalwedd cod agored ac ati gyda chyfraniadau yn 2011? Dw i dal eisiau cyfieithu’r trwyddedau Creative Commons i’r Gymraeg. Angen arbenigwr cyfreithiol ac arian.

Dw i’n meddwl am Y Byd fel enghraifft. Wrth gwrs roedd Dyddiol Cyf yn dibynnu ar y dau: yr addewid o arian cyhoeddus ac arian tanysgrifwyr. Oedd perswadio pobol i danysgrifio yn anoddach yn y 21 ganrif tybed? (Beth bynnag, rydyn ni i gyd yn gwybod beth digwyddodd yn y pen draw, Mr Thomas.)

Oes mwy o fodelau ac enghreifftiau?

Mae prosiectau eraill sydd yn bosib tu fas i gyfryngau annibynnol, e.e. digwyddiadau, clybiau, prosiectau lleol. Mae lle i roi Post-it gyda dy hoff syniad yma ___________

Gyda llaw enw y llyfr ydy ‘Chydig ar Gof a Chadw, casgliad o gerddi gan Gwilym Deudraeth. O’n i bach yn obsesed gyda’r llyfr yma ym mis Ionawr achos daeth e i’r parth cyhoeddus mas o hawlfraint. Mwy o gefndir.