Bil ieithoedd swyddogol: o #westernfail i fethiannau go iawn

Cofia #westernfail ym mis Mai? Roedd yr erthygl barn yn cyfeirio at bil ieithoedd swyddogol. Roedd cwynion gan gannoedd o bobl – yn y ddwy iaith. Wel, digwyddodd y bleidlais yn y Cynulliad ddoe.

Cyhoeddodd BBC Wales News erthygl Saesneg amdano fe, Language bill puts Welsh and English on equal footing, sydd yn waeth na’r erthygl barn gan Martin Shipton yn y Western Mail. Er roedd ei erthygl ar y dudalen blaen, roedd Shipton yn mynegi barn am y Gymraeg – ’na gyd. Ond mae BBC Wales News yn methu adrodd y gwirionedd, sef y ffaith roedd pryderon difrifol am degwch i’r Gymraeg ymhlith aelodau cynulliad o bob plaid ac ymgyrchwyr am y bil. Mae’r stori BBC yn edrych fel y datganiad i’r wasg Saesneg, puff piece, heb unrhyw dadansoddiad. Dyma pam mae’r erthygl BBC yn methiant ac yn waeth na #westernfail wythnos yma.

Daeth y cwynion #westernfail o du hwnt i siaradwyr Cymraeg – ond ddoe roedd methiant y gwelliannau yn mater i ddarllenwyr Cymraeg o’r BBC yn unig. Mae’r stori yn Golwg360 yn haeddu sylw hefyd wrth gwrs. (DIWEDDARIAD: Gyda llaw mae BBC bellach wedi ychwanegu ychydig bach i’r stori Saesneg am bryderon ymgyrchwyr.)

Mae dwy ochr i’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’. Ar y wyneb mae’n bwysicach i wneud pethau yn hytrach na siarad. Beth am flaenoriaethau ein cynrychiolwyr a methiant yr ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb go iawn? Mae’r dyfyniad ‘Neud Nid Deud’ ar yr ochr arall yn darparu ffordd effeithiol i asesu sefyllfa democratiaeth yng Nghymru. Faint o bobl sydd yn ymwybodol o’r bleidlais? Ydyn ni’n rhoi ffocws ar y ’neud’ neu y ‘deud’? Efallai mae sensitifrwydd arbennig i eiriau yn ein cymeriad fel cenedl, dyma pam mae’r dyfyniad mor briodol. Roedd lot mwy o helynt am y ‘deud’ yn y Western Mail na’r methiannau go iawn ddoe. Dyna her i unrhyw un o blaid democratiaeth a thegwch yng Nghymru.

BBC + S4C + Ti == PYC

Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw?

Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i’r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o’r prosiect.

Mae’n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng ‘PYC’. Bydd ‘PYC’ yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

[…]

Darllena’r datganiad llawn.

Meddyliau cynnar:

  • Pobol y Cwm yw’r cyfres mwyaf poblogaidd ar S4C felly mae modd profi pethau gyda chyunlleidfa chymuned mawr (mewn termau Cymraeg). Dw i ddim yn ymwybodol iawn o’r oedrannau/demograffig/ayyb ond dw i’n cymryd bod y sioe yn apelio at bob math o berson. Hefyd mae’n haws i hyrwyddo pethau digidol sydd yn gysylltiedig â chyfres mor amlwg ac eiconig, ‘addasiad digidol/arloesol o hen ffefryn’ ayyb
  • Braf i weld ‘meithrin dull newydd o ddweud stori’ yn enwedig – maen nhw yn ystyried cyfleoedd digidol fel rhywbeth tu hwnt i farchnata a chyhoeddusrwydd.
  • Mae lot o bobl yn pryderu am annibynniaeth golygyddol S4C ar y teledu (y shotgun marriage gyda’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ayyb). Ond mae cwestiynau tebyg ynglŷn ag annibyniaeth S4C yn y tymor hir ar bethau digidol. Wrth gwrs mae S4C wedi cyd-weithredu gyda’r BBC fel partner ers y ddechrau. Ond ydy’r ffaith bod y peth cyntaf o’r gronfa ddigidol yn rhywbeth BBC yn arwyddocaol? Gobeithio fydd S4C gyda’r hyder yn y dyfodol i gynhyrchu pethau digidol ac aml-blatfform sydd yn annibynnol o’r BBC?
  • Pa fath o gemau sydd yn addas? Gawn ni Zombies Cwmderi?

Pryder am gyfryngau Cymraeg

Mae’r ddolen ‘S4C i lansio sianel newydd’ uchod yn swnio’n cyffrous ond mae’r erthygl yn hen. Mae hi wedi bod ar BBC Newyddion ar-lein ers mis Mawrth 2010. Y sianel newydd pryd hynny oedd Clirlun sydd yn dod i ben eleni.

Nid oes digon o gynnwys Cymraeg ar wefan BBC i lenwi’r bwlch gyda phethau newydd.

Felly dw i’n gallu cyfrif dau reswm o leiaf i bryderu am gyfryngau yn Gymraeg heddiw: y newyddion am doriadau S4C a’r adroddiad o’r newyddion hyn. Dyma rywbeth i’w ystyried tra wyt ti’n gwylio’r Gemau Olympaidd haf yma. Gan fod Jeremy Hunt a DCMS yn bennaf yn gyfrifol am y sefyllfa S4C a’r Gemau Olympaidd bydd hi’n anodd datgysylltu’r ddau yn y meddwl.

O’r we i’r teledu a llyfrau

Cefais i sgwrs da heddiw gyda Nwdls am bob math o beth gan gynnwys pethau sydd yn symud o flogiau i lyfrau fel Stuff White People Like (a Sleeveface…).

Y cwestiwn oedd, beth yw’r pethau diwylliannol Cymraeg sydd wedi dechrau ar y we ar blogiau, YouTube, Flickr ayyb ac wedi symud i deledu, llyfrau ac ati i fod ar gyfryngau ‘traddodiadol’?

Enghreifftiau Cymraeg:

  • Sgymraeg gan ffotograffwyr amrywiol (hanes Scymraeg/Sgymraeg – taith o’r byd corfforol i’r we i llyfr corfforol trwy’r Lolfa)
  • Paned a Chacen – Y Llyfr gan Elliw Gwawr, trwy’r Lolfa
  • Mae blog Lowri Haf Cooke yn ffynnu ac yn sail i lyfr gerllaw yn Gymraeg am Gaerdydd trwy Gomer (er bod y blog yn rhan o gynllun Lowri o’r dechrau fel teclyn ymchwilio/datblygu)
  • Oes llyfrau Cymraeg eraill sydd yn seiliedig ar bethau gwe?

Fel mae’n digwydd, heno dw i wedi bod yn pori S4C Clic a newydd gweld pobol o YouTube! Sef:

Yn y dau enghraifft uchod mae’r cwmniau cynhyrchu wedi ychwanegu graffeg i ddweud ’mae’r clip yn lo-fi, peidiwch ffonio i gwyno am ansawdd y lluniau’: graffeg y sioe yn achos Llŷr a graffeg lens camera digidol yn achos Wales Shark.

Hefyd:

  • Ydy Dan Rhys yn cyfrif?! Mae fe wedi bod ar S4C a BBC ond dyw e ddim wedi bob ar Pobol y Cwm eto…

Wrth gwrs mae’r we yn digon, does dim rhaid i ddiwylliant y we Gymraeg derbyn sel bendith oddi wrth cyfryngau eraill i fod yn dilys. Mae’r pwynt yn gweithio dwy ffordd – dw i ddim yn meddwl bod pobol creadigol sydd yn joio eu crefft eisoes yn desperet i fod ar y teledu. Ddylai pobol yn Y Diwydiant ddim tanseilio gwerth neu ddim bod yn nawddoglyd tuag at y we fel cyfrwng. Dylen nhw neidio mewn hefyd.

Ond mae manteision i ddiwylliant y we Gymraeg. Mae pobol chwilfrydig yn gallu dilyn y llwybrau o deledu/llyfrau yn ôl i’r we ac yn gallu cymryd rhan mewn sawl ffordd. Mae siwrnai dwyffordd posibl.

Ambell waith mae’r cyfranogiad teledu/cwmniau yn rhoi arian i’r bobol tu ôl y syniadau. Dw i ddim yn gallu siarad ar ran Wales Shark neu unrhyw un ond mae’n wych eisoes os ydy pobol yn gallu profi a joio syniadau ar y we gyda chost isel. Ac mae’n dwbl gwych os ydy cwmniau gydag adnoddau ac arian yn gallu cynnig pethau. Doedd dim rhaid i Wales Shark derbyn y cynnig i fod yn y ‘prif ffrwd Cymraeg’ (gyda 10X mwy o wylwyr!) ond mae fe wedi penderfynu i ymestyn ei ‘brand’ i deledu. A pham lai.

Es i i ROFLCon 2010, roedd y sgyrsiau diddorol y cynnwys prif ffwrd a’r we.

Wrth gwrs os ydy’r we yn ffynhonnell o greadigrwydd, ysbrydoliaeth a syniadau – a dyma beth dw i’n credu wrth gwrs – mae hi’n gallu sbarduno diwylliannau Cymraeg yn gyffredinnol. (Gyda llaw bwrdd delwedd yw un o’r pethau dw i eisiau ychwanegu i Maes E v2012 yn bendant.)

Roedd Dave Datblygu yn awgrymu syniad o sioe newydd ar S4C. Os ydy e wir eisiau rhaglen dylai fe rhoi fideo ar YouTube ac aros am ganiad.

Santes Dwynwen 404!

Yn anffodus roedd rhaid i rywun dileu dau dolen ar Wikipedia i erthyglau S4C am Santes Dwynwen achos mae’r sianel wedi torri’r dolenni (Dudley a Dechrau Canu). Ydyn ni wedi colli’r erthyglau am byth?

Dydd Santes Dwynwen 404 anhapus!

Dyw e ddim yn broblem S4C, mae’n broblem i’r diwydiant darlledu yn gyffredinol. (Gweler hefyd: cofnod gan Tom Morris am Channel 4 a BBC.)

Pryd fydd darlledwyr yn gwerthfawrogi cynnwys o safon ar y we fel mwy na jyst cyhoeddusrwydd dros dro? Pryd fyddan nhw yn caru‘r we fel cyfrwng?!

Rydyn ni’n bwriadu dathlu Santes Dwynwen am byth, dylen nhw hefyd. Rydyn ni eisiau gweld twf yn y maint o gynnwys da yn Gymraeg ar y we. Ond ar hyn o bryd rydyn ni’n ail-adeiladu’r we Gymraeg bob 10 mlynedd. Mae’n wastraff o arian ac amser. Dw i’n deall tipyn o golled cynnwys ar fentrau gan wirfoddolwyr – ond cwmnïau cyfryngau proffesiynol?

Wrth gwrs mae modd ailgyfeirio cyfeiriadau i’r erthyglau os mae’r system cyfeiriadau wedi newid.

Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi i gyd beth bynnag.

Rhodri Talfan a BBC Cymru ar-lein

I fod yn deg i BBC Cymru dw i wastad yn cael rhyw fath o ateb i unrhyw gofnod amdanyn nhw, fel arfer trwy ebost neu alwad ffôn. Mae croeso iddyn nhw adael sylwadau hefyd.

Os oes gyda ti syniad neu farn amdanyn nhw dylet ti blogio fe ac anfon y ddolen iddyn nhw yn bendant. Mae’n well na llythyr preifat achos mae pobol eraill yn gallu defnyddio’r syniadau. Dw i’n licio meddwl bod y syniadau a sgwrs ar gael i bawb yn y cyfryngau o Golwg360 i S4C i Jazzfync a Gemau Fideo.

Meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru:

[…] As BBC Wales approaches its 50th anniversary in 2013, we need to provide audiences in Wales with permanent access to BBC Wales’ extraordinarily rich back-catalogue. Our archive is a national resource – a true national treasure – that should be enjoyed by everyone wherever they chose. […]

Gwych. Does dim rhaid aros tan 2013. 🙂

Mae ‘cofio’ yn rhan fawr o hunaniaeth Cymru. Cofiwch, wyt ti’n cofio Macsen ayyb ayyb. Dylen ni adlewyrchu ein blaenoriaethau ‘cofio’ ar-lein. Rhyw ddydd byddan ni’n cymryd argaeledd y stwff yn caniataol.

Gwnes i weld y dyfyniad yma mewn trawsgrifiad araith hir ar Click on Wales (mae’r erthygl wedi diflannu, gobeithio bydd e’n ôl cyn hir). Hoffwn i weld blog go iawn gan Rhodri Talfan gyda chofnod bob mis i esbonio penderfyniadau a derbyn sylwadau – yn hytrach na rhywbeth ar yr IWA.

Beth bynnag, mae’r paragraff yn teimlo fel ateb uniongyrchol i rai o fy nymuniadau mis yma ynglŷn ag argaeledd rhaglenni. Siŵr o fod cyd-ddigwyddiad, mae’r BBC yn meddwl pethau tebyg. Felly bydd rhaid i mi codi fy disgwyliadau nawr. 🙂

OK mae’r archif yn iawn, mae addewid. Beth am stwff cyfoes? Hoffwn i glywed mwy o fanylion am:

[…] We need to redefine our ambitions for Welsh language digital services – and to focus much more on services that complement rather than replicate those available in English if we’re to achieve significant impact. […]

Mae’n dibynnu ar dy athroniaeth. Dylen ni trio creu byd cyflawn uniaith Cymraeg? Neu jyst derbyn y ffaith bod pobol yn dilyn stwff yn Saesneg? Dw i’n meddwl bod y pwyslais ar gynnwys unigryw yn bwysig iawn. Ond mae peryg o roi Cymraeg yn y cornel. Neu cadw Cymraeg yn y cornel. Mae ‘popeth yn Gymraeg’ yn arbrawf meddwl ardderchog ar-lein. O’n i’n ystyried creu ategyn Firefox i flocio Saesneg ar y we, fel jôc wrth gwrs ond hefyd fel prawf i weld pa mor hir ti’n gallu teithio yn Gymraeg cyn i ti bwrw wal ieithyddol (bancio ar-lein, dadansoddiad newyddion rhyngwladol, ffeindio ffilmiau…).

Tra bydd Saesneg yn tyfu mwy a mwy ar-lein bydd pob iaith yn wynebu’r un cwestiwn cyn hir. Dw i wir yn meddwl bod y gwaith ’ma yn Gymraeg yn arloesol.

Ffenestr rhaglenni ar BBC iPlayer

Roedd dau trafodaeth da ar sioe Dylan Iorwerth heddiw – un am brotestiadau meddiannu yng Nghymru ac un am PRS a cherddorion Cymraeg – a mwy.

Am faint fydd sioe Dylan Iorwerth yn barhau ar BBC iPlayer? Un wythnos yn unig.

Yfory bydd y sioe cyntaf o fis Tachwedd yn cwympo yn yr ebargofiant digidol Cymraeg. Bob dydd wythnos yma byddan ni’n colli sioe arall.

Ond wythnos nesaf bydd sgyrsiau am yr un pynciau yn y tafarnau, caffis, newyddion, blogiau a phlatfformau cymdeithasol ond tra bod nhw yn barhau bydd BBC a Dylan Iorwerth yn colli’r cyfle i gyfrannu i’r sgyrsiau ac i fanteisio am yr alw dyfodol. Anffodus.

Mae’n rhaid gofyn: pam mae’r cyfle i wrando, y ffenestr, mor fyr yma?

Heblaw ychydig o gerddoriaeth does dim hawliau anodd mewn sioeau fel Dylan Iorwerth neu teledu trafodaeth fel Pawb a’i Farn.

Model bosib fydd archif Desert Island Discs. Dw i ddim yn anghofio’r podlediadau BBC lle maen nhw yn ailgylchu’r cynnwys o rhai o’r sioeau, e.e. Ar y Marc. Maen nhw yn model o beth sy’n bosib ond er bod nhw yn MP3 heb unrhyw DRM iPlayer dydyn nhw ddim yn parhau ar y wefan am fwy na mis.

Dylai’r sgyrsiau fel ’na bod ar gael am byth, rhywsut.

Am faint fydd unrhyw erthygl a sylwadau ar Golwg360 parhau? Am flynyddoedd i ddod. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i unrhyw erthygl mewn cofnod blog neu ebost unrhyw bryd, e.e. erthygl a sgwrs am PRS a cherddorion. (Neu’r 64 cofnod blog gan Dylan Iorwerth.)

Mae toriadau yn y BBC, dw i’n deall, ac efallai does dim lot o gyllideb i gynnig mwy o ffrydiau awdio. (Er bod rhai o bethau ar iPlayer am flynyddoedd, e.e. ar eitem It Felt Like A Kiss gan Adam Curtis, deadline y cynnwys yw 11:59PM Dydd Gwener, 31 mis Rhagfyr 2038.) Un ffordd rhad i helpu’r trafodaethau bydd trwydded wahanol. Yn hytrach na ‘Hawlfraint BBC – cedwir pob hawl’ jyst dweud ‘Hawlfraint BBC – mae’r trafodaethau yn y sioe yma wedi cael ei rhyddhau dan Creative Commons BY-NC’. Mae trwydded BBC, sef y Creative Archive Licence, sy’n cael ei defnyddio bob hyn a hyn ond dw i ddim wedi gweld unrhyw ddefnydd ar gynnwys yn Gymraeg. Beth bynnag, fydd ddim angen unrhyw feddalwedd neu gostau newydd i newid y polisi achos mae pobol eraill yn gyfrifol am y gwesteia. Bydd unrhyw yn gallu copïo sioe i roi ar blog neu Soundcloud neu Audioboo ayyb. Mae pobol yn wneud e eisoes, e.e. Dave Datblygu ar Beti a’i Phobol.

Os mae’n werth cynhyrchu rhaglen mae’n rhaid bod modd sicrhau bywyd y rhaglen am fwy nag wythnos, modd cyfreithlon.

Siŵr o fod pobol yn y BBC yn cwrdd rhywbryd wythnos yma neu fis yma i drafod sut i godi niferoedd o wrandawyr a’i chyfranogiad, pherthnasedd a ‘reach’ y rhaglennu, proffil Dylan Iorwerth ac ati. Dyma un ffordd effeithiol.

(Gyda llaw un ffordd arall fydd cysoni’r enw a’r hashtag i naill ai Dylan Iorwerth #dylaniorwerth neu Dan yr Wyneb #danyrwyneb, nid y dau!)

Gwendid newyddion BBC – rhan 2

Cofia’r dolen i Gymru ar brif dudalen BBC News?

Roedd dewis ‘Wales’ am newyddion yn Saesneg a ‘Cymru’ am newyddion yn Gymraeg.

Mae’r BBC newydd cael gwared â’r dolen ‘Cymru’ rhywbryd wythnos yma. Does dim cyfeiriad i Gymru ar y tudalen bellach.

Mae’r prif dudalen yn ddarn o real estate pwysig iawn ac mae’r blaenoriaethau yna yn adlewyrchu blaenoriaethau’r sefydliad. Cer i’r prif dudalen http://www.bbc.co.uk/news/. Neu hyd yn oed http://www.bbc.co.uk/news/wales/!

Mae’r adran newyddion yn Gymraeg yn cuddio rhywle. Ydyn nhw eisiau hyrwyddo’r adran felly? Faint o ymwelwyr fydd yn dod ar draws yr adran nawr? Cofia mae BBC wedi gwneud arferiad o gynnig gwasanaethau Cymraeg (fel Chwaraeon) dan y cownter cyn iddyn nhw eu lladd.

Dw i wedi trio ychwanegu Cymru fel lleoliad ar fy fersiwn personol o’r tudalen ond mae’r system yn dehongli’r gair fel ‘Chinnor, Oxfordshire’. Ydy e’n gweithio i ti? Efallai os rydyn ni i gyd yn trio bob dydd byddan nhw yn derbyn y neges?

Gyda llaw dyma rhai o’r blaenoriaethau ar y brif dudalen heno:

  • Latin America
  • BBC World Service – News and analysis in 27 languages (ieithoedd eraill)
  • Uniforms quiz – Do you know your Grange Hill badges?
  • High drama – Painted ladies and bamboo music – a guide to Chinese opera
  • Bottled bronze – When did fake tan become the new norm?

Gweler rhan 1 os ti ddim yn ddigon blin eisoes.

Gwendid newyddion BBC

O’n i’n pori y wefan BBC neithiwr. Dw i newydd creu set ar Flickr o’r tudalennau blaen Newyddion BBC yn amrywiaeth o ieithoedd gwahanol. Mae pob un yn sôn am Tripoli a Gaddafi: Saesneg, Sbaeneg, Rwsieg, Arabeg, Tsieinëg. Yr unig eithriad yw Cymraeg.

Newyddion BBCMae darpariaeth Cymraeg ar-lein gan BBC wedi cael toriadau eraill yn ddiweddar (gweler marwoliaeth BBC Chwaraeon hefyd). Mae’r straeon ‘Carchar am annog terfysg’ a ‘Carcharu aelod Cymdeithas yr Iaith’ yn bwysig a pherthnasol i ddarllenwyr Cymraeg ond ble mae’r newyddion y byd? Mae’r model Golwg360 yn dda – blaenoriaeth i straeon y byd a straeon i ddiddordeb i ddarllenwyr Cymraeg.

Hoffwn i ofyn cwestiynau eraill am y gwasanaeth Cymraeg newyddion newynog.

Ble mae’r dyluniad newydd achos mae’n edrych fel y dyluniad o 2008 neu rhywbeth (gweler hefyd: Gaeleg)? Ydy siaradwyr Cymraeg yn disgwyl llai o safon yn y dyluniad?

Ble mae’r sain a fideo newydd achos bore ’ma maen nhw yn dangos rhai o’r un fideos o straeon Dydd Llun, dau diwrnod yn ôl?

Faint o bobol sy’n siarad rhai o’r ieithoedd eraill fydd yn gweld eisiau eu gwasanaethau os fydd angen toriadau rhywle? Gwnaf i dewis enghraifft: Sbaeneg. Sori am ddewis Sbaeneg ond faint o siaradwyr Sbaeneg fydd yn sylwi toriadau yn y gwasanaeth BBC os mae iaith o Brydain angen tipyn bach mwy o bluraliaeth?

Wrth gwrs mae pobol wedi gofyn yr un cwestiynau yma am wasanaethau eraill fel radio dros y blynyddoedd. Does dim problem gyda gweithwyr BBC sydd yn wneud job dda gydag adnoddau sydd ar gael. Dw i eisiau gwybod beth mae pobol sy’n wneud y penderfyniadau cyllidebol yn meddwl.