Cathod bach yn y rhyfel sbam MediaWiki

Mae ein gwefan Hedyn, sydd yn rhedeg ar y feddalwedd rydd MediaWiki, wedi dioddef o sbam yn ddiweddar.

Pam fasai rhywun eisiau sbamio Hedyn? Yn hytrach na sbam trwy e-bost mae pobol yn rhedeg sgriptau awtomatig er mwyn creu cyfrifon a thudalennau gyda thestun a dolenni i wefannau sydd yn werthu bob math o gynnyrch dodji. Y prif bwriad yw cynyddu’r sgorau ar Google trwy adeiladu dolenni o gwmpas y we.

Does dim byd peryglus hyd yn hyn o ran gwarchodaeth, dim pysgota drwg yn ôl pob golwg. Ond mae’r sbam yn cymryd lle ar y cronfa ddata ac yn ymyrru gyda’r profiad defnyddiwr. (Mae’r wefan yn wici sydd yn cynnwys adnoddau Cymraeg, dolenni defnyddiol a’r Rhestr, chyfeirlyfr enfawr o (bron) pob blog yn Gymraeg.)

Pan wnes i Gyfrifiadureg gwnes i ddysgu am y cyfaddawd rhwng gwarchodaeth a hygyrchedd ar unrhyw system cyfrifiadur. Y ffordd gorau i sicrhau’r gwarchodaeth gorau ar Hedyn fydd cyfrifiadur caeëdig ar wely’r môr. A’r ffordd gorau i sicrhau hygyrchedd fydd cyfrifiadur agored ar Heol Santes Fair yng Nghaerdydd! Rydyn ni eisiau cydbwysedd rhwng y dau, rhywbeth sydd yn digon hawdd i fod yn defnyddiol ond yn digon saff i warchod rhag sbam.

Captcha

Gwraidd y broblem yw’r cyfrifon awtomatig. Ond o’n i’n meddwl bod Captcha a ReCAPTCHA yn codi gormod o stwr ac yn passé (er bod yr agenda i ddigido llyfrau ar ReCAPTCHA yn wych).

Felly dw i wedi gosod ategyn newydd o’r enw KittenAuth bellach. Pob tro mae rhywun yn gofrestru mae pump llun gwahanol yn ymddangos. Ac mae’n rhaid ffeindio’r llun o gath bach er mwyn creu cyfrif. Mae modd gweld y delweddau yma (ond plis paid â chreu cyfrifon di-angen!). Mae’r job yn hawdd i berson ond yn anodd i feddalwedd.

Mae’r cyfieithiad Cymraeg o KittenAuth ar gael yma.

(Gyda llaw sut mae Wicipedia yn delio gyda sbam?)

Wrth gwrs mae’r sbamwyr yn gallu sgwennu datrysiad i’r ategyn KittenAuth sydd yn seiliedig ar enwau ffeiliau achos dyw’r ategyn ddim yn cuddio’r enwau fel 19.png eto. Neu mae’r sbamwyr yn gallu cyflogi rhywun hyd yn oed i ffeindio’r gath bach. Fydd y Gymraeg ddim yn drysu pobol achos mae’r dolenni a nodweddion i gyd yn gyson trwy MediaWiki ym mhob iaith.

Captcha Cath!

Ond rydyn ni’n ennill y rhyfel am y tro, diolch i’r cathod bach.