Tseina: protestiadau dros hawliau iaith i Cantonese

Mae’r gwleidydd Ji Kekuang wedi awgrymu newidiadau i’r wasanaeth teledu Guangzhou – Mandarin yn lle Cantonese.

Yn ddiweddar aeth cannoedd o bobol i’r strydoedd (rhywbeth eitha peryglus yn Tseina – Guangzhou yn enwedig) i brotestio dros yr iaith. Mae’r heddlu wedi arestio’r ‘trefnwr’ y protestiadau.

Nawr maen nhw wedi dechrau yn Hong Kong hefyd – yr unig le mae awdurdodiadau yn caniatáu protestiadau.

Mae Cantonese yn iaith lleiafrifol yn Tseina ac yn iaith go iawn – nid tafodiaith fel yr ystyr yn Gymraeg.

Mae lot o straeon amdano fe yn bodoli arlein er enghraifft y farn hon gyda’r cyd-destun hanesyddol a’r farn hon pro-lywodraeth Tseina.

Mae Google Translate yn ddefnyddiol am sylwadau YouTube os ti ddim yn gallu darllen yr ysgrifen. (Dw i ddim yn gallu – eto.)